Ymgynghoriad ar ein ffioedd a thaliadau rheoleiddio ar gyfer 2024/25

Ar gau 8 Ion 2024

Wedi'i agor 16 Hyd 2023

Canlyniadau wedi'u diweddaru 28 Maw 2024

Fel corff Llywodraeth Cymru (LlC), rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gydymffurfio â'r gofynion a nodir yn 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru’. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol ein bod yn adennill costau'r gwasanaethau rheoleiddio a ddarparwn gan y rhai sy'n eu defnyddio lle bynnag y bo'n bosibl, yn hytrach na chael y gwasanaethau hynny wedi'u hariannu drwy drethiant cyffredinol.

Nid oedd llawer o ffioedd a thaliadau CNC wedi cael eu hadolygu'n llawn ers sawl blwyddyn. Gan ddechrau gyda'r Adolygiad Strategol diweddar o Godi Tâl ar gyfer ceisiadau, rydym wedi dechrau ar ddull hirdymor i sicrhau bod codi tâl ar draws CNC yn adlewyrchu costau.

Rydym yn cydnabod yr effaith ariannol y gallai ein cynigion codi tâl ei chael ar rai busnesau, yn enwedig gan fod ein cynigion yn cyd-fynd â phwysau ariannol ehangach o ganlyniad i chwyddiant a'r costau byw cynyddol. Byddai methu â rheoli ein cynlluniau codi tâl i sicrhau eu bod yn adlewyrchu adennill costau llawn fodd bynnag yn cyfyngu ar ein gallu i gyflawni ein dyletswydd reoleiddio, ein gallu i atal llygredd ac ar ein gallu i gyfrannu tuag at yr ymdrech i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae cyllido cynaliadwy yn golygu y gallwn gynnal ein cymwyseddau arbenigol, sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth a thrwyddedau ac addasu rheoleiddio. Mae'n bwysig y gallwn addasu rheoleiddio a chyllid i gyflawni'r lefel o reoleiddio sydd ei hangen yng Nghymru i atal llygredd ac i sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu cynnal, eu gwella a'u defnyddio'n gynaliadwy, nawr ac yn y dyfodol.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn ymgynghori ar ein cynigion i ddiweddaru'r taliadau ar gyfer rhai o'n trwyddedau, hawlenni a gweithgareddau cydymffurfio. Gallwch ddod o hyd i'r cynigion codi tâl llawn isod. Darllenwch hwn cyn bwrw ymlaen â'r cwestiynau.

Mae cwestiynau ein hymgynghoriad yn gofyn i chi am eich barn ar ein cynigion. Byddwn yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynigion terfynol, yr ydym yn bwriadu eu gweithredu o Ebrill 2024, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru.

Cwblhewch yr adrannau dan y pennawd Amdanoch chi a'r Cwestiynau Cyffredinol cyn symud ymlaen i'r adrannau penodol am y gyfundrefn. Mae un cwestiwn olaf ar gyfer unrhyw beth arall yr hoffech ei ddweud wrthym.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni drwy e-bost os gwelwch yn dda: sroc@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

Diddordebau

  • Strategic review of charging