Cynllun Adnoddau Coedwig Dyfnant
Trosolwg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli'r coetiroedd a'r coedwigoedd yng Nghymru sy'n eiddo i'r cyhoedd yn gynaliadwy. Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy'n ymweld â hwy a'r rheiny sy'n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Dyfnant yn cynnwys ardal fawr o goedwig sydd oddeutu 14 milltir i'r gogledd-orllewin o'r Trallwng, yn ardal awdurdod lleol Powys. Gerllaw, mae cymunedau pentrefol lleol Llangadfan, Llwydiarth, Garthbeibio a’r Foel.
Ceir mynediad i'r goedwig o'r B4395 o Lwydiarth.
Lleolir Coedwig Dyfnant rhwng dalgylchoedd afon Fyrnwy ac afon Twrch. Mae Mynyddoedd Cambria i'r dwyrain o Ddyfnant.
Mae Coedwig Dyfnant yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol i Gymru. Bydd y Goedwig Genedlaethol yn creu ardaloedd o goetir newydd ac yn helpu i adfer rhai o goetiroedd sy'n bodoli eisoes gan gynnwys rhai o goetiroedd hynafol unigryw Cymru. Gydag amser, bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig trwy Gymru gyfan gan ddod â buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Isod, ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun, ynghyd â mapiau dangosol ar gyfer y cynllun adnoddau coedwig:
Crynodeb o Amcanion Cynllun Adnoddau Coedwig Dyfnant
Mae'r ddogfen ganlynol yn helpu i esbonio rhai o'r categorïau a ddangosir ar y mapiau:
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
- Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynhyrchiant pren sy'n cefnogi cyflogaeth ac economi Cymru.
- Gwella gwydnwch coetir trwy amrywio'r rhywogaethau o goed mewn ardaloedd lle ceir amodau pridd addas er mwyn eu hamddiffyn rhag plâu a chlefydau ac i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.
- Parhau gyda'r gwaith i adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol i gyflwr coetir lled-naturiol gan ddefnyddio planhigion llydanddail a systemau coedamaeth bach eu heffaith.
- Amddiffyn nodweddion a chynefinoedd allweddol y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) lleol.
- Cefnogi'r cysylltiad rhwng y cynefinoedd wrth ochr llwybrau troed a llwybrau cyhoeddus, nentydd ac afonydd yn y goedwig.
- Nodi a diogelu nodweddion treftadaeth yn y goedwig.
- Hyrwyddo mynediad i'r goedwig at ddefnydd y cyhoedd er budd eu hiechyd meddwl a llesiant corfforol.
- I gadw cymeriad y goedwig o fewn y dirwedd gyfagos ac ystyried yr effeithiau gweledol er budd yr ymwelwyr a thrigolion.
- Hoffem wybod eich barn a'ch sylwadau ar y cynlluniau newydd ar gyfer Coedwig Dyfnant fel y gall ein helpu i wella'r rheolaeth hirdymor.
Pam bod eich barn yn bwysig
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Dyfnant er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Ardaloedd
- Aberaeron
Cynulleidfaoedd
Diddordebau
- Species Licence
- Trwydded Rhywogaeth
- Community Voulnteering
- Gwirfoddoli Cymunedol
- Forest Management
- Rheoli Coedwig
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook