Y diweddaraf am fanwerthu ac arlwyo yng nghanolfannau ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru

Yn cau 28 Tach 2024

Wedi'i agor 20 Tach 2024

Trosolwg

Bydd y ddarpariaeth manwerthu ac arlwyo mewn tair canolfan ymwelwyr a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau tan 31 Mawrth 2025, ac yna byddant yn cau.

Ar ôl iddynt gau, byddwn yn lansio ymarfer cyhoeddus i chwilio am bartneriaid a allai fod â diddordeb i helpu i redeg y gwasanaethau hyn ym Mwlch Nant yr Arian, Ynyslas a Choed y Brenin yn y dyfodol.

Bydd yr holl lwybrau, meysydd parcio, mannau chwarae a chyfleusterau toiled yn parhau ar agor ar y safleoedd dan sylw a byddwn yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus i roi’r diweddaraf i gymunedau ar 25, 26 a 27 Tachwedd.

Dywedodd Elsie Grace, Pennaeth Datblygu Masnachol CNC: "Rydym yn deall pa mor bwysig yw ein safleoedd i gymunedau lleol ac i ymwelwyr ac rydym yn gwybod bod y penderfyniad i roi'r gorau i ddarparu gwasanaethau arlwyo a manwerthu wedi siomi llawer o bobl.

“Mae ein bwrdd wedi gwneud y penderfyniad mewn ymateb i'r sefyllfa ariannol gyfyng iawn yr ydym ni a chyrff cyhoeddus eraill yn ei hwynebu.

"Byddwn yn chwilio am bartneriaid - yn grwpiau cymunedol ac yn fusnesau - i gofrestru diddordeb i ddarparu’r gwasanaethau hyn wrth symud ymlaen, a byddwn yn darparu mwy o wybodaeth ar sut i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb cyn lansio unrhyw ymarfer tendro.

"Yn y cyfamser, bydd ein holl lwybrau, meysydd parcio, mannau chwarae a chyfleusterau toiled yn parhau ar agor a byddwn yn parhau i gynnal ein safleoedd er mwyn sicrhau bod mynediad i'r cyhoedd yn parhau.

“Hoffwn hefyd ddiolch i’n staff am eu gwaith caled a’u hymroddiad yn y cyfnod yma.

"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu aelodau o'r cyhoedd a rhanddeiliaid i'n cyfarfodydd yn y dyfodol agos fel y gallwn ddarparu mwy o wybodaeth."

Mae CNC yn sefydliad sector cyhoeddus ac mae ganddo reoliadau a phrosesau caffael llym y mae'n rhaid eu dilyn.

Er mwyn sicrhau tegwch a chydraddoldeb, ni fydd unrhyw gynigion yn cael eu hystyried cyn dechrau unrhyw broses dendro gyhoeddus a byddwn yn darparu mwy o fanylion am y broses hon, gan gynnwys y dyddiad dechrau, maes o law.

Maes o law, byddwn yn defnyddio gwefan GwerthwchiGymru, a gall unrhyw un sydd â diddordeb gofrestru ar y platfform cyn i unrhyw broses ddechrau.

Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn:

  • Neuadd Gymunedol y Borth, Stryd Fawr, y Borth, SY24 5LH, 25 Tachwedd, yn dechrau am 7pm.
  • Neuadd Penllwyn Capel Bangor, Aberystwyth, SY23 3LS, 26 Tachwedd, yn dechrau am 6.30pm.
  • Neuadd Bentref Ganllwyd, Llafar Y Lli, Ganllwyd, LL40 2TF, 27 Tachwedd, yn dechrau am 6.30pm.

Nid oes angen archebu lle ond byddwch yn ymwybodol y gallai’r lleoliadau fod yn llawn iawn.

GwerthwchiGymru

Mae gwefan GwerthwchiGymru yn borth caffael ac yn ffynhonnell o wybodaeth a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu:

  • busnesau i ennill contractau gyda'r sector cyhoeddus ar draws Cymru
  • prynwyr sector cyhoeddus i hysbysebu a rheoli cyfleoedd tendro
  • busnesau i hyrwyddo eu gwasanaethau
  • busnesau i ddod o hyd i gyfleoedd contract

Gallwch ddarganfod mwy yn GwerthwchiGymru: Croeso i GwerthwchiGymru

Cyflwyno cwestiwn

Os hoffech gyflwyno cwestiwn cyn y cyfarfodydd, gallwch wneud hynny yn ymgysylltu.masnachol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Unrhyw un o unrhyw gefndir

Diddordebau

  • National Access Forum