Ymgynghoriad ar ein ffioedd a thaliadau rheoleiddio ar gyfer 2025/26
Canlyniadau wedi'u diweddaru 1 Ebr 2025
Fel corff Llywodraeth Cymru (LlC), rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gydymffurfio â’r gofynion a nodir yn ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru’. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol inni adennill yr holl gostau sy’n gysylltiedig â darparu ein gwasanaethau rheoleiddio gan y rhai rydym yn eu rheoleiddio, lle bo hynny’n bosibl, fel na chaiff y gwasanaethau hynny eu hariannu drwy drethi cyffredinol.
Nid oedd llawer o ffioedd a thaliadau CNC wedi’u hadolygu’n llawn ers sawl blwyddyn. Gan ddechrau gyda’r adolygiad strategol diweddar o godi tâl am geisiadau, rydym yn parhau â’n rhaglen waith hirdymor i sicrhau bod taliadau ar draws CNC yn adlewyrchu costau.
Rydym yn cydnabod yr effaith ariannol y gallai ein cynigion codi tâl ei chael ar rai busnesau, yn enwedig gan fod ein cynigion yn cyd-fynd â phwysau ariannol ehangach oherwydd chwyddiant a chostau byw uwch. Fodd bynnag, byddai methu â rheoli ein cynlluniau codi tâl i sicrhau eu bod yn adennill costau’n llawn yn cael effaith ar ein gallu i gyflawni ein dyletswydd reoleiddiol, atal llygredd, a chyfrannu at fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae cyllid cynaliadwy yn golygu y gallwn gynnal ein cymwyseddau arbenigol, sicrhau cydymffurfedd â deddfwriaeth a thrwyddedau, ac addasu gwaith rheoleiddio. Mae’n bwysig inni addasu rheoleiddio a chyllid i gyflawni’r lefel o reoleiddio sydd ei hangen yng Nghymru er mwyn atal llygredd a sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu cynnal, eu gwella a’u defnyddio’n gynaliadwy, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Ffeiliau:
- 2025_26 Charges Consultation Response FINAL CYM.pdf, 2.3 MB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn ymgynghori ar ein cynigion i ddiweddaru'r taliadau ar gyfer rhai o'n trwyddedau, hawlenni a gweithgareddau cydymffurfio. Gallwch ddod o hyd i'r cynigion codi tâl llawn isod. Darllenwch hwn cyn bwrw ymlaen â'r cwestiynau.
Mae cwestiynau ein hymgynghoriad yn gofyn i chi am eich barn ar ein cynigion. Byddwn yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynigion terfynol, yr ydym yn bwriadu eu gweithredu o Ebrill 2025, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru.
Cwblhewch yr adrannau dan y pennawd Amdanoch chi a'r Cwestiynau Cyffredinol cyn symud ymlaen i'r adrannau penodol am y gyfundrefn. Mae un cwestiwn olaf ar gyfer unrhyw beth arall yr hoffech ei ddweud wrthym.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni drwy e-bost os gwelwch yn dda: sroc@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Fly-fishing
- Cockles
- Newport Green and Safe Spaces
- Rivers
- Flooding
- Llifogydd
- Community Volunteers
- Gwirfoddolwyr Cymunedol
- Management
- Woodland Opportunity Map users
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- South West Stakeholder group
- Citizens
- National Access Forum
- Gwent
- citizens
- water companies
- NFU
- DCWW
- Anglers
- Coal Authority
- River restoration
- Adfer afonydd
- Educators
- SoNaRR2020
- Designated Landscapes
- Tirweddau dynonedig
- Mine recovery specialists
- Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
- Metal mines
- Mwyngloddiau metel
- Coastal Group Members
- Wales Biodiversity Partnership
- Equality, Diversity and Inclusion
- EPR and COMAH facilities
Diddordebau
- Strategic review of charging
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook