Gwyddoniaeth Dinasyddion
Trosolwg
Mae gwyddoniaeth dinasyddion a monitro amgylcheddol dan arweiniad gwirfoddolwyr wedi tyfu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ar adeg pan fo cyllidebau’r sector cyhoeddus dan bwysau ac adnoddau’n gyfyngedig, mae wedi dod yn gynyddol bwysig i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod yn flaengar, archwilio dulliau casglu data amgen, a chydweithio â sefydliadau a grwpiau gwirfoddol lle bo’n briodol. Mae dinasyddion wyddonwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ofalu am amgylchedd naturiol Cymru. Yn aml, nhw yw’r ‘esgidiau ar lawr gwlad’, gan dreulio cryn dipyn o amser yn eu hardaloedd lleol ac yn cynnal gwaith monitro rheolaidd. Mae’r gwaith hwn yn cynhyrchu gwybodaeth werthfawr a all ategu anghenion tystiolaeth CNC ei hun.
Mae CNC yn cydnabod pwysigrwydd gwneud defnydd effeithiol o’r ymdrechion hyn. Nid yw gwyddoniaeth dinasyddion yn cymryd lle cyfrifoldebau statudol CNC; fodd bynnag, gall ddarparu cyd-destun ychwanegol, helpu i lenwi bylchau gofodol neu amserol yn ein gwaith monitro, a chryfhau ein dealltwriaeth o gyflwr adnoddau naturiol Cymru.
NRW aims to have a consistent approach across all areas and domains, ensuring that collaboration is fair, evidence-focused, and aligned with NRW’s statutory responsibilities and evidence needs.
Nod CNC yw cael dull cyson ar draws pob maes a pharth, gan sicrhau bod y cydweithredu yn deg, yn canolbwyntio ar dystiolaeth, ac yn cyd-fynd â chyfrifoldebau statudol ac anghenion tystiolaeth CNC.
Ar hyn o bryd rydym yn blaenoriaethu’r meysydd gweithgaredd canlynol:
- Cefnogi prosiectau sy’n canolbwyntio ar dystiolaeth sy’n cyd-fynd ag anghenion tystiolaeth CNC.
- Annog casglu data o ansawdd uchel, sydd wedi eu cynllunio a’u strwythuro’n dda, a all gyfrannu’n ystyrlon at ein gwaith.
- Darparu ymgysylltiad clir a chyson â grwpiau gwyddoniaeth dinasyddion ledled Cymru.
Sut i gydweithio â CNC
Y ffurflen gais cydweithrediad gwyddoniaeth dinasyddion yw’r llwybr ar gyfer grwpiau sy’n dymuno gweithio’n uniongyrchol gyda CNC. Mae hyn yn cynnwys ceisiadau am amser staff, cyngor technegol, defnyddio data, neu drefniadau partneriaeth ffurfiol. Mae hyn yn disodli’r broses ymgeisio flaenorol ar gyfer cynigion partneriaeth. Ffurflen gais cydweithrediad gwyddoniaeth dinasyddion
Rydym hefyd wedi cyflwyno cofrestr prosiectau gwyddoniaeth dinasyddion ar gyfer grwpiau sy’n dymuno rhannu gwybodaeth am eu gweithgareddau monitro yn unig. Mae’r ffurflen hon yn caniatáu i grwpiau gyflwyno manylion am eu gwaith heb ofyn am gydweithrediad. Bydd y gofrestr yn helpu CNC i lunio darlun cliriach o weithgarwch gwyddoniaeth dinasyddion ledled Cymru, a nodi cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol. Cofrestr Prosiectau Gwyddoniaeth Dinasyddion
Cyfyngiadau ar ymgysylltiad CNC
Gall gwyddoniaeth dinasyddion chwarae rhan bwysig wrth adrodd am ddigwyddiadau llygredd, ac rydym yn gwerthfawrogi’r cyfraniad hwn. Dylid parhau i roi gwybod am lygredd y gellir ei weld neu ei arogli’n glir drwy ein llinell gymorth digwyddiadau – Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol.
Yn fwy cyffredinol, mae CNC yn dilyn ein protocol ymateb i lygredd, Cyfoeth Naturiol Cymru / Dull newydd o ymateb i ddigwyddiadau llygredd, sy’n cyd-fynd ag asiantaethau a rheoleiddwyr eraill y DU. Bydd pob ymgysylltiad â gwaith gwyddoniaeth dinasyddion yn cydymffurfio â’r polisi hwn.
