Penyrenglyn - Rheoli Risg Tomen Lo a Gwaith Coedwig

Yn cau 29 Tach 2025

Wedi'i agor 29 Tach 2023

Trosolwg

Dyma ddiweddariad am am waith arfaethedig sydd ar y gweill gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn ardal Penyrenglyn.

Rheoli risg tomen lo

Mae gan Benyrenglyn domen lo ar ochr y bryn ac mae wedi'i leoli o fewn ardal ein gwaith cwympo coed. Mae'r domen lo hon yn un o'n blaenoriaethau i ymgymryd â gwaith draenio i leihau'r risg o dirlithriad.

Mae gan lawer o domenni glo segur systemau draenio i leihau cynnwys dŵr. Nid oes system o'r fath ym Mhenyrenglyn, sy'n domen lo Categori D. Pan fydd dŵr glaw yn treiddio i haen uchaf y pridd ac yn mynd i mewn i'r deunydd sydd yn y domen islaw, gall hynny gynyddu'r risg o dirlithriadau.

Nid yw ein cynlluniau wedi'u datblygu'n llawn eto, ond rydym yn rhagweld cynllun sy'n cynnwys rhwydwaith o ddraeniau wyneb dros yr holl domen lo i leihau’r dŵr sy’n treiddio i bridd y domen. Gallai rhai o’r systemau draenio edrych yn debyg i raeadrau a osodwyd yn yr ardal leol, Ffigur 1.

Ffigur 1 - Rhaeadrau cerrig bloc yn yr ardal leol - Enghraifft o'r hyn y gellid ei osod ym Mhenyrenglyn

Ffigur 1 - Rhaeadrau cerrig bloc yn yr ardal leol - Enghraifft o'r hyn y gellid ei osod ym Mhenyrenglyn.

Wrth i'n cynlluniau ddod yn fwy diffiniedig, byddwn yn rhannu lluniau a gwybodaeth ac yn gofyn am adborth. Disgwylir i'r gwaith dylunio bara tua 12 mis. Gobeithiwn ddechrau’r cam nesaf hwn yn fuan iawn gyda chynllun i gael caniatâd cynllunio a dechrau adeiladu erbyn Gwanwyn 2025.

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch pyllau a thomenni glo ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Cael gwared o goed

Fel y byddwch wedi sylwi mae’n siŵr, rydym wedi bod yn gweithio gyda'n contractwyr er mwyn cael gwared o goed ar ochr y bryn uwchben Penyrenglyn. Mae Ffigur 2 yn dangos ardaloedd lle mae coed eisoes wedi cael eu cwympo (porffor), a’r rhai sy’n dal i fod angen eu cwympo (coch).

Ffigur 2 - Ardaloedd wedi'u cwympo (porffor) a’r gweddill (coch) – Hydref 2023

Ffigur 2 - Ardaloedd wedi'u cwympo (porffor) a’r gweddill (coch) – Hydref 2023

Roedd angen y gwaith hwn er mwyn cael gwared ar goed sydd wedi'u heintio â chlefyd rheoledig o'r enw Phytophthora ramorum. Mae'r clefyd hwn yn effeithio'n arbennig ar goed llarwydd, a dyma oedd y rhan fwyaf o'r coed a gafodd eu cwympo, ac roedd Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol wedi'i gyflwyno ar y safle er mwyn lleihau lledaeniad y clefyd.

Roedd y clefyd wedi lladd mwy na hanner y coed ac yn risg i bobl oedd yn mynd i’r goedwig. Roedd y coed marw a’r rhai oedd yn pydru yn cael eu chwythu drosodd yn aml. Roedd y coed heintiedig hefyd yn peri risg i rywogaethau eraill o goed a llwyni.

Mae rhagor o wybodaeth am Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol ar gael ar ein gwefan. Ceir rhagor o wybodaeth am y rhesymeg y tu ôl i’r dull hwn yn Strategaeth Phytophthora Ramorum Cymru Llywodraeth Cymru.

Mae cael gwared ar y coed yn gyfle i gynyddu amrywiaeth y rhywogaethau, gwella bioamrywiaeth a chreu coetir mwy gwydn ar gyfer y dyfodol. Dylai’r gwaith cwympo gael ei gwblhau yn gynnar yn 2024. Disgwylir i'r ardaloedd sydd wedi'u cwympo y tu allan i derfyn y domen lo gael eu hailstocio cyn gynted ag y bo modd.

Pryderon llifogydd

Ar ôl derbyn rhybudd glaw trwm, bydd yr Awdurdod Glo, sy'n rhan o'r Tasglu Diogelwch Tomenni Glo (y Tasglu) yn archwilio ardal y domen lo ym Mhenyrenglyn ac yn ein cynghori  am unrhyw bryderon neu gamau y mae angen eu cymryd i leihau'r risg o dirlithriad.

Bydd CNC, sydd hefyd yn rhan o'r Tasglu, yn monitro ac yn archwilio'r ceuffosydd ar y safle ac oddi tano yn rheolaidd i sicrhau bod y seilwaith draenio yn parhau i fod ar agor ac yn llifo’n rhwydd yn ystod misoedd y gaeaf.

Disgwylir i'r gwaith monitro hwn gael ei gynnal bob wythnos. Fodd bynnag, bydd archwiliadau ychwanegol yn cael ei wneud pan ragwelir glaw trwm.

Bydd y cynllun draenio arfaethedig ar y domen lo yn cael ei ddylunio i sicrhau nad oes cynnydd yn llif i'r systemau draenio isod.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon mewn perthynas â'r gwaith, cysylltwch â:

Lester Fulcher, Rheolwr Gweithrediadau (Tir ac Asedau)

lester.fulcher@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Tachwedd 2023

 

Ardaloedd

  • Treherbert

Cynulleidfaoedd

Diddordebau

  • Forest Management