Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio i leihau'r perygl o lifogydd yn Ynysybwl.
Cafodd Ynysybwl ei heffeithio'n wael yn ystod Storm Dennis yn 2020 pan lifogwyd 17 eiddo ar Clydach Terrace wrth i lefel yr afon godi uwchben wal y briffordd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ein cyfarwyddo i ymgymryd â phroses Achos Busnes llawn yn dilyn Canllawiau Achos Busnes Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol Llywodraeth Cymru.
Diweddariadau Prosiect
...More
Dyma ddiweddariad am am waith arfaethedig sydd ar y gweill gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn ardal Penyrenglyn.
Rheoli risg tomen lo
Mae gan Benyrenglyn domen lo ar ochr y bryn ac mae wedi'i leoli o fewn ardal ein gwaith cwympo coed. Mae'r domen lo hon yn un o'n blaenoriaethau i ymgymryd â gwaith draenio i leihau'r risg o dirlithriad.
Mae gan lawer o domenni glo segur systemau draenio i leihau cynnwys dŵr. Nid oes system o'r fath ym...More
Diweddariad cynnydd – 24 Hydref
Gweld y dudalen hon yn Saesneg
Rydym yn y broses o adolygu’r ceisiadau a gawsom o fewn ffenestr gyntaf cynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru.
Derbyniodd ein tîm geisiadau ardderchog gan amrywiaeth eang o reolwyr coetir, y mae eu coetiroedd a’u coedwigoedd yn enghreifftiau o’r Canlyniadau Coedwigoedd Cenedlaethol mewn ffyrdd gwahanol iawn ac yn dangos pa mor amrywiol fydd ein rhwydwaith ar gyfer Coedwig...More
Pa waith sy'n digwydd?
Gwaith Coedwig
Mae gwaith torri coed helaeth yn dechrau yn Nyffryn Gwy i gael gwared ar tua 133 hectar o goed llarwydd, o goetir Manor, Bryn Beacon, Whitestone a’r Fedw, sydd wedi'u heintio â Phytophthora ramorum.
Mae Phytophthora ramorum, sy'n cael ei adnabod yn fwy cyffredin fel clefyd llarwydd, yn glefyd tebyg i ffwng sy'n gallu achosi difrod helaeth a marwolaethau i amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill. Mae clefyd...More
Diweddariad 31/07/2023
Ar ôl gwrando’n ofalus ar yr adborth o’n hymgynghoriadau cyhoeddus, mae Abermarlais wedi’i rhannu’n dri maes gwahanol, gyda phob un yn blaenoriaethu amcanion gwahanol:
Man cadwraeth i fywyd gwyllt ffynnu ynddo
Gofod coetir sy'n gwbl hygyrch ar gyfer coffa
Man tyfu i ddarparu cyfleoedd cynaliadwy ar gyfer bwyd, coed a natur
Isod fe welwch grynodeb o’n cynnydd ar gyfer pob man dros y chwe...More
Rheoliad 12B o Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) (Rheoliadau Diwygio) 2017/585
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu gwneud gwaith i wella Gorsaf Fesur a Strwythur Cored Fiddler’s Elbow ar yr Afon Taf, Merthyr Tudful, NGR - ST 08914 95158.
Bydd y gwaith gwella arfaethedig yn cynnwys gwaith cynnal a chadw ar yr orsaf fesur, gwaith atgyweirio ar strwythur y gored, gosod grisiau mynediad at sianel yr afon a gosod ysgol bysgod ar wyneb y...More