Diweddariad Coedwig: Sir Gaerfyrddin
Trosolwg
Yn ne orllewin Cymru, rydyn ni'n wynebu her aruthrol wrth adfer ar ôl Storm Darragh, un o'r digwyddiadau tywydd mwyaf dinistriol ers degawdau.
Mae ein harolygon o goed a godwyd o’u gwreiddiau ac a chwythwyd drosodd gan y gwynt wedi nodi bod yr effaith yn enfawr, gyda hyd at 900 hectar o goed wedi’u chwythu drosodd ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru (YGLlC) gyda Sir Gaerfyrddin ac ardaloedd eraill yn ne orllewin Cymru yn dioddef yr effeithiau gwaethaf.
Bydd adfer yn ymdrech hirdymor a allai gymryd hyd at dair blynedd.
Er gwaethaf yr anawsterau, rydym yn gwneud cynnydd cyson, yn blaenoriaethu diogelwch, yn ailagor pwyntiau mynediad, ac yn cefnogi ffermwyr lleol.
Rydym wir yn gwerthfawrogi eich amynedd a'ch cydweithrediad wrth i ni fynd drwy'r broses adfer gymhleth hon.
Beth sydd ar agor?
Mae'n bleser gennym ddweud bod rhai pwyntiau mynediad allweddol wedi'u hailagor. Dyma grynodeb diweddar o'r hyn sy'n hygyrch ar gyfer cerdded, beicio mynydd a marchogaeth:
- Mae Llwybr Golygfa Talyllychau (Llwybr Coch) yng Nghoetiroedd Talyllychau, ger Llanymddyfri, ar agor.
- Yng Nghoedwig Cwm Rhaeadr, mae’r llwybr pob gallu a disgynfa isaf y llwybr beicio mynydd ar agor. Mae llwybrau eraill gan gynnwys llwybr y rhaeadr wedi'u difrodi'n sylweddol ac yn parhau i fod ar gau.
- Mae Maes Parcio Halfway ar agor, gan ddarparu mynediad ar gyfer cerdded, beicio a marchogaeth ar hyd ein ffyrdd coedwig. Mae Llwybrau Cerdded Coetir Halfway (Llwybr Cerdded Nant y Dresglen a Melyn y Glyn) ar agor.
- Coedwig Pen Arthur – mae mynediad ar hyd ffordd y goedwig ar agor ar gyfer cerdded, beicio a marchogaeth.
- Mae Coedwig Pen-bre a Phen-y-Bedd yn agored ac yn hygyrch ar gyfer cerdded a beicio. Gellir cael trwyddedau ceffylau oddi wrth: Ymddiriedolaeth Cadwraeth Pen-bre: Trwyddedau Ceffylau
- Mae Meysydd Parcio Coedwig Crychan (Brynffo, Fferm Cefn ac Esgair Fwyog) ar agor gan ddarparu mynediad ar hyd ffyrdd coedwig ar gyfer cerdded, beicio, marchogaeth a gyrru car a cheffyl. Mae’r holl lwybrau cerdded yn parhau i fod yn anhygyrch.
Yng Nghoedwig Brechfa, rydym yn gweithio i ailagor meysydd parcio Byrgwm ac Abergorlech yn fuan:
- Yn y Byrgwm, bydd hyn yn cynnwys ailagor rhannau bach o lwybrau beicio mynydd ond bydd y llwybr cerdded yn parhau ar gau. Bydd mynediad yn y Byrgwm yn cynnwys cerdded, beicio a marchogaeth ar hyd ffordd y goedwig.
- Yn Abergorlech, bydd y man chwarae, y llwybrau cerdded a llwybr beicio mynydd Gorlech yn parhau ar gau, fodd bynnag bydd y safle hwn yn darparu mynediad ar gyfer cerdded, beicio a marchogaeth ar hyd rhannau o ffordd y goedwig.
- Mae Maes Parcio a llwybr cerdded Gwarallt ar agor gyda'r llwybr cerdded yn hygyrch.
- Mae Maes Parcio Keepers ar agor i roi mynediad ar hyd ffyrdd y goedwig ar gyfer cerdded, beicio a marchogaeth.
