Ymgynghoriad ar Adroddiad Cwmpasu Arfarniad o Gynaliadwyedd Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren

Yn cau 21 Mai 2024

Wedi'i agor 9 Ebr 2024

Trosolwg

Rydym yn ymgynghori ynghylch Adroddiad Cwmpasu’r Arfarniad o Gynaliadwyedd a Dogfen Weledigaeth Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren (SVWMS). Rydym hefyd wedi cynnwys map stori yn ein dogfennau i ychwanegu rhagor o wybodaeth.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal gan y SVWMS. Mae partneriaid y cynllun yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Asiantaeth yr Amgylchedd (EA), Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Amwythig.

Gweler isod yn yr adran 'Dogfennau Cysylltiedig' ar gyfer Adroddiad Cwmpasu'r Arfarniad o Gynaliadwyedd, (gan gynnwys yr holl atodiadau) y Ddogfen Weledigaeth a’r map stori ar gyfer Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren. Ceir hefyd fanylion ar sut i ymateb ar-lein, drwy e-bost neu drwy’r post. 

Gellir mynd i’r ymgynghoriad drwy'r ddolen 'dechrau'r ymgynghoriad' yn y blwch gwyrdd â'r enw 'Dweud eich dweud' ar waelod y dudalen hon.

I'r rhai nad ydynt yn gallu defnyddio'r rhyngrwyd i weld y dudalen we hon, gallant ffonio’r EA ar 03708 506 506 i ofyn am gael anfon copi o’r wybodaeth atoch drwy’r post neu drwy e-bost. 

Pam mae eich barn yn bwysig

Dros y blynyddoedd, mae tywydd garw wedi bod yn cael effaith gynyddol ar gymunedau ac adnoddau dŵr.

Mae Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren yn ddull cydweithredol o reoli dŵr. Gan weithio’n agos gyda’n partneriaid yn Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Powys a Chyngor Swydd Amwythig, ein nod yw darparu cynllun arloesol a fydd yn cefnogi cymunedau ar draws ardal fawr – a hoffem gael eich cymorth i wireddu hyn.

Gwyddom fod gan gymunedau ar hyd yr Afon Hafren ddigonedd o brofiad o sut y gall tywydd garw effeithio arnynt, ac rydym am greu cynllun sy’n ystyried pob barn.

Byddem wrth ein bodd yn clywed gan y cymunedau lleol a rhanddeiliaid, yn ogystal ag unrhyw un y gallai dulliau rheoli dŵr yr Afon Hafren effeithio arno, a hoffem ddeall eich barn ar y cynllun i gael y canlyniad gorau posibl.

Hoffem glywed eich barn am Gynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren ac Adroddiad Cwmpasu’r Arfarniad o Gynaliadwyedd fel y gallwn greu cynllun sydd wir yn cwmpasu ac o blaid datblygu cynaliadwy, ac sy'n mynd i'r afael â materion a chyfleoedd lleol. 

Sut y gallwch ymateb

Mae dolen ar waelod y dudalen hon a fydd yn mynd â chi i'r ymgynghoriad. 

Yma, gallwch gyflwyno eich ymateb gan ddefnyddio ein hofferyn ar-lein a fydd yn eich galluogi i reoli eich sylwadau yn fwy effeithiol. Bydd hefyd yn ein helpu i gasglu a chrynhoi ymatebion yn gyflym ac yn gywir yn ogystal â lleihau costau’r ymgynghoriad.

Os byddai'n well gennych gyflwyno'ch ymateb drwy e-bost, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost canlynol: CynllunRheoliDwrDyffrynHafren@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Os yw'n well gennych gyflwyno'ch ymateb yn ysgrifenedig, ffoniwch yr EA ar 03708 506 506 i ofyn am gael anfon copi o'r ymgynghoriad atoch drwy’r post neu drwy e-bost. 

Beth sy’n digwydd nesaf?

Cydnabyddir yr holl ymatebion i'r Ymgynghoriad a darperir ymateb i gwestiynau. Bydd holl ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu coladu, ynghyd ag ymatebion i gwestiynau, ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori i’w hystyried yn briodol.

Bydd ein partner - Asiantaeth yr Amgylchedd yn ceisio sicrhau bod yr holl ymatebion ar gael i'r cyhoedd ar ôl yr ymgynghoriad, oni fyddwch wedi gofyn yn benodol i ni gadw eich ymateb yn gyfrinachol.

Ni fyddant yn cyhoeddi enwau’r unigolion sy’n ymateb, ond byddwn yn cyhoeddi enw’r sefydliad ar gyfer yr ymatebion hynny a wneir ar ran sefydliadau.

Os byddwch yn ymateb ar-lein neu'n rhoi cyfeiriad e-bost i ni, byddwn yn cydnabod eich ymateb. Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, cyhoeddir crynodeb o’r ymatebion ar ein gwefan.

Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, efallai y bydd hi’n ofynnol i ni gyhoeddi eich ymateb i’r ymgynghoriad hwn, ond ni fyddwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol. Os byddwch wedi gofyn i'ch ymateb gael ei gadw'n gyfrinachol, mae'n bosibl y bydd yn dal yn ofynnol i ni ddarparu crynodeb ohono.

Datganiad Preifatrwydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei amddiffyn pan fyddwch chi'n ymateb i arolwg drwy’r porth hwn. Pe baech yn rhoi unrhyw ddata personol inni (e.e. eich enw llawn, cyfeiriad, rhif ffôn neu e-bost), hoffem ichi wybod y bydd yn cael ei gadw’n ddiogel am gyfnod cyfyngedig o amser, ac yn cael ei ddefnyddio at y dibenion a ddisgrifir yn yr arolwg yn unig ac yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol ar ddiogelu data.

Sylwch: Pan fyddwn yn cynnal arolwg, fel arfer nid oes angen gofyn am wybodaeth bersonol gennych chi, ond ar rai adegau prin, efallai y byddwn yn gofyn am rai.

Pryd fyddem ni'n gwneud hynny?

Efallai y byddwn yn gofyn i chi roi eich manylion cyswllt:

• pe bai gennych ddiddordeb mewn siarad â ni ymhellach am ymgynghoriad neu dystiolaeth, neu mynychu sesiwn ddilynol fel grŵp ffocws

• pe bawn yn lansio gwasanaeth newydd ac rydych wedi mynegi diddordeb ac yr hoffech gael mwy o fanylion.

Mae yna hefyd opsiwn i dderbyn copi o'ch ymateb i'r arolwg pan fyddwch chi'n ei gyflwyno. I wneud hynny mae angen i chi roi cyfeiriad e-bost.  Ni fydd gan CNC mynediad i'r cyfeiriad e-bost hwn, gan ei fod yn cael ei storio gan ddarparwr y system; Delib, sydd hefyd yn gorfod cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.

Mae’r holl fanylion am sut y mae CNC yn cydymffurfio gyda’r rheoliadau i’w gweld trwy’r ddolen isod.

Cymraeg: Hysbysiad Preifatrwydd Cyfoeth Naturiol Cymru

Sylwch y bydd canlyniadau yr ymgynghoriad a dderbynnir gan CNC yn cael eu rhannu yn ddi-enw ag Asiantaeth yr Amgylchedd, a fydd wedyn yn coladu ac yn prosesu'r canlyniadau.

 

Have your say

Ardaloedd

  • Severn

Cynulleidfaoedd

  • Flooding

Diddordebau

  • Flooding