Ffurflen ar-lein i wneud cais am daflenni cyngor llifogydd
Cyngor a chymorth cyffredinol
Beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd
Cyngor ymarferol ynghylch beth i’w wneud er mwyn eich diogelu eich hun a’ch eiddo (taflen A5, 24 tudalen).
Gweld a lawrlwytho y ddogfen hon mewn ffenestr newydd (PDF, 752 KB)
Ydych chi wedi cofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd am ddim?
Ffurflen gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim. Unwaith y bydd y daflen hon wedi'i chwblhau, gellir ei phostio yn ôl atom am ddim (taflen A5, 24 tudalen).
Cynlluniwyd y daflen hon i'w phostio felly mae ar gael fel copi caled yn unig.
Gallwch gofrestru ar-lein am ddim yn:
https://cyfoethnaturiol.cymru/cofrestrwch
Neu gallwch gysylltu â Floodline 24/7:
- Ffôn: 0345 988 1188
- Sgwrs drwy deipio: 0345 602 6340 (ar gyfer unigolion trwm eu clyw)
Llifogydd – pwy all helpu?
Gwybodaeth am wahanol sefydliadau sy'n ymwneud â llifogydd, a phwy i gysylltu â nhw ar gyfer gwahanol faterion (taflen A4, un dudalen).
Gweld a lawrlwytho y ddogfen hon mewn ffenestr newydd (PDF, 627 KB)
Ar ôl llifogydd
Cyngor ymarferol ar ôl i chi gael profiad o lifogydd. Wedi'i blygu i fyny mae'r un maint â cherdyn credyd, sy'n agor hyd at A4.
Gweld a lawrlwytho y ddogfen hon mewn ffenestr newydd (PDF, 406 KB). Rydym yn argymell gwneud cais am gopi caled o'r daflen hon.
Diweddarwyd ddiwethaf 6 Chwefror 2023