Effaith Storm Darragh
Roedd Storm Darragh yn ddigwyddiad unwaith mewn 20 i 30 mlynedd; achosodd ddifrod sylweddol ar draws Sir Gaerfyrddin, gyda’r arolygon hyd yn hyn yn cofnodi hyd at 340 hectar o goed wedi’u chwythu drosodd gan y gwynt – sef maint oddeutu 480 o gaeau pêl-droed.
Mae difrod oherwydd gwynt yn deillio o gyfuniad o hyrddiau yn ystod stormydd, amodau pridd, rhywogaethau coed, topograffeg, a chyfeiriad y gwynt. Gwyntoedd gogledd-ddwyreiniol oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r difrod y tro hwn, a oedd yn anarferol i'r rhanbarth.
- Cafodd ardaloedd Brechfa a Caio eu taro’n galed, ac mae asesiadau’n parhau i gadarnhau maint llawn y difrod.
- Mae ffensys terfyn wedi'u heffeithio, ac mae archwiliadau'n parhau. Ni all llawer o waith atgyweirio ffensys ddechrau hyd nes y bydd gwaith symud coed wedi digwydd ar raddfa fawr.
- Mae mynediad i’r cyhoedd yn parhau i gael ei effeithio'n ddifrifol, gyda llawer o Hawliau Tramwy Cyhoeddus (llwybrau troed, llwybrau ceffylau, Cilffyrdd sy'n Agored i Bob Traffig) yn anhygyrch. Mae arolygon yn mynd rhagddynt i ddeall maint yr effaith a'r gwaith clirio sydd ei angen.
- Mae llawer o lwybrau cerdded a hyrwyddir gan CNC yn anhygyrch ac ar gau am resymau diogelwch.
- Rydym yn annog ymwelwyr i edrych ar ein gwefan i weld y wybodaeth ddiweddaraf a dilyn arwyddion ar y safleoedd.
Blaenoriaethau a gwaith parhaus
- Cefnogi ffermwyr: mae archwiliadau ac atgyweiriadau i ffensys terfyn sydd wedi’u difrodi yn flaenoriaeth i sicrhau lles da byw ar ffermydd, na ellir eu rhoi i bori’n ddiogel ar hyn o bryd.
- Archwiliadau mynediad a diogelwch: mae ein timau yn asesu llwybrau, ffyrdd coedwig, ac ardaloedd hamdden i benderfynu beth y gellir ei ailagor yn ddiogel.
- Rheoli contractau: mae ein timau’n rheoli’r gwaith clirio coed gyda chontractwyr i sicrhau y gallwn ailagor rhai safleoedd hamdden, ond gyda chyfyngiadau a dargyfeiriadau.
- Mynediad hamdden: mae clirio meysydd parcio a ffyrdd coedwig wedi bod yn flaenoriaeth i ni, ac mae gwaith clirio bellach yn mynd rhagddo i glirio llwybrau cerdded, beicio a Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
Gwirfoddolwyr
Diolch yn fawr iawn i'r gwirfoddolwyr gyda Brechfa MTB (CIC) a fynychodd ddiwrnod cynnal a chadw ym Mrechfa yn unol â'u cytundeb rheoli. Mae eu gwaith caled yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac yn cefnogi ein contractwyr i adfer ein llwybrau beicio mynydd yn y Byrgwm, a fydd yn caniatáu mynediad unwaith eto ar hyd rhai rhannau o'r llwybrau dros y pythefnos nesaf, yn amodol ar gwblhau archwiliadau. Byddwn yn rhoi diweddariad pellach ar hyn cyn gynted ag y bydd yr archwiliadau o’r llwybrau wedi'u cwblhau.
Diolch
Rydym yn deall pa mor rhwystredig ydyw bod y llwybrau hyn ar gau, ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd wrth inni weithio i adfer mynediad diogel i’r coedwigoedd.
Sut gallwch chi helpu
Hyd nes y clywir yn wahanol, osgowch ymweld â’n coedwigoedd heblaw’r safleoedd hygyrch a nodir uchod.
I roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau newydd, cysylltwch â’n llinell cymorth digwyddiadau ar 0300 065 3000 neu llenwch ein ffurflen rhoi gwybod am ddigwyddiad.
Rhowch nod tudalen yma a dewch nôl yn rheolaidd am ddiweddariadau.
Ardaloedd
- Neath East
- Neath North
- Neath South
- Port Talbot
Cynulleidfaoedd
- Management
Diddordebau
- Forest Management
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook