Adolygiad o Drwyddedau Cyffredinol 2023 ar gyfer rheoli adar gwyllt

Ar gau 3 Tach 2023

Wedi'i agor 13 Hyd 2023

Trosolwg

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cynnal adolygiad o’i drwyddedau cyffredinol 2023 ar gyfer rheoli adar gwyllt. Dyma’r adolygiad cyntaf ers cwblhau’r Adolygiad o ddull CNC o reoleiddio saethu a maglu adar gwyllt (“yr Adolygiad Adar Gwyllt”) yn 2022.

Y Trwyddedau Cyffredinol sydd wedi’u hystyried fel rhan o’r adolygiad hwn yw:

Trwydded Gyffredinol 001 - Trwydded i ladd neu gymryd chwe rhywogaeth o adar gwyllt neu i gymryd neu ddinistrio eu nythod neu wyau at ddibenion atal difrod difrifol neu ledaeniad afiechyd i dda byw, bwydydd ar gyfer da byw, cnydau, llysiau neu ffrwythau (y chwe rhywogaeth yw gŵydd Canada, brân dyddyn, colomen y graig, piod, jac-y-do ac ysguthan).

Trwydded Gyffredinol 002- Trwydded i ladd neu gymryd colomennod y graig neu i gymryd neu ddinistrio eu nythod neu eu hwyau at ddibenion diogelu iechyd y cyhoedd, diogelwch y cyhoedd neu atal lledaeniad afiechyd.

Trwydded Gyffredinol 004- Trwydded i ladd neu gymryd brain tyddyn neu i gymryd neu ddinistrio eu nythod neu eu hwyau er mwyn gwarchod adar gwyllt.

Trwydded Gyffredinol  005 - Trwydded i ladd neu gymryd hwyaid coch neu ddinistrio eu nythod neu eu hwyau er mwyn gwarchod adar gwyllt.

Rydym yn bwriadu gwneud rhai diwygiadau i'n Trwyddedau Cyffredinol ar gyfer 2024. 

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Cynhaliwyd yr Adolygiad Adar Gwyllt rhwng 2020-2022 gan staff CNC, ond elfen bwysig oedd casglu tystiolaeth a phrofi syniadau a chynigion trwy ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid allanol. Roedd hyn yn cynnwys galwad am dystiolaeth, tystiolaeth a gomisiynwyd ac ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion.

Cadarnhaodd Bwrdd CNC y dull newydd o roi trwyddedau cyffredinol, gan gynnwys defnyddio set o egwyddorion lefel uchel i benderfynu pryd y mae rhoi trwydded gyffredinol sy’n awdurdodi rheolaeth farwol yn briodol. Cyhoeddwyd ein dogfen benderfyniad, sy’n nodi hyn a’r holl benderfyniadau eraill a wnaed mewn perthynas â thrwyddedau cyffredinol, ym mis Ebrill 2022. Un o’r penderfyniadau oedd y dylid parhau i roi trwyddedau cyffredinol yn flynyddol, a cyhoeddwyd y trwyddedau cyffredinol a nodir uchod ar gyfer 2023.

Un o'r argymhellion y cytunwyd arnynt gan Fwrdd CNC oedd sefydlu proses adolygu ffurfiol ar gyfer trwyddedau cyffredinol i'w chynnal bob chwe blynedd, gyda'r bwriad y byddai’n digwydd yr un pryd ag asesiad cyfnodol a chyhoeddiad Adar o Bryder Cadwraethol  yng Nghymru. Cyhoeddwyd pedwerydd asesiad Adar o Bryder Cadwraethol  yng Nghymru ar ddiwedd 2022, sy’n golygu mai 2023 yw dechrau ein cylch chwe blynedd o adolygu.

Nid yw cwmpas yr adolygiad hwn yn cynnwys unrhyw newidiadau i ddull cyffredinol CNC o drwyddedu rheolaeth farwol o adar gwyllt, gan gynnwys ein hegwyddorion yn ymwneud â chaniatáu trwyddedau cyffredinol. Y nod yw cychwyn ar y broses adolygu cyfnodol barhaus a oedd yn ffurfio rhan o'r ymrwymiadau a wnaed.

Ar beth ydym yn ceisio cael adborth?

Rydym yn ceisio cael eich adborth ar ein newidiadau i Drwyddedau Cyffredinol ar gyfer rheoli adar gwyllt. Gellir gweld y newidiadau, a'r rhesymeg amdanynt, yn y ddogfen ar waelod y dudalen. Darllenwch yr adolygiad cyn ymateb.

Gan bwy ydym yn ceisio adborth?

Nid yw hon yn ymgynghoriad cyhoeddus. Rydym yn gofyn am adborth gan aelodau o'n grŵp rhanddeiliaid trwyddedau cyffredinol yn unig.

Os nad yw eich sefydliad wedi derbyn y ddolen i’r dudalen hon yn uniongyrchol gan CNC, yna gofynnwn i chi beidio ymateb gan na fyddwn yn ystyried eich sylwadau.

Mae ein dogfen penderfyniadau i'w weld isod.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Fly-fishing
  • Cockles
  • Newport Green and Safe Spaces
  • Rivers
  • Flooding
  • Llifogydd
  • Community Volunteers
  • Gwirfoddolwyr Cymunedol
  • Management
  • marine developers
  • marine planners
  • South West Stakeholder group
  • Citizens
  • National Access Forum
  • citizens
  • water companies
  • NFU
  • DCWW
  • Anglers
  • Coal Authority
  • Educators
  • SoNaRR2020
  • Mine recovery specialists
  • Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
  • Metal mines
  • Mwyngloddiau metel
  • Coastal Group Members
  • Wales Biodiversity Partnership

Diddordebau

  • Species Licence