Mae gan holl adar gwyllt Cymru warchodaeth gyfreithiol. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru nifer o bwerau i awdurdodi eraill i ladd neu gymryd rhywogaethau penodol o adar gwyllt, wyau a nythod at ddibenion penodol, er enghraifft er mwyn atal niwed difrifol i gnydau, da byw neu bysgodfeydd, i warchod iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd, neu i warchod rhywogaethau eraill o fywyd gwyllt.
Rydym yn ymgymryd ag adolygiad o sut rydym yn arfer y pwerau hyn.
Mae'r adolygiad hwn yn ystyried mathau gwahanol o ganiatadau rydym yn eu cynnig a'r prosesau a ddefnyddir i gyflawni'r gweithgareddau hyn i geisio gwneud gwelliannau.
Pam ein bod yn ymgynghori?
Rydym am gael eich barn ar ein cynigion.
Bydd canfyddiadau'r ymgynghoriad yn helpu i lunio ein hymagwedd yn y dyfodol i'r caniatadau rydym yn eu rhoi ar gyfer saethu a dal adar gwyllt a dinistrio eu hwyau a'u nythod.
Beth rydym yn ymgynghori arno?
Mae'r ymgynghoriad yn ceisio'ch barn ar gynigion o ran ymagwedd CNC i reoleiddio saethu a dal adar gwyllt yng Nghymru a dinistrio wyau a nythod. Mae manylion ein cynigion mewn dogfen ymgynghori. Mae dolenni i’r ddogfen ymgynghori ynghyd â nifer o ddogfennau perthnasol eraill wedi’u nodi isod.
Darllenwch yr wybodaeth yn y ddogfen ymgynghori cyn ymateb.
Sut i ymateb
Dylech gyflwyno'ch ymateb i'r ymgynghoriad gan ddefnyddio'r arolwg ar-lein hwn. Dechreuwch drwy glicio ar y ddolen isod a fydd yn eich tywys i gwestiynau'r ymgynghoriad.
Os na allwch ymateb ar-lein, e-bostiwch Wildbird.Review@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ysgrifennwch at yr Ymgynghoriad Adolygiad Adar Gwyllt, Cyfoeth Naturiol Cymru, Maes y Ffynnon, Bangor LL57 2DW.
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Isod gallwch ddod o hyd i ddolenni i:
Mae rhagor o wybodaeth am yr adolygiad ar gael YMA.
Share
Share on Twitter Share on Facebook