Ein Cynllun Corfforaethol hyd at 2030 - Ein datganiadau effaith a dangosyddion strategol drafft

Closes 31 Oct 2024

Opened 21 Mar 2024

Overview

Mae ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a'n hamcanion llesiant fel y’u nodir yn ein Cynllun Corfforaethol hyd at 2030 - Byd Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda'n Gilydd yn dangos sut y bydd CNC yn cyfrannu at ddull gweithredu ‘Tîm Cymru’ i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd.

I ategu ein cynllun corfforaethol, rydym hefyd wedi datblygu datganiadau effaith a dangosyddion strategol i roi persbectif integredig ar berfformiad strategol.

Mae'r rhain, a ddatblygwyd ar y cyd ar draws y sefydliad drwy gydol 2023-24, yn manylu ar sut y byddwn yn parhau i weithredu’n unol â bwriad ein gweledigaeth, gan adrodd ein stori dros oes y cynllun corfforaethol.

Mae'r datganiadau effaith yn gosod yr uchelgais o ran yr hyn rydym am ei weld erbyn 2030 a thu hwnt, gan gydnabod na allwn fynd i'r afael â'r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd ar ein pen ein hunain ac y bydd angen gweithredu ar y cyd ar draws sectorau i wireddu newid cadarnhaol. 

Mae'r dangosyddion strategol yn canolbwyntio ar y pethau hynny y gall CNC ddylanwadu'n uniongyrchol arnynt, gan ddefnyddio ei ysgogiadau a'i adnoddau – mae’r rhain yn fwriadol uchelgeisiol ac ymestynnol. Gyda'i gilydd, maent yn darparu persbectif strategol o gynnydd tuag at ein hamcanion llesiant a'r manteision lluosog sy'n deillio o'n gwaith.

Byddwn yn profi'r rhain yn 2024-25, gan eu defnyddio i fframio sesiynau archwiliad dwfn strategol Bwrdd CNC, gan fynd ati ar yr un pryd i ymgysylltu â phartneriaid i rannu dealltwriaeth a nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio. Byddwn yn eu cwblhau yn ystod hydref 2024 gyda’r nod o’u rhoi ar waith rhwng 2025-26 a 2030.

Datganiadau effaith

Mae chwe datganiad effaith wedi'u datblygu o amgylch ein tri amcan llesiant. Maent yn pennu’r uchelgais ar gyfer y newid rydym am ei weld ar gyfer natur a phobl erbyn 2030. Mae’r rhain yn cydnabod mai ein cyfrifoldeb ni fydd dangos tystiolaeth o rai elfennau, ac y bydd cyfrifoldeb am gyflawni elfennau eraill yn cael ei rannu gyda'n partneriaid.

Dyma nhw:

Effaith 1: Erbyn 2030: bod dirywiad bioamrywiaeth wedi'i atal; bod rheoleiddio effeithiol, adfer cynefinoedd ac atebion ar sail natur yn cyfrannu at ecosystemau sy’n gynyddol gydnerth gan alluogi addasu i newid, a bod o fudd i lesiant pobl.

Effaith 2: Erbyn 2030: bod gweithredu parhaus ar achosion, risgiau ac effeithiau'r newid yn yr hinsawdd yn golygu bod natur a phobl yn cael eu galluogi a'u grymuso i addasu, gan liniaru'r effeithiau ar lesiant pobl.

Effaith 3: Erbyn 2030: bod llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf drwy ddiwygio deddfwriaethol a rheoleiddio effeithiol, gan leihau niwed i fioamrywiaeth a llesiant pobl, a chan ysgogi rheoli a defnyddio adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Effaith 4: Erbyn 2030: bod mwy o weithredu ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol yn sicrhau'r buddion mwyaf o ran natur, hinsawdd a llygredd, ac yn lleihau anghydraddoldebau cymdeithasol.

Effaith 5: Erbyn 2030: bod gweithredu ar y cyd parhaus yn golygu bod unigolion a sefydliadau'n gwneud penderfyniadau integredig i fynd i'r afael â’r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd.

Effaith 6: Erbyn 2030: bod cyflawni ein gwerthoedd a'n hymddygiadau yn gyson yn CNC yn golygu bod cydweithwyr, partneriaid a chymunedau’n cael eu galluogi a'u grymuso i arloesi a chyflymu camau gweithredu.