Sylwer ei bod yn annhebygol y bydd CNC yn ymuno â phartneriaethau lle mae data ansawdd dŵr gwyddoniaeth ddinasyddion yn cael eu casglu i sbarduno ymateb i lygredd ar unwaith, neu gamau gorfodi y tu hwnt i weithdrefnau ymateb i ddigwyddiadau arferol CNC. Gweler: Cyfoeth Naturiol Cymru / Dull newydd o ymateb i ddigwyddiadau llygredd.
Os ydyw CNC yn cytuno i bartneriaeth gwyddoniaeth ddinasyddion, nid yw hyn yn eithrio unrhyw grŵp nac unigolyn y tu allan i CNC rhag eu cyfrifoldeb i ofyn am, a chael yr holl ganiatâd angenrheidiol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i fynediad i dir ac unrhyw drwyddedau perthnasol.
Ansawdd data
Er mwyn i CNC gydweithio â phrosiect gwyddoniaeth dinasyddion, rhaid i’r data ddilyn egwyddorion FAIR (Canfyddadwy, Hygyrch, Rhyngweithredol, ac Ailddefnyddiadwy).
Mae CNC yn disgwyl i brosiectau gwyddoniaeth dinasyddion ddefnyddio dulliau clir y gellir eu defnyddio dro ar ôl tro, gan roi hyder yn y ffordd y mae’r data wedi eu casglu. Er mwyn i ddata fod yn effeithiol, rhaid i ansawdd y data fod yn briodol, gyda gwiriadau sicrhau ansawdd a rheoli ansawdd perthnasol ar waith. Dylid ystyried dyluniad y prosiect yn ofalus, gyda sylw gofodol ac amserol ystyrlon o bwyntiau casglu data.
Rhaid i ddata fod yn hygyrch ar gronfa ddata ffynhonnell agored a’u storio mewn fformat y gellir ei rannu a’i agor yn hawdd, ac fel y gellir dehongli’r data yn hawdd. Os oes sawl grŵp yn casglu data tebyg o fewn yr un dalgylch neu ardal, mae CNC yn gofyn i’r grwpiau gydweithio i ddechrau, a mynd ati i weithio gyda CNC fel cynghrair gyfunol.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Unrhyw un o unrhyw gefndir
Diddordebau
- Abstraction Licences
- Acorn Antics / Miri Mes
- Adfer afonydd
- Adfer mwyngloddiau
- Adnoddau Dwr
- Bioamrywiaeth
- Biodiversity
- Climate change adaptation measures
- Coal Tip Safety
- Committees
- Community Engagement
- Community Voulnteering
- Consultation
- Customer Experience
- Customer Journey Mapping
- Cynllunio dwr
- Datganiad Ardal De Orllewin
- Datganiad Ardal Morol
- Datgarboneiddio
- Datglygiad
- Decarbonisation
- Dee
- Development
- Dysgu proffesiynnol
- EIA
- Engagement
- Equality, Diversity and Inclusion
- Fforwm Mynediad Cenedlaethol
- Fishing
- Flooding
- Forest Management
- Fruitful Orchard Project
- Gwastraff
- Gwent
- Gwerthu Pren
- Gwirfoddoli Cymunedol
- IMPEL Network
- Landscapes
- Llais Rheoleiddio
- Llifogydd
- Marine Area Statement
- Marine Area Statement
- Marine Protected Areas Network Completion Project
- Metal mines
- Mine recovery
- Mwyngloddiau metel
- National Access Forum
- Newport Green and Safe Spaces
- Permits
- Professional learning
- Pysgota
- Regulation
- Regulatory Voice
- resources
- Rheoli Coedwig
- river basin planning
- River restoration
- South West Area Statement
- Species Licence
- Stakeholder Management
- Strategic review of charging
- Terrestrial ecosystems and species
- The Hub
- Timber sales
- Tirweddau
- Trwydded Rhywogaeth
- Trwyddedau
- Waste
- water framework directive
- water planning
- Water Resources
- WFD
- Woodland Opportunity Map
- Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr
- Ymgysylltu cymunedol
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook