Bwriadu gwahardd mynediad ym Meysydd Tanio Trawsfynydd

Ar gau 28 Gorff 2023

Wedi'i agor 1 Gorff 2023

Trosolwg

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu gwahardd mynediad ym Meysydd Tanio Trawsfynydd am gyfnod o bum mlynedd namyn un diwrnod o dan adran 25(1)(b) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 er mwyn osgoi perygl i’r cyhoedd oherwydd y risgiau sy'n deillio o ordnans nad yw wedi ffrwydro. 

Mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu ar Fynediad) (Cymru) 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru, fel yr awdurdod perthnasol, gyhoeddi cyfarwyddyd drafft ar wefan pan fo’n bwriadu gwahardd neu gyfyngu ar fynediad am gyfnod o fwy na chwe mis.  

Mae'r safle, a adwaenir yn lleol fel Meysydd Tanio Trawsfynydd, yn cynnwys ardal o 365.5 hectar, sydd â'r Cyfeirnod Grid Cenedlaethol o SH760326 yng nghanol yr ystad, ac mae wedi'i leoli tua 350 metr uwchlaw lefel y môr. 

Mae mynediad i’r safle hwn wedi’i eithrio ar hyn o bryd o dan gyfarwyddyd hirdymor presennol sydd i fod i ddod i ben ar 27 Awst 2023. Mae cyfarwyddyd yn golygu bod yr awdurdod perthnasol, sef Cyfoeth Naturiol Cymru yn yr achos hwn, wedi rhoi awdurdodiad i wahardd mynediad o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy. Nid yw’n effeithio ar hawliau eraill a all fodoli ar y tir, megis hawliau tramwy cyhoeddus. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud cais o dan adran 25(1)(b) – Osgoi Perygl i’r Cyhoedd o’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy i eithrio mynediad am bum mlynedd arall oherwydd na fu unrhyw ymyrraeth ar y safle hwn i ddileu’r risgiau sy'n deillio o ordnans nad yw wedi ffrwydro ac mae'r perygl o anaf difrifol neu farwolaeth yn dal i fod yno. 

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod perthnasol ymgynghori â'r Fforwm Mynediad Lleol ar gyfer yr ardal a sefydliadau eraill (a nodir yn y Rheoliadau) pan wneir cais am gyfarwyddyd sy'n para mwy na chwe mis ac ystyried unrhyw gyngor a roddir. Mae'r Fforymau Mynediad Lleol yn gyrff cynghori a sefydlwyd o dan adran 94 o'r Ddeddf i gynghori ar wella mynediad cyhoeddus ar gyfer gweithgareddau hamdden awyr agored.  

Gall CNC ystyried unrhyw sylwadau eraill y mae’n eu cael os yw’n meddwl ei bod yn briodol. 

Gellir gweld y cyfarwyddyd hirdymor arfaethedig a’r adroddiad asesu trwy glicio ar y dolenni canlynol: 

Cyfarwyddyd drafft 

Mae’r cyfarwyddyd drafft hwn yn darparu’r manylion, yr wybodaeth a’r gymeradwyaeth dros dro i wahardd mynediad cyhoeddus am gyfnod o bum mlynedd, gan ddechrau ar 27 Awst 2023. 

Adroddiad asesu 

Mae’r adroddiad asesu hwn yn manylu ar sut mae CNC wedi ystyried y cais gan ddefnyddio canllawiau statudol cymeradwy Llywodraeth Cymru i awdurdodau perthnasol. 

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Forest Management
  • Rheoli Coedwig