Dangosyddion strategol

Er mwyn olrhain cynnydd wrth gyflawni'r effeithiau hyn ac i dynnu sylw at ble mae’r dylanwad mwyaf gennym, rydym wedi dewis deuddeg dangosydd strategol. Bydd y rhain yn ein galluogi i fonitro cynnydd dros amser ac maent yn cyd-fynd â sawl datganiad effaith, gan danlinellu ein dull integredig o fonitro ac adrodd.

DS 1:   Cynyddu cyfran yr ecosystemau sy'n cael eu diffinio fel rhai gwydn

DS 2:   Cynyddu cyfradd adfer cynefinoedd

DS 3:   Cynyddu integreiddio gweithgareddau sy'n cefnogi adferiad natur yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru

DS 4:   Lleihau cyfradd llygredd ar dir a llygredd sy'n mynd i mewn i gyrff dŵr

DS 5:   Lleihau cyfradd llygredd i’r aer o ffynonellau diwydiannol ac anniwydiannol

DS 6:   Lleihau cyfradd allyriadau nwyon tŷ gwydr a chynyddu cyfradd atafaelu cynaliadwy

DS 7:   Cynyddu cyfran y boblogaeth sydd â mynediad at fannau gwyrdd neu las o ansawdd uchel, ac sy'n eu defnyddio'n gynaliadwy

DS 8:   Cynyddu cyfran y boblogaeth sy'n byw mewn lleoedd a fydd yn parhau i gefnogi a chyfrannu at eu hiechyd a'u llesiant mewn hinsawdd sy'n newid

DS 9:   Cynyddu effaith dulliau partneriaeth sy'n darparu manteision lluosog ac yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol yr argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd

DS 10:   Cynyddu cyfran y boblogaeth sy'n gweithredu i liniaru ac addasu i'r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd

DS 11:   Cynyddu cyfran y sefydliadau a'r busnesau sy'n gweithredu i liniaru ac addasu i'r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd

DS 12:   Cynyddu cyfran y cydweithwyr yn CNC sy'n teimlo eu bod yn ymgysylltiedig, ac yn cael eu galluogi a'u grymuso

Mae'r cyfuniad o effeithiau; dangosyddion meintiol ac ansoddol; a naratif ategol yn darparu persbectif strategol o gynnydd tuag at ein hamcanion llesiant a'r manteision lluosog sy'n deillio o'n gwaith.

Mae'r adroddiad wedi'i drefnu’n bum adran a dylid ei ddarllen law yn llaw â'n cynllun corfforaethol. Rydym wedi paratoi datganiad dull hefyd.

Cyn y cyhoeddiad terfynol yn ddiweddarach yn y flwyddyn, mae'r dogfennau drafft manwl ar gael i'w hadolygu yma:

Datganiadau effaith a dangosyddion strategol drafft

Annex 1 Methodoleg

Annex 2 Camau i'w cymryd i ddangosyddion strategol

 

Give us your views

If you have any questions or comments, please send these on to: corporate.planning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Areas

  • All Areas

Audiences

  • Anyone from any background

Interests

  • Species Licence
  • Trwydded Rhywogaeth
  • Regulatory Voice
  • Permits
  • Trwyddedau
  • Llais Rheoleiddio
  • Waste
  • Flooding
  • Llifogydd
  • Community Voulnteering
  • Gwirfoddoli Cymunedol
  • Forest Management
  • Rheoli Coedwig
  • National Access Forum
  • EIA
  • Development
  • Marine Protected Areas Network Completion Project
  • South West Area Statement
  • Newport Green and Safe Spaces
  • Community Engagement
  • Gwent
  • WFD
  • water framework directive
  • water planning
  • Dee
  • river basin planning
  • Fruitful Orchard Project
  • Professional learning
  • Acorn Antics
  • Terrestrial ecosystems and species
  • Fishing
  • Biodiversity
  • SoNaRR2020
  • Engagement
  • Customer Experience
  • The Hub
  • Customer Journey Mapping
  • Consultation
  • Stakeholder Management
  • Mine recovery
  • Adfer mwyngloddiau
  • Metal mines
  • Mwyngloddiau metel
  • Timber sales
  • Strategic review of charging
  • Marine Area Statement
  • Equality, Diversity and Inclusion