Diweddaru'r cod diogelu dŵr daear ar gyfer dip defaid - dweud eich dweud
Trosolwg
Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i adolygu a diweddaru'r cod diogelu dŵr daear: dip defaid.
Mae'r cemegion a ddefnyddir mewn dip defaid yn hynod wenwynig. Gallai storio, defnyddio neu ryddhau dip defaid yn ddiofal ar eich tir achosi llygredd i ddŵr daear sydd o dan yr wyneb. Drwy ddilyn y cod ymarfer hwn, gallwch leihau'r risg o achosi llygredd.
Cafodd ei ddiwygio ddiwethaf yn 2017 ac rydym bellach yn ymgynghori ar ddiweddariad arfaethedig i sicrhau ei fod yn adlewyrchu polisi cyfredol, arferion diwydiant a gofynion amgylcheddol.
Nod yr adolygiad hwn yw:
- Adlewyrchu newidiadau diweddar mewn polisi ar gyfer gwaredu dip defaid gwastraff
- Sicrhau bod y canllawiau yn adlewyrchu’r arfer gorau cyfredol ac nad yw'n niweidio'r amgylchedd
- Gwneud y ddogfen yn haws i'w dilyn a'i defnyddio.
Y prif newidiadau yr ydym yn eu cynnig yw:
- Dileu cyfeiriadau at drwyddedau amgylcheddol newydd i waredu dip defaid gwastraff i'r tir gan nad yw’r trwyddedau hyn yn cael eu rhoi erbyn hyn yng Nghymru. Gall y rhai sy'n dal i ddal trwydded barhau i'w defnyddio am y tro.
- Adolygu'r ardaloedd ar y fferm nad ydynt yn addas ar gyfer trochi defaid
- Diweddaru'r cyngor gan wneuthurwyr dip defaid ar ba mor hir i ddisgwyl cyn trochi pan ragwelir y bydd glaw.
- Cynghori pobl i beidio ag atgyweirio cafn trochi sydd wedi’i ddifrodi neu sy’n gollwng ac argymell eu bod yn cael cafn trochi newydd yn ei le neu’n defnyddio uned drochi symudol.
- Dileu cyfeiriadau at driniaeth ensym dip defaid gwastraff a oedd yn bosibl o dan esemptiad gwastraff T27 gan na fu’r cynnyrch hwn erioed ar gael i ffermwyr i’w ddefnyddio ac nad yw'r esemptiad bellach yn ddilys
Dyma'r cod amddiffyn dŵr daear arfaethedig ar gyfer dip defaid Cod gwarchod dŵr daear ar gyfer Cymru - Dip defaid
Rydym wedi lansio ymgynghoriad 12 wythnos a fydd yn cael ei gynnal rhwng 6 Awst a 29 Hydref 2026 ac rydym yn awyddus i glywed gennych.
Pam bod eich barn yn bwysig
Mae hwn yn gyfle i ffermwyr, rheolwyr tir ac eraill sydd â diddordeb mewn trochi defaid i helpu i lunio'r canllawiau terfynol. Gadewch inni glywed eich barn a rhowch wybod inni a ydych chi'n cefnogi'r newidiadau arfaethedig.
Rydym eisiau ichi rannu unrhyw awgrymiadau sydd gennych o ran newidiadau a rhoi gwybod inni ble mae'r canllawiau yn anodd eu deall neu a oes rhannau ohonynt nad ydynt yn ymarferol i’w dilyn.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- NFU
Diddordebau
- Water quality
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook