Y diweddaraf am fanwerthu ac arlwyo yng nghanolfannau ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru

Yn cau 1 Hyd 2025

Wedi'i agor 20 Tach 2024

Trosolwg

Bydd y ddarpariaeth manwerthu ac arlwyo mewn tair canolfan ymwelwyr a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau tan 31 Mawrth 2025, ac yna byddant yn cau.

Ar ôl iddynt gau, byddwn yn lansio ymarfer cyhoeddus i chwilio am bartneriaid a allai fod â diddordeb i helpu i redeg y gwasanaethau hyn ym Mwlch Nant yr Arian, Ynyslas a Choed y Brenin yn y dyfodol.

Bydd yr holl lwybrau, y maes parcio, yr ardal chwarae a’r toiledau yn parhau ar agor yn y safleoedd a chynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus i roi’r diweddaraf i gymunedau ar 25, 26 a 27 Tachwedd.

Dywedodd Elsie Grace, Pennaeth Datblygu Masnachol CNC: "Rydym yn deall pa mor bwysig yw ein safleoedd i gymunedau lleol ac i ymwelwyr ac rydym yn gwybod bod y penderfyniad i roi'r gorau i ddarparu gwasanaethau arlwyo a manwerthu wedi siomi llawer o bobl.

“Mae ein bwrdd wedi gwneud y penderfyniad mewn ymateb i'r sefyllfa ariannol gyfyng iawn yr ydym ni a chyrff cyhoeddus eraill yn ei hwynebu.

"Byddwn yn chwilio am bartneriaid - yn grwpiau cymunedol ac yn fusnesau - i gofrestru diddordeb i ddarparu’r gwasanaethau hyn wrth symud ymlaen, a byddwn yn darparu mwy o wybodaeth ar sut i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb cyn lansio unrhyw ymarfer tendro.

"Yn y cyfamser, bydd ein holl lwybrau, meysydd parcio, mannau chwarae a chyfleusterau toiled yn parhau ar agor a byddwn yn parhau i gynnal ein safleoedd er mwyn sicrhau bod mynediad i'r cyhoedd yn parhau.

“Hoffwn hefyd ddiolch i’n staff am eu gwaith caled a’u hymroddiad yn y cyfnod yma.

"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu aelodau o'r cyhoedd a rhanddeiliaid i'n cyfarfodydd yn y dyfodol agos fel y gallwn ddarparu mwy o wybodaeth."

Mae CNC yn sefydliad sector cyhoeddus ac mae ganddo reoliadau a phrosesau caffael llym y mae'n rhaid eu dilyn.

Er mwyn sicrhau tegwch a chydraddoldeb, ni fydd unrhyw gynigion yn cael eu hystyried cyn dechrau unrhyw broses dendro gyhoeddus a byddwn yn darparu mwy o fanylion am y broses hon, gan gynnwys y dyddiad dechrau, maes o law.

Maes o law, byddwn yn defnyddio gwefan GwerthwchiGymru, a gall unrhyw un sydd â diddordeb gofrestru ar y platfform cyn i unrhyw broses ddechrau.

Cynhaliwyd y cyfarfodydd cyhoeddus yn:

  • Neuadd Gymunedol y Borth, Stryd Fawr, y Borth, SY24 5LH, 25 Tachwedd, yn dechrau am 7pm.
  • Neuadd Penllwyn Capel Bangor, Aberystwyth, SY23 3LS, 26 Tachwedd, yn dechrau am 6.30pm.
  • Neuadd Bentref Ganllwyd, Llafar Y Lli, Ganllwyd, LL40 2TF, 27 Tachwedd, yn dechrau am 6.30pm.

Nid oes angen archebu lle ond byddwch yn ymwybodol y gallai’r lleoliadau fod yn llawn iawn.

Diweddariad

Hoffem ddiolch i bawb a fu’n bresennol yn y cyfarfodydd cyhoeddus yn trafod dyfodol ein canolfannau ymwelwyr.

