Pedair Afon LIFE – Helpu pysgod yn Afon Wysg wrth bont Crucywel
Trosolwg
Darllenwch y dudalen hon yn y Saesneg.
Helpu pysgod ym mhont Crucywel
Mae prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio atebion hirdymor sy'n seiliedig ar natur i wella iechyd Afon Wysg. Mae gwaith adfer yn cynnwys cael gwared ar rwystrau i fudo pysgod ac adfer prosesau naturiol yr afon sy'n allweddol i gynnal cynefinoedd iach a gwella ansawdd dŵr ar gyfer bywyd gwyllt.
Ym Mhont Crucywel rydym yn ymchwilio i opsiynau i wella mynediad i bysgod mudol o dan y bont. Y nod yw galluogi pysgod i symud yn rhydd i fyny'r afon ac i lawr yr afon a helpu i gynyddu'r niferoedd peryglus o isel o rai rhywogaethau.

Afon Wysg – cartref i fywyd gwyllt arbennig
Mae Afon Wysg yn Ardal Gadwraeth Arbennig (ACA) sy'n golygu ei bod o bwysigrwydd rhyngwladol am ei bywyd gwyllt a'i phlanhigion.
Mae'n gartref i eogiaid a brithyll brown gwyllt, a llawer o rywogaethau eraill fel y gwangen a’r herlyn, llysywod pendoll y nant, afon a môr, llyswennod, penlletwad, dyfrgi, crafanc y dŵr a chimwch crafanc gwyn.
Sylfeini Pont Crucywel – cyfyngu ar fudo pysgod
Mae'r grisiau a grëwyd gan sylfeini pont bresennol pont Crucywel yn cyfyngu ar basio pysgod, gan effeithio ar rywogaethau fel eogiaid, gwangod a llysywod pendoll sy'n rhywogaethau gwarchodedig ac yn nodweddion o Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Wysg.
Mae ymchwil yn dangos y gall hyd yn oed rhwystrau bach fel hyn achosi aflonyddwch sylweddol i rai pysgod ac oedi eu mudo i fyny'r afon.
Yr hyn yr ydym yn ei wneud i helpu
Mae prosiect Pedair Afon LIFE yn ymchwilio i opsiynau i wella pasio pysgod ym mhont Crucywel.
Mae'r cynigion presennol yn cynnwys gwneud hollt, neu sianel llif isel trwy ffedog y bont o dan un o fwâu'r bont.
Bydd y hollt yn cynnwys cyfres o gerrig mân i ddarparu llifau addas ar gyfer pasio rhywogaethau amrywiol o bysgod yn ystod mudo. Bydd y llwybr pysgod yn cael ei gynllunio i helpu'r rhywogaethau mudol sy'n digwydd yn Afon Wysg, gan gynnwys eogiaid yr Iwerydd, brithyll, gwangod, llysywod a llyswennod.
Mae'r prosiect wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Panel Cymeradwyo Llwybrau Pysgod Cenedlaethol, CADW a Chyngor Sir Powys ac mae'r dyluniad arfaethedig wedi'i arwain gan y sefydliadau hyn i sicrhau ei fod yn gweithredu'n effeithiol ar gyfer sawl rhywogaeth, ac ar yr un pryd nad oes ganddo unrhyw effaith ar dreftadaeth strwythurol yr Heneb Gofrestredig.
Bydd y cynnig yn caniatáu i bysgod gyrraedd cynefinoedd a mannau silio ychwanegol yn rhan uchaf yr afon.
Mae ymchwiliadau'n digwydd ar hyn o bryd i benderfynu a yw llwybr pysgod o dan y bont yn bosibl. Os caiff ei ddatblygu, gellid adeiladu'r llwybr pysgod yn y blynyddoedd i ddod.
Cysylltwch â ni
Am ragor o wybodaeth gallwch e-bostio'r tîm yn uniongyrchol ar 4AfonLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol: Facebook, X ac Instagram
Ardaloedd
- Crickhowell
Cynulleidfaoedd
- River restoration
Diddordebau
- River restoration
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook