Ffurflen gais cydweithrediad gwyddoniaeth dinasyddion
Trosolwg
Mae gwyddoniaeth ddinasyddion yn ehangu yng Nghymru, ac mae CNC yn awyddus i gefnogi prosiectau sy’n cyd-fynd â’n hanghenion tystiolaeth. Os ydych chi’n chwilio am gydweithrediad neu gyngor gan CNC, neu fynediad at adnoddau CNC, mae’r ffurflen hon yn ein helpu i ddeall eich prosiect ac yn caniatáu i ni ddarparu dull cyson o ran holl gyfranogiad gwyddoniaeth dinasyddion ar draws y sefydliad.
Sylwch fod angen i geisiadau am gyllid i CNC fynd drwy’r broses grantiau, ac nid drwy’r ffurflen hon. Rhoddir manylion grantiau a chyfleoedd ariannu CNC yma (Cyfoeth Naturiol Cymru / Grantiau a chyllid). Os ydych chi’n gofyn am grant ar gyfer prosiect gwyddoniaeth dinasyddion, byddai’n dal yn fuddiol cwblhau’r ffurflen hon ar gyfer y cyfraniadau anariannol mewn perthynas â’r prosiect gan CNC.
Os nad ydych chi’n ceisio cymorth ac yn dymuno rhannu gwybodaeth am eich prosiect yn unig, cwblhewch y ffurflen wybodaeth gwyddoniaeth dinasyddion yma:Cofrestr Prosiectau Gwyddoniaeth Dinasyddion
Pam y mae angen y ffurflen hon arnom
Mae ein staff yn cael llawer o geisiadau gan grwpiau gwyddoniaeth dinasyddion i gydweithio ar brosiectau, ac rydym am sicrhau eu bod i gyd yn cael eu hystyried mewn ffordd deg a chyson. Yn anffodus, efallai na fyddwn yn gallu cydweithio ar bob prosiect.
Mae’r wybodaeth a ddarparwch yn ein helpu ni i wneud y canlynol:
- Deall eich prosiect a’r hyn rydych chi’n gobeithio ei gyflawni
- Asesu sut y mae eich gwaith yn cyd-fynd â’n hanghenion tystiolaeth
- Nodi a all CNC ddarparu cymorth ystyrlon, a sut, gan ein galluogi i flaenoriaethu prosiectau a dyrannu amser / adnoddau staff yn briodol
Nid proses gystadleuol yw hon, ac ystyrir pob cais yn annibynnol.
Pwy a all gyflwyno cynigion partneriaeth gwyddoniaeth dinasyddion?
Unrhyw un sy’n rhedeg neu’n cynllunio prosiect gwyddoniaeth dinasyddion yng Nghymru.
Am ba fathau o gynigion y mae CNC yn chwilio?
Mae gennym ddiddordeb mewn cydweithio â phrosiectau gwyddoniaeth dinasyddion sydd:
- Wedi eu cynllunio’n dda â nodau / cwestiynau clir
- Yn bodloni ein hanghenion tystiolaeth. Gellir eu gweld yma:
Yr hyn nad ydym yn gallu cydweithio ag ef
Er mwyn sicrhau cysondeb, tegwch a blaenoriaethau ein hadnoddau cyfyngedig, rhaid i ni flaenoriaethu gwaith sy’n cyd-fynd â’n hanghenion tystiolaeth.
Gall gwyddoniaeth dinasyddion chwarae rhan bwysig wrth adrodd am ddigwyddiadau llygredd, ac rydym yn gwerthfawrogi’r cyfraniad hwn. Dylid parhau i roi gwybod am lygredd y gellir ei weld neu ei arogli’n glir drwy ein llinell gymorth digwyddiadau – Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol.
Cofiwch ei bod yn annhebygol y bydd CNC yn ymuno â phartneriaethau lle mae data ansawdd dŵr gwyddoniaeth dinasyddion yn cael eu casglu i sbarduno ymateb i lygredd ar unwaith, neu weithgarwch gorfodi y tu hwnt i weithdrefnau ymateb i ddigwyddiadau arferol CNC. Gweler: Cyfoeth Naturiol Cymru / Dull newydd o ymateb i ddigwyddiadau llygredd.
Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol
Os ydyw CNC yn cytuno i bartneriaeth gwyddoniaeth ddinasyddion, nid yw hyn yn eithrio unrhyw grŵp nac unigolyn y tu allan i CNC rhag eu cyfrifoldeb i ofyn am, a chael yr holl ganiatâd angenrheidiol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i fynediad i dir ac unrhyw drwyddedau perthnasol.
Mae’r ffiniau hyn yn helpu i sicrhau bod ein hymgysylltiad â gwyddoniaeth dinasyddion yn parhau i fod yn ffocws, yn dryloyw, ac yn cyd-fynd â chyfrifoldebau statudol CNC.
Beth sy’n digwydd ar ôl i mi gyflwyno’r ffurflen hon?
Bydd eich cais yn cael ei adolygu gan ein cynghorydd gwyddoniaeth dinasyddion ochr yn ochr ag amrywiaeth o arbenigwyr pwnc yn fewnol. Ar ôl ei gymeradwyo, bydd yr ymateb yn cael ei ddychwelyd atoch drwy e-bost, i’r cyfeiriad a ddarparwch ar y ffurflen.
Ein nod yw ymateb i’ch cais o fewn chwe wythnos.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ffurflen a’r broses, cysylltwch â’n Cynghorydd Data Allanol a Gwyddoniaeth Dinasyddion yn ceisiadaugd@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Ffurflen Gais Cydweithio Gwyddoniaeth Dinasyddion
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Unrhyw un o unrhyw gefndir
Diddordebau
- Abstraction Licences
- Acorn Antics / Miri Mes
- Adfer afonydd
- Adfer mwyngloddiau
- Adnoddau Dwr
- Bioamrywiaeth
- Biodiversity
- Climate change adaptation measures
- Coal Tip Safety
- Committees
- Community Engagement
- Community Voulnteering
- Consultation
- Customer Experience
- Customer Journey Mapping
- Cynllunio dwr
- Datganiad Ardal De Orllewin
- Datganiad Ardal Morol
- Datgarboneiddio
- Datglygiad
- Decarbonisation
- Dee
- Development
- Dysgu proffesiynnol
- EIA
- Engagement
- Equality, Diversity and Inclusion
- Fforwm Mynediad Cenedlaethol
- Fishing
- Flooding
- Forest Management
- Fruitful Orchard Project
- Gwastraff
- Gwent
- Gwerthu Pren
- Gwirfoddoli Cymunedol
- IMPEL Network
- Landscapes
- Llais Rheoleiddio
- Llifogydd
- Marine Area Statement
- Marine Area Statement
- Marine Protected Areas Network Completion Project
- Metal mines
- Mine recovery
- Mwyngloddiau metel
- National Access Forum
- Newport Green and Safe Spaces
- Permits
- Professional learning
- Pysgota
- Regulation
- Regulatory Voice
- resources
- Rheoli Coedwig
- river basin planning
- River restoration
- South West Area Statement
- Species Licence
- Stakeholder Management
- Strategic review of charging
- Terrestrial ecosystems and species
- The Hub
- Timber sales
- Tirweddau
- Trwydded Rhywogaeth
- Trwyddedau
- Waste
- water framework directive
- water planning
- Water Resources
- WFD
- Woodland Opportunity Map
- Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr
- Ymgysylltu cymunedol
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook