Ymgynghoriad ar amrywio trwydded safle tirlenwi Withyhedge

Yn cau 20 Meh 2025

Wedi agor 21 Mai 2025

Trosolwg

Mae Resources Management UK Ltd wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i newid ei drwydded amgylcheddol ar gyfer safle tirlenwi Withyhedge (rhif trwydded EPR/MP3330WP).

Mae’r newid hwn, a elwir yn ‘amrywiad’, yn ofyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Mae’r newidiadau arfaethedig yn cynnwys:

  • Lefelau gwaith adfer diwygiedig
  • Rhaglen reoli a monitro wedi’i haddasu ar gyfer dŵr daear, dŵr wyneb a thrwytholch
  • Ychwanegu 50,000 tunnell o briddoedd gwastraff y flwyddyn i’w hadfer o dan weithgaredd adfer gwastraff newydd
  • Cyfuno a moderneiddio’r drwydded, gan gynnwys adolygu’r amodau gwella ac amodau cynweithredol presennol

Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad o’r ffordd y bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar y gosodiad.

Ceir dolenni i’r prif ddogfennau ymgeisio sy’n ymwneud â’r cais ar waelod y dudalen hon.

Gallwch weld y gyfres lawn o ddogfennau ymgeisio ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein. Fel arall, gallwch drefnu i weld y dogfennau drwy ffonio ein canolfan gwasanaeth cwsmeriaid ar 0300 065 3000 neu drwy anfon e-bost at ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.  Mae copïau caled o ddogfennau'r cais ar gael ar gais ond gallant gymryd peth amser i'w prosesu a gallai fod tâl.

Rydym yn awyddus i gael eich sylwadau ar y cais ac wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos wrth i ni ddechrau cam penderfynu (asesiad technegol) y broses ymgeisio.

Gallwch roi sylwadau ar y cais drwy gymryd rhan yn ein hymgynghoriad, y mae dolen iddo ar waelod y dudalen hon.

Yr hyn y gallwn ei ystyried

Yr hyn y gallwn ei ystyried:

  • Cymhwysedd y gweithredwr i fodloni amodau’r drwydded (yn unol â Nodyn Cyfarwyddyd Rheoleiddio 5: Cymhwysedd Gweithredwr)
  • Unrhyw derfynau allyriadau arfaethedig i aer, tir a dŵr
  • Effeithiau posibl ar iechyd a’r amgylchedd lleol
  • Rheolaeth weithredol gyffredinol y cyfleuster arfaethedig
  • Trin a storio unrhyw wastraff a deunyddiau crai
  • Defnydd effeithlon o unrhyw ddeunyddiau crai, dŵr ac ynni
  • Rheoli unrhyw arogl, sŵn, llwch, sbwriel a phlâu
  • Unrhyw ffactorau lleol perthnasol y credwch nad yw’r ymgeisydd wedi’u hystyried yn ei gais
  • Proses fonitro, gweithdrefnau a safonau y cytunwyd arnynt

Yr hyn na allwn ei ystyried:

  • Lleoliad y safle (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol)
  • Traffig (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol)
  • Effaith weledol (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol)
  • Defnydd o’r tir (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol)
  • Oriau gweithredu neu bolisi’r llywodraeth, p’un a yw’n Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol)
  • Penderfynu a oes angen i’r ymgeisydd hefyd gynnal asesiad o’r effaith amgylcheddol (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol)
  • Faint o ddeunydd crai a ddefnyddir ac o ble y mae’n dod
  • Mynediad at y safle (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol)

Gallwch weld dogfennau ategol y cais a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad isod.

Manylion y cais

Cyfeirnod y cais:PAN-025929

Rhif y drwydded: EPR/MP3330WP

Math o gais: Amrywiad sylweddol

Cyfeiriad: Safle Tirlenwi Withyhedge, Bowling Farm, Rudbaxton, Hwlffordd, SA62 4DB

Gweithredwr: Resources Management UK Ltd

Lefelau gwaith adfer diwygiedig

Yn dilyn adolygiad o’r rhannau tirlenwi a gwblhawyd, mae’r gweithredwr wedi nodi nad yw lefelau terfynol y rhannau a gwblhawyd o’r safle tirlenwi yn cyd-fynd â’r cynllun adfer a ganiatawyd. Maen nhw wedi cynnig addasu lefelau terfynol y safle tirlenwi i gyd-fynd yn well ag amodau presennol y safle. I gefnogi’r cais hwn, mae’r ymgeisydd wedi asesu’r risg ar gyfer y proffil cwblhau diwygiedig.

Rhaglen reoli a monitro wedi’i haddasu ar gyfer dŵr daear, dŵr wyneb a thrwytholch

Mae’r gweithredwr wedi gwneud cais am sawl newid i raglen reoli a monitro’r drwydded. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: monitro gwell o ddŵr wyneb, addasiadau i echdynnu trwytholchion o’r rhan gaeedig o’r safle tirlenwi, a dileu amodau sy’n ymwneud ag ailgylchredeg trwytholchion. Mae asesiad risg yn cefnogi’r newidiadau hyn wedi’i gyflwyno i gefnogi’r newidiadau arfaethedig (cyfeiriwch at yr ‘Adolygiad o’r Asesiad Risg Hydroddaearegol’).

Gweithgaredd adfer gwastraff

Mae priddoedd ar gyfer peirianneg a chapio wedi’u cyrchu o’r safle o’r blaen. Gan fod y ffynhonnell hon bellach wedi’i defnyddio, mae’r gweithredwr yn gwneud cais i ychwanegu gweithgaredd adfer gwastraff at y drwydded i ganiatáu dyddodi 50,000 tunnell y flwyddyn o wastraff pridd ar y safle at ddibenion adfer. Mae cynllun adfer gwastraff wedi’i gyflwyno i gefnogi’r newid hwn.

Cyfuno a moderneiddio’r drwydded

Mae’r gweithredwr wedi gofyn am foderneiddio’r drwydded ac am gyfuno’r holl amrywiadau blaenorol ohoni. Maent hefyd wedi gofyn am adolygu’r amodau gwella ac amodau cynweithredol presennol.

Cyfeiriwch at ddogfennaeth ategol y cais am fanylion llawn cynnig y gweithredwr.

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn deall bod y safle hwn o ddiddordeb arbennig i’r cyhoedd a’r gymuned leol. Oherwydd hyn, rydym wedi gwella ein hymdrechion cyfathrebu drwy lansio ymgynghoriad ar-lein drwy ein Hwb Ymgynghori ac Ymgysylltu, yn ogystal â’r broses ymgynghori arferol.

Dyma eich cyfle i weld dogfennau ategol y cais ac ymateb i’n hymgynghoriad gyda’ch sylwadau. Byddwn yn ystyried eich ymatebion i’r ymgynghoriad fel rhan o’n penderfyniad ar y cais. Os byddwn yn penderfynu cyhoeddi’r amrywiad, byddwn yn egluro sut y gwnaethom ein penderfyniad a sut yr ydym wedi mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd.

Ardaloedd

  • Haverfordwest: Castle
  • Haverfordwest: Garth
  • Haverfordwest: Portfield
  • Haverfordwest: Prendergast
  • Haverfordwest: Priory

Cynulleidfaoedd

  • South West Stakeholder group

Diddordebau

  • Permits