Cofrestrwch i ymuno â'n Panel Defnyddwyr Rhybuddion Llifogydd

Closes 31 Jul 2025

Opened 5 Jul 2023

Overview

Rydym yn gweithio i wella'r Gwasanaeth Gwybodaeth Rhybuddion Llifogydd. Mae angen eich help arnom i wneud i'r gwasanaeth weithio i chi. Gallwch helpu i lywio dyfodol y gwasanaeth drwy rannu eich barn a'ch profiadau.

Cofrestrwch i ymuno â'n Panel Defnyddwyr Llifogydd. Mae hyn yn golygu y cewch gyfle i gymryd rhan mewn ymchwil defnyddwyr. Gallai hyn gynnwys arolygon, cwestiynau e-bost, neu sgyrsiau gydag aelod o'n tîm. Nid yw cofrestru yn eich ymrwymo i unrhyw beth.

Gall unrhyw un gofrestru i gymryd rhan:

  • p'un a ydych yn defnyddio ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd, ai peidio
  • p'un a oes gennych brofiad o lifogydd ai peidio.  

Mae'r ffurflen fer yn gofyn am eich manylion cyswllt. Mae yna hefyd le i adael adborth os oes gennych rywbeth i'w rannu eisoes.

Why your views matter

Rydym am ddarparu Gwasanaeth Gwybodaeth Rhybuddion Llifogydd sy'n gweithio i bawb, sy'n darparu rhybuddion defnyddiol a'r wybodaeth gywir yn y ffordd gywir.

Mae angen i ni glywed gennych chi i ddeall beth sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio i chi, beth rydych chi'n ei hoffi, ei eisiau a'i angen. Po fwyaf yr ydym yn deall ein defnyddwyr, y gorau yw'r gwasanaeth y gallwn ei ddarparu. 

Byddem wrth ein bodd yn cael adborth gan ystod eang o bobl a busnesau. Does dim ots pwy ydych chi, na beth rydych chi'n ei wneud, mae eich barn yn bwysig i ni.

Drwy gymryd rhan, byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth wella'r Gwasanaeth Gwybodaeth Rhybuddion Llifogydd er mwyn helpu pobl ledled Cymru i fyw gyda pherygl llifogydd yn well. 

 

Ymunwch â'n panel defnyddwyr

Areas

  • All Areas

Audiences

  • Flooding

Interests

  • Flooding