Natur am Byth! Adfer Rhywogaethau dan fygythiad yng Nghymru

Yn cau 30 Medi 2027

Wedi'i agor 23 Ebr 2024

Trosolwg

I ddarllen y dudalen yn Saesneg/ Click for English 

Partneriaeth Natur am Byth yw rhaglen flaenllaw Cymru ar gyfer Adfer Rhywogaethau. Mae'n dod â naw o elusennau a sefydliadau amgylcheddol a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ynghyd i gyflwyno rhaglen treftadaeth naturiol ac allgymorth fwyaf y wlad i achub nifer o rywogaethau rhag diflannu ac i ailgysylltu pobl â natur.

Dyma’r deg partner craidd:

Natur am Byth Partnership

 

Cyfoeth Naturiol Cymru (arweinydd)
Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid
Yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod
Buglife Cymru
Yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Cacwn
Gwarchod Glöynnod Byw
Plantlife Cymru
Y Gymdeithas Cadwraeth Forol
RSPB Cymru
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent

Cyllid

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, dyfarnwyd dros £4.1m o'r Gronfa Treftadaeth i'r bartneriaeth ym mis Mehefin 2023.

Cydnabyddwyd yr angen hwn am fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru trwy ymrwymiad i Natur am Byth gan y Prif Weinidog a chyllid arian parod.

Mae’r bartneriaeth wedi cyllidebu cyfanswm o £8m ar gyfer y rhaglen.

Mae CNC wedi cyfrannu £1.7m ac mae partneriaid Natur am Byth wedi sicrhau £1.4m pellach gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a nifer o ymddiriedolaethau elusennol, sefydliadau a rhoddwyr corfforaethol.  Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion gan Sefydliad Esmée Fairbairn, ynghyd â chymorth sylweddol gan Gynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).

Treftadaeth

Mae partneriaid Natur am Byth wedi nodi'r rhywogaethau sydd dan y bygythiad mwyaf o ddiflannu ac sydd â phwysigrwydd arbennig i Gymru gan ddefnyddio rhestr adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr treftadaeth naturiol ar draws Cymru a'r DU.

Rydym wedi mapio'r rhywogaethau hyn yn erbyn themâu ac wedi nodi'r tirweddau a'r ardaloedd arfordirol lle byddwn yn targedu ein rhaglen treftadaeth ac ymgysylltu.

Enwau a Lleoliadau Prosiectau

Mae Natur am Byth yn rhannu’r un partneriaid â’n chwaer raglenni adfer rhywogaethau yn Lloegr a’r Alban – Back from the Brink a Species on the Edge. Fodd bynnag mae ein rhaglen yng Nghymru yn unigryw, gan ein bod yn integreiddio materion rheoli tir a’r môr, gan gefnogi rhywogaethau morol sydd dan fygythiad yn ogystal â'r rhai ar dir ac mewn dŵr croyw.Gellir gweld ein hardaloedd ffocws ar y map isod:Natur am Byth project locations map

Mae rhai lleoliadau'n cynrychioli poblogaethau ynysig sydd ar fin diflannu. Yn y rhan fwyaf o’r ardaloedd hyn, byddwn yn defnyddio dull integredig i gyflawni manteision lluosog ar gyfer rhywogaethau prin.

Gweledigaeth a Chanlyniadau

Mae ein gweledigaeth 20 mlynedd yn gweld dyfodol i Gymru lle:

  • bydd pobl a bywyd gwyllt yn ffynnu ochr yn ochr â'i gilydd mewn cynefinoedd sy'n adfer.
  • bydd pobl o bob cefndir yng Nghymru yn teimlo eu bod yn perthyn i fyd natur, yn ei fwynhau ac yn gofalu amdano.
  • bydd sefydliadau o bob rhan o gymdeithas Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ofalu am natur a gwerthfawrogi'r buddion y mae eu cymuned yn eu cael ohoni.
  • bydd gennym sector gwydn ym maes cadwraeth natur, yr amgylchedd a rheoli tir sy'n cydweithio i wneud mwy o wahaniaeth i rywogaethau fel rhan o ecosystemau iach.

O ganlyniad i'n rhaglen, byddwn:

  • wedi rhoi’r risgiau i rywogaethau sydd dan fygythiad ar yr agenda ac wedi dangos pam fod hyn yn bwysig
  • wedi dangos sut i achub y rhywogaethau sydd fwyaf mewn perygl yn ein cenedl ac wedi helpu i'w hadfer trwy ecosystemau gwydn
  • wedi ysbrydoli pobl o bob cefndir yng Nghymru i gymryd camau gweithredu ac wedi ysgogi cymunedau amrywiol i ofalu am y bywyd gwyllt sydd ar stepen eu drws
  • wedi helpu i greu ton newydd o lysgenhadon ac ymarferwyr cadwraeth
  • wedi cydweithio er mwyn darganfod datrysiadau i'r problemau mwyaf dybryd ym maes cadwraeth rhywogaethau yng Nghymru

Sut byddwn yn ymgysylltu â phobl:

Er mwyn creu newid parhaol, bydd Natur am Byth yn gwneud y canlynol:

  • ymgysylltu â chymunedau i ennyn diddordeb yn y rhywogaethau prin yn eu hardal
  • hyrwyddo llesiant trwy gysylltu pobl â natur
  • canfod perthnasedd rhywogaethau prin i bobl Cymru 

Rydym yn gweithio â'r cyhoedd, yn ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd ac yn creu gweithgareddau i wirfoddolwyr, a byddwn yn dod â rhywogaethau'n fyw ac yn cynyddu’r gwerth a roddir gan ddiwylliant ac iaith Cymru ar y byd naturiol.

Byddwn yn gweithio gyda diwydiannau creadigol, partneriaid cyflawni a'n cynllun grantiau cymunedol bach ein hunain i sicrhau bod ein rhaglen yn hygyrch i bawb, gyda phwyslais ar gynhwysiant a thargedu cymunedau mewn ardaloedd o amddifadedd lluosog.

Amserlen

Cam 1: Datblygu’r Rhaglen - mis Medi 2021 tan fis Chwefror 2023

Cam 2: Cyflwyno’r Rhaglen - mis Mawrth 2023

Cam 3: Cyflawni’r Rhaglen - mis Medi 2023 tan fis Medi 2027

Newyddion a Blog

Cysylltwch â ni

Os bydd arnoch angen mwy o wybodaeth, cysylltwch ag aelod o'r tîm trwy anfon e-bost at naturambyth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Natur am Byth! Adfer Rhywogaethau dan fygythiad yng Nghymru

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol drwy chwilio am #NaturAmByth

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Fly-fishing
  • Cockles
  • Newport Green and Safe Spaces
  • Rivers
  • Flooding
  • Llifogydd
  • Community Volunteers
  • Gwirfoddolwyr Cymunedol
  • Management
  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group
  • South West Stakeholder group
  • Citizens
  • National Access Forum
  • Gwent
  • citizens
  • water companies
  • NFU
  • DCWW
  • Anglers
  • Coal Authority
  • Educators
  • SoNaRR2020
  • Mine recovery specialists
  • Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
  • Metal mines
  • Mwyngloddiau metel
  • Coastal Group Members
  • Wales Biodiversity Partnership
  • Equality, Diversity and Inclusion

Diddordebau

  • Community Voulnteering