Arolwg parodrwydd y gwasanaeth olrhain gwastraff digidol
Trosolwg
Beth sy’n newid?
Mae tracio gwastraff yn ddigidol yn cael ei gyflwyno ledled y DU i foderneiddio sut mae symudiadau gwastraff yn cael eu cofnodi a'u hadrodd.
O 1 Hydref 2026, bydd yn ofynnol i weithredwyr safleoedd derbyn gwastraff trwyddedig ddefnyddio gwasanaeth tracio gwastraff yn ddigidol y DU i gofnodi gwastraff a dderbynnir yn eu safleoedd.
Cymerwch ein harolwg parodrwydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn paratoi ar gyfer y newid hwn ac mae am ddeall pa mor barod yw safleoedd derbyn gwastraff trwyddedig yng Nghymru ar gyfer tracio gwastraff yn ddigidol, pa rwystrau y gallai gweithredwyr fod yn eu hwynebu, a pha gymorth y gallai fod ei angen cyn i'r gofynion ddod yn orfodol.
Mae'r arolwg hwn ar gyfer gweithredwyr safleoedd derbyn gwastraff trwyddedig yng Nghymru.
Dylai'r arolwg gymryd tua 5–10 munud i'w gwblhau.
Dylech gwblhau'r arolwg os yw eich safle'n derbyn gwastraff o dan drwydded amgylcheddol.
Cwblhewch yr arolwg tracio gwastraff yn ddigidol nawr!
Pam bod eich barn yn bwysig
Mae'r arolwg hwn wedi'i gynllunio i gofnodi parodrwydd ar gyfer gweithredu tracio gwastraff yn ddigidol yn orfodol ym mis Hydref 2026 ac i gynnig cymorth ac arweiniad CNC i'ch cynorthwyo i fodloni eich gofynion tracio gwastraff yn ddigidol.
Rydym yn gwybod y bydd safleoedd mewn gwahanol gamau o barodrwydd. Efallai fod rhai gweithredwyr eisoes yn defnyddio meddalwedd rheoli gwastraff ac efallai fod eraill yn dibynnu ar daenlenni neu systemau papur. Efallai fod rhai yn dal yn ansicr a ydynt nhw o fewn cwmpas y cam hwn o dracio gwastraff yn ddigidol.
Bydd eich ymateb yn ein helpu ni i wneud y canlynol:
- deall pa mor barod yw safleoedd derbyn gwastraff trwyddedig yng Nghymru
- nodi rhwystrau ymarferol, risgiau ac anghenion cymorth
- deall pa systemau y mae gweithredwyr yn eu defnyddio ar hyn o bryd i gofnodi derbyniadau gwastraff
- llunio cyngor, canllawiau ac ymgysylltiad yn y dyfodol
- targedu cymorth lle mae ei angen fwyaf
Nid asesiad cydymffurfedd yw'r arolwg hwn ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben rheoleiddio. Mae'n ffordd o rannu eich parodrwydd, eich pryderon a'ch anghenion cymorth presennol gyda ni fel y gallwn gynllunio gwaith ymgysylltu a chymorth ar gyfer y sector.
Cysylltwch â ni
Am ymholiadau cyffredinol am yr arolwg hwn neu barodrwydd tracio gwastraff yn ddigidol yng Nghymru, cysylltwch â:
Am gymorth gwasanaeth tracio gwastraff yn ddigidol, cysylltwch â:
Llinell gymorth tracio gwastraff yn ddigidol
Ffôn: 03000 203 781
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Gwybodaeth bellach
System orfodol ar gyfer tracio gwastraff yn ddigidol [LLYW.CYMRU]
Peidiwch â gwastraffu amser – mae olrhain gwastraff digidol yn dod
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- EPR and COMAH facilities
Diddordebau
- Waste
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook