Diweddariad Coedwig: Sir Gaerfyrddin

Yn cau 21 Gorff 2025

Wedi agor 21 Ion 2025

Trosolwg

Mae ein hymdrechion i glirio coed sydd wedi disgyn a malurion coed yn mynd rhagddynt o hyd er mwyn asesu cwmpas llawn y difrod a achoswyd gan Storm Darragh.

Y sefyllfa bresennol

Mae’r difrod ar draws yr holl dir rydym yn ei reoli dros dde-orllewin Cymru yn helaeth, gyda’r gwyntoedd cryfion wedi effeithio’n sylweddol ar ardaloedd eang o goedwigaeth.

Diogelwch ein hymwelwyr a'n staff yw ein prif flaenoriaeth o hyd. Tra bo’r asesiadau a’r gweithrediadau adfer yn mynd rhagddynt, gofynnwn i chi osgoi ymweld â’n coedwigoedd a’n gwarchodfeydd yn Sir Gaerfyrddin.

Mae risg uchel o hyd y gallai coed neu ganghennau ddisgyn, ac mae contractwyr yn gweithredu peiriannau trwm mewn llawer o ardaloedd, sy’n golygu bod peryglon pellach yn bosib. Mae hefyd yn bosib y byddwn yn cau ein meysydd parcio a chyfleusterau eraill i ymwelwyr ar fyr rybudd tra byddwn yn gwneud ein gwaith adfer.

Uchafbwyntiau’r ymateb brys

Yn syth wedi’r storm ac yn y cyfnod cyn y Nadolig, fe wnaethon ni flaenoriaethu tasgau rheoli coed hanfodol, gan gynnwys:

  • Clirio ffyrdd coedwig i sicrhau mynediad i drigolion.
  • Cefnogi ffermwyr i gael mynediad at eu tir a’u da byw i sicrhau lles anifeiliaid.
  • Galluogi mynediad i fastiau brys a chyfathrebu a chaniatáu i'r Grid Cenedlaethol adfer pŵer.
  • Sicrhau mynediad i ffermydd gwynt ar dir wedi’i reoli.

Gwaith sy’n mynd rhagddo

Rydyn ni’n gwneud cynnydd o ran clirio ffyrdd coedwig er mwyn adfer mynediad i ardaloedd allweddol. Yn ôl yr asesiadau cynnar, mae difrod sylweddol i safleoedd hamdden, llwybrau a meysydd parcio.

  • Safleoedd hamdden: Mae’r difrod yn cael ei werthuso, ac mae cynlluniau gwaith yn cael eu datblygu i reoli coed sydd wedi disgyn, i amcangyfrif y costau, ac i bennu amserlenni.
  • Rhwydwaith y ffyrdd coedwig: Mae gwaith clirio yn mynd rhagddo, a disgwylir i rai ardaloedd ailagor yn fuan ar gyfer mynediad ffyrdd yn unig.

Bydd llwybrau beicio mynydd a cherdded ar gau o hyd tan fydd yr holl ddifrod wedi'i glirio a’r gwiriadau diogelwch wedi'u cwblhau.

Mae'r gwaith o glirio coed wedi dechrau ar y llwybr bob gallu yng Nghwm Rhaeadr a rhan isaf y llwybr beicio mynydd. Rydym yn gobeithio ailagor rhannau o Gwm Rhaeadr yn yr wythnosau nesaf a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd hyn yn digwydd.

Safleoedd hygyrch:

  • Coedwig Brechfa, mae Maes Parcio Gwarallt ar agor ac mae’r llwybr cerdded yn hygyrch
  • Mae Maes Parcio Keepers ar agor ar gyfer mynediad ar hyd Ffyrdd y Goedwig yn unig. Mae’r llwybrau cerdded yn parhau i fod yn anhygyrch.
  • Mae Meysydd Parcio Coedwig Crychan (Brynffo, fferm Cefn ac Esgair Fwyog) ar agor gan ddarparu mynediad ar hyd ffyrdd coedwig yn unig. Mae’r holl lwybrau cerdded yn parhau i fod yn anhygyrch. 
  • Mae Maes Parcio Halfway ar agor, gan ddarparu mynediad ar hyd ffyrdd coedwig yn unig. Mae’r holl lwybrau cerdded yn parhau i fod yn anhygyrch. 
  • Mae Coedwig Pen-bre a Phen-y-bedd ar agor ac yn hygyrch.

Edrych i’r dyfodol

Byddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Diolch i chi am eich amynedd a'ch cydweithrediad wrth i ni weithio i adfer ein coetiroedd.

Sut gallwch chi helpu

Hyd nes y clywir yn wahanol, osgowch ymweld â’n coedwigoedd heblaw’r safleoedd hygyrch a nodir uchod.

I roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau newydd, cysylltwch â’n llinell cymorth digwyddiadau ar 0300 065 3000 neu llenwch ein ffurflen rhoi gwybod am ddigwyddiad.

Rhowch nod tudalen yma a dewch nôl yn rheolaidd am ddiweddariadau.

Ardaloedd

  • Neath East
  • Neath North
  • Neath South
  • Port Talbot

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Forest Management