Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae Cynllun Adnodd Coedwig Abergynolwyn wedi’i leoli o fewn dyffrynnoedd Tal-y-llyn a Dysynni, wrth droed Cadair Idris ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri. Nodweddir y dyffrynnoedd rhewlifol hyn gan olygfeydd mynyddig dramatig, gydag aneddiadau wedi'u gwasgaru yma ac acw ar hyd gwastatir y dyffryn. Y mwyaf o'r aneddiadau hyn yw pentref Abergynolwyn, ar ochr ogleddol prif floc coedwig Cynllun Adnodd Coedwig Abergynolwyn. Mae ffordd B4405 yn rhedeg i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar hyd gwaelod dyffryn Tal-y-llyn, gan gysylltu'r cynllun adnodd coedwig â Thywyn, ar yr arfordir gorllewinol, a Dolgellau a ffyrdd A487 a A470 yn y Dwyrain.
Mae'r cynllun adnodd coedwig yn cynnwys prif floc coedwig Abergynolwyn (596 ha), bloc y fynwent (10 ha) a bloc Coed y Graig (35 ha), sy'n rhoi cyfanswm o 641 hectar o dir i gyd. Mae bloc y fynwent ac wyneb gogledd-ddwyreiniol prif floc Abergynolwyn yn rhedeg ar hyd wyneb deheuol y dyffryn rhewlifol serth ac wedi’u lleoli'n amlwg uwchben pentref Abergynolwyn. O'r fan hon mae prif floc Abergynolwyn yn dilyn cwrs Nant Gwernol a Nant Llaeron, ar hyd wynebau gogleddol Foel Fawr, Tarrenhendre a Foel y Geifr, sy’n sefyll uwchben hen chwarel lechi Bryneglwys. Mae bloc Coed y Graig tua 3 km i'r gogledd-orllewin o'r blociau eraill, ar wyneb gogleddol Dyffryn Dysynni.
Lleolir y cynllun adnodd coedwig ym mhen gorllewinol coedwig enfawr Dyfi, ac fel sy'n nodweddiadol yn ardal y Ddyfi, conwydd yn bennaf yw blociau cynllun adnodd coedwig Abergynolwyn. Er bod prif floc Abergynolwyn wedi'i gysylltu'n uniongyrchol â choedwig ehangach Dyfi, mae pen dwyreiniol y bloc rheoli hwn wedi'i ddiffinio gan grib Foel y Geifr, sy'n sefyll yn y tir mynyddig rhwng pentrefi Abergynolwyn a Phantperthog. Mae Biosffer Dyfi hefyd yn ffinio â phen deheuol prif floc Abergynolwyn ar hyd y griblinell hon. Safleoedd eraill sydd wedi’u gwarchod gan Ewrop yng nghyffiniau'r Cynllun Adnodd Coedwig yw ACA Cadair Idris ac AGA Craig yr Aderyn. Mae cynefin cyfagos y blociau Cynllun Adnodd Coedwig yn cynnwys tir pori amaethyddol amgaeedig a mynydd agored, blociau coedwigoedd conwydd masnachol, ac ardaloedd llai o goetiroedd conwydd/llydanddail cymysg ar y llethrau isaf a’r glannau afonydd. Mae'r rhan fwyaf o dir y Cynllun Adnodd Coedwig wedi'i neilltuo ar gyfer mynediad agored ar droed o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy ac mae hefyd yn caniatáu mynediad i geffylau a beiciau drwy ganiatâd.
Mae 97.9% o gynllun adnodd coedwig Abergynolwyn yn perthyn i ddalgylchoedd afonydd 'Dysynni - uchaf ac 'Dysynni – isaf', gyda'r gweddill o fewn dalgylchoedd 'Fathew', 'Pennal' a 'Gogledd Dulas'. Mae'r holl ddalgylchoedd hyn yn cael eu categoreiddio fel 'Cymedrol' neu 'Dda' yn ôl asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, er bod pedwar o'r pump hefyd yn cael eu categoreiddio fel rhai sy’n methu cyrraedd trothwyon sensitifrwydd i asid.
Cyfleoedd a Blaenoriaethau
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y Cynllun Adnodd Coedwig:
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Coedwigoedd Abergele er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y coedwigoedd.
Bydd crynodeb o ymatebion a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar y wefan hon bedair i chwe wythnos wedi'r dyddiad cau.
Share
Share on Twitter Share on Facebook