Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal adolygiad o sut yr ydym yn rheoleiddio saethu a dal adar gwyllt a dinistrio eu hwyau a'u nythod.
Mae gan holl adar gwyllt Cymru warchodaeth gyfreithiol. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru nifer o bwerau i awdurdodi eraill i ladd neu gymryd rhywogaethau penodol o adar gwyllt at ddibenion penodol, er enghraifft er mwyn atal niwed difrifol i gnydau, da byw neu pysgodfeydd, i warchod iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd, neu i warchod rhywogaethau eraill o fywyd gwyllt.
Mae ein hadolygiad yn ystyried sut yr ydym yn gweithredu y pwerau hyn ac yn cynnwys sawl prosiect neu ffrwd waith, megis:
Ceir rhagor o wybodaeth am yr adolygiad YMA
Er mwyn helpu i lywio ein hadolygiad, rydym yn annog unrhyw un sydd â thystiolaeth sy’n berthnasol i'r adolygiad i'w gwneud ar gael i ni. Mae gennym ddiddordeb mewn tystiolaeth a all ein helpu i asesu pa mor dda mae ein dulliau presennol yn gweithio, ynghyd â'n helpu i wella'r ffordd rydym yn cyflawni’r rôl hon i gyflenwi gwell ganlyniadau ar gyfer yr amgylchedd a phobl Cymru.
Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am dystiolaeth wyddonol neu anecdotaidd y byddwn yn ei defnyddio, ynghyd â ffynonellau eraill o dystiolaeth, gan gynnwys contractau tystiolaeth arbenigol, i gynnal adolygiad cynhwysfawr o'n dull o weithredu.
Nid ymgynghoriad yw hwn ac felly nid ydym yn chwilio am safbwyntiau neu farn ar hyn o bryd. Nid ydym yn cynnig unrhyw newidiadau ar hyn o bryd i'r ffordd yr ydym yn trwyddedu neu ddarparu cyngor ar saethu a dal adar neu ddinistrio wyau a nythod. Yn dilyn ein hadolygiad, bydd unrhyw gynigion i newid y ffordd yr ydym yn cyflawni'r swyddogaethau hyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn 2021, a fydd yn rhoi cyfle i bawb roi eu barn i ni.
Pwy all gyflwyno tystiolaeth?
Croesawn dystiolaeth berthnasol gan unrhyw unigolyn neu sefydliad.
Am ba fathau o dystiolaeth mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn chwilio?
Drwy'r galwad hwn am dystiolaeth, mae gennym ddiddordeb mewn tystiolaeth o'r mathau canlynol:
Nid ydym yn gofyn am y canlynol:
Noder na allwn dderbyn copïau o unrhyw ddeunydd sy'n destun cyfyngiadau hawlfraint os byddai'r cyfyngiadau hynny’n cael eu torri gennych drwy ddarparu'r deunydd i ni. Gwiriwch statws hawlfraint unrhyw ddogfennau cyn eu hanfon atom. Os ydych yn ansicr ac os yw gwybodaeth wedi'i chyhoeddi, gallai fod yn well anfon y cyfeirnod neu ddolen we (URL) yn unig.
Croesawn dystiolaeth yn Saesneg a/neu Gymraeg ond mae'n bosibl na fyddwn yn gallu defnyddio tystiolaeth a ddarperir mewn ieithoedd eraill. Os oes gennych dystiolaeth berthnasol mewn iaith heblaw Saesneg neu Gymraeg, ystyriwch a fyddech chi'n gallu cyfieithu'r darn, neu grynodeb ohono, cyn ei anfon atom.
A ddylwn anfon tystiolaeth atoch rwyf wedi ei darparu mewn ymateb i alwadau cysylltiedig eraill am dystiolaeth?
Mae gennym eisoes fynediad at y wybodaeth a ddarparwyd mewn ymateb i'r galwadau canlynol am dystiolaeth:
Os ydych wedi cyflwyno tystiolaeth wrth ymateb i unrhyw un o'r uchod, nid oes angen i chi ail-anfon yr un wybodaeth honno atom. Fodd bynnag, mae cwmpas yr adolygiad hwn yn wahanol, felly mae'n bosibl y bydd gennych dystiolaeth berthnasol nad ydych eisoes wedi'i darparu. Mae'n bosibl eich bod hefyd wedi cyflwyno tystiolaeth mewn ymateb i alwadau am dystiolaeth neu arolygon diweddar eraill a gynhaliwyd gan nifer o sefydliadau eraill a fydd yn ddefnyddiol i'n hadolygiad, yn enwedig os yw'n berthnasol a/neu benodol i Gymru. Os ydych yn ansicr, anfonwch dystiolaeth yr ydych yn meddwl sy'n berthnasol i’r cwestiynau yr ydym yn eu gofyn.
Sut i ymateb
Sut bydd eich tystiolaeth yn cael ei defnyddio
Er mwyn bod yn dryloyw ac agored, noder ei bod yn bosibl y bydd pob ymateb i'r galwad hwn am dystiolaeth, gan gynnwys enwau ymatebwyr (ond nid eu manylion cyswllt preifat) ac adroddiadau neu ddogfennau a ddarperir ar ein cyfer, yn cael eu rhannu gyda sefydliadau eraill neu eu gwneud ar gael i'r cyhoedd, ac mae'n bosibl y cânt eu cyhoeddi ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ddarostyngedig i ofynion hawlfraint.
Gall gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i'r galwad hwn am dystiolaeth hefyd gael ei rhyddhau i'r cyhoedd neu bartïon eraill yn unol â chyfraith mynediad at wybodaeth (yn bennaf, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000).
Os ydych am i’ch ymateb gael ei gadw’n gyfrinachol, dywedwch wrthym yn glir pa wybodaeth yr hoffech ei chadw'n gyfrinachol a pham. Os ydych chi'n ymateb gan ddefnyddio'r hwb ymgynghori ar-lein, rhowch hynny yn eich ateb i Gwestiwn 19 (y cwestiwn olaf). Mae angen i ni bwyso a mesur ceisiadau am gyfrinachedd yn erbyn ein rhwymedigaethau ar gyfer datgelu. Os ydym yn derbyn cais ar gyfer cadw eich enw neu unrhyw dystiolaeth a ddarperir yn gyfrinachol, gwnawn ystyried eich rhesymau dros wneud cais am gyfrinachedd yn llawn, ond ni allwn warantu y gellir cynnal cyfrinachedd o dan holl amgylchiadau.
Gwybodaeth preifatrwydd a diogelu data
Darllenwch bolisi preifatrwydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Share
Share on Twitter Share on Facebook