Hoffem ddiolch hefyd i'r rhai sydd wedi bod mewn cysylltiad gyda chwestiynau ychwanegol a cheisiadau am gyfarfodydd pellach. Rydym yn ddiolchgar am eich diddordeb a'ch angerdd mewn perthynas â’r safleoedd hyn ac rydym yn ystyried yr holl adborth sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn.

Rydym yn cadarnhau'r Cwestiynau Cyffredin yn ogystal â chrynhoi'r wybodaeth a roddwyd ar gyfer pob un o'r tri safle a byddwn yn eu cyhoeddi yma cyn bo hir. Bydd y Cwestiynau Cyffredin yn parhau i gael eu diweddaru wrth i gwestiynau pellach gael eu gofyn ac wrth i amser fynd yn ei flaen.

Byddwn hefyd yn trefnu sesiynau galw heibio ar gyfer grwpiau llai neu'r rhai sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o ddyfodol y safleoedd a byddwn yn cyhoeddi'r dyddiadau yma cyn gynted ag y byddant wedi’u cadarnhau.

Sesiynau galw heibio

Mae sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau'r gymuned am ddyfodol canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Ynyslas a Choed y Brenin.

Mae hyn yn rhan o'n gwaith ymgysylltu parhaus â’r cymunedau dan sylw, a bydd staff wrth law i siarad am y safleoedd ac i ateb unrhyw gwestiynau.

Gallwch gadw lle yn y sesiynau drwy e-bostio ymgysylltu.masnachol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan nodi’r digwyddiad a'r amser yr hoffech chi fod yn bresennol.

Bydd y sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal fel a ganlyn:

Dydd Mercher 8 Ionawr rhwng 10am a 3pm yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UR.

Dydd Llun 13 Ionawr rhwng 10am a 3pm yng Nghanolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, Dolgefeiliau, Dolgellau LL40 2HZ.

Dydd Llun 20 Ionawr rhwng 10am a 3pm yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UR.

Dydd Gwener 24 Ionawr rhwng 10am a 3pm yng Nghanolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, Dolgefeiliau, Dolgellau LL40 2HZ.

Mynegi diddordeb

Gallwch gymryd rhan yn y broses o fynegi diddordeb ar gyfer defnydd y gymuned o Ganolfan Ymwelwyr Ynyslas gan y gymuned drwy ddarllen a chwblhau’r ffurflen ar waelod y dudalen hon a’i dychwelyd ynghyd ag unrhyw ddogfennau ategol at ymgysylltu.masnachol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 10 Ionawr, 2025.

GwerthwchiGymru

Mae gwefan GwerthwchiGymru yn borth caffael ac yn ffynhonnell o wybodaeth a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu:

  • busnesau i ennill contractau gyda'r sector cyhoeddus ar draws Cymru
  • prynwyr sector cyhoeddus i hysbysebu a rheoli cyfleoedd tendro
  • busnesau i hyrwyddo eu gwasanaethau
  • busnesau i ddod o hyd i gyfleoedd contract

Gallwch ddarganfod mwy yn GwerthwchiGymru: Croeso i GwerthwchiGymru

Cyflwyno cwestiwn

Os hoffech gyflwyno cwestiwn cyn y cyfarfodydd, gallwch wneud hynny yn ymgysylltu.masnachol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Fly-fishing
  • Cockles
  • Newport Green and Safe Spaces
  • Rivers
  • Flooding
  • Llifogydd
  • Community Volunteers
  • Gwirfoddolwyr Cymunedol
  • Management
  • Woodland Opportunity Map users
  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group
  • South West Stakeholder group
  • Citizens
  • National Access Forum
  • Gwent
  • citizens
  • water companies
  • NFU
  • DCWW
  • Anglers
  • Coal Authority
  • River restoration
  • Adfer afonydd
  • Educators
  • SoNaRR2020
  • Designated Landscapes
  • Tirweddau dynonedig
  • Mine recovery specialists
  • Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
  • Metal mines
  • Mwyngloddiau metel
  • Coastal Group Members
  • Wales Biodiversity Partnership
  • Equality, Diversity and Inclusion
  • EPR and COMAH facilities

Diddordebau

  • National Access Forum