Helpwch ni i lunio cynllun datblygu ynni Cyfoeth Naturiol Cymru
Overview
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn datblygu cynllun datblygu ynni ar gyfer yr ystad a reolir gan CNC, ynghyd â Llawlyfr Datblygwr ar-lein newydd.
Bydd y cynllun yn trosi’r uchelgeisiau a nodir yn Strategaeth Twf a Gwerth Cynaliadwy 2027-2031 yn gyfres o flaenoriaethau, meysydd ffocws a chamau gweithredu a fydd yn helpu i arwain datblygiad cyfleoedd ynni adnewyddadwy ar draws yr ystad yn y dyfodol.
Bydd y Llawlyfr Datblygwr ar-lein newydd yn ei gwneud yn haws i ddatblygwyr ddeall sut mae CNC yn gweithredu fel rheolwr tir, pa wybodaeth sydd ei hangen arnom gan ddatblygwyr, a’r prosesau a’r gofynion y gallai fod angen eu hystyried wrth i brosiect fynd rhagddo.
Ni ddylai’r holiadur gymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau. Gallwch ddewis pa gwestiynau i’w hateb ac nid oes angen i chi eu hateb i gyd.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Cynllun Datblygu Ynni
Mae’r cynllun datblygu ynni yn ymwneud yn benodol â phrosiectau ynni adnewyddadwy sydd ag effaith uniongyrchol ar yr ystad a reolir gan CNC, gan gynnwys prosiectau sydd wedi eu lleoli ar dir a reolir gan CNC, neu y mae arnynt angen mynediad, seilwaith neu hawliau tir eraill ar ei draws. Nid yw’n fwriad ystyried datblygiadau ynni adnewyddadwy nad oes ganddynt unrhyw ryngweithio uniongyrchol â thir a reolir gan CNC.
Rydym yn awyddus i ddeall a ydyw ein ffordd o feddwl bresennol yn cwmpasu’r meysydd cywir ar gyfer gweithredu a chyflawni, ac a oes unrhyw themâu, cyfleoedd neu heriau pwysig y dylem fod yn eu hystyried fel rhan o’r cynllun datblygu ynni.
Gallwch adolygu ein syniadau cychwynnol ac ateb ychydig o gwestiynau byr.
Llawlyfr Datblygwyr
Mae’r llawlyfr wedi ei fwriadu’n benodol ar gyfer prosiectau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar yr ystad a reolir gan CNC, a bydd yn canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy i ddechrau. Er enghraifft, datblygiadau ynni adnewyddadwy ar yr ystad, neu brosiectau sy’n gofyn am dir, mynediad, seilwaith neu hawliau eraill ar ei draws. Nid darparu canllawiau cyffredinol ar gyfer datblygiadau nad oes ganddynt unrhyw effaith uniongyrchol ar dir a reolir gan CNC yw’r bwriad.
Wrth ddatblygu’r llawlyfr, rydym yn awyddus i sicrhau ei fod yn rhoi’r wybodaeth y mae ar ddatblygwyr ei hangen wrth ymgysylltu â CNC ar gynnig prosiect datblygu ynni ar yr ystad a reolir gan CNC.
Gallwch adolygu ein syniadau cychwynnol ac ateb ychydig o gwestiynau byr.
Rhannwch eich barn
Areas
- All Areas
Audiences
- Datgarboneiddio
- Decarbonisation
Interests
- Biodiversity
- Community Engagement
- Datgarboneiddio
- Decarbonisation
- Gwerthu Pren
- Landscapes
- National Access Forum
- Stakeholder Management
- Timber sales
- Tirweddau
- Ymgysylltu cymunedol
Share
Share on Twitter Share on Facebook