Diweddariad Coedwig: Coedwig Afan

Yn cau 21 Gorff 2025

Wedi agor 21 Ion 2025

Trosolwg

Yn dilyn cyfnod heriol o waith cwympo coed sylweddol ac adfer ar ôl stormydd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn paratoi i ailgynnau’r antur yng Nghoedwig Afan, mewn pryd ar gyfer y Pasg. 

Fe fu’n gyfnod heriol i Goedwig Afan. Yn dilyn cyfnod hir o waith cwympo coed i gael gwared ar goed llarwydd marw a heintiedig ac effaith ddinistriol stormydd — yn enwedig Storm Darragh — roedd llawer o ardaloedd yn amhosib mynd atynt, ac amharodd hynny ar dwristiaeth a’r busnesau lleol sy’n dibynnu ar fwrlwm y goedwig. 

Bu contractwyr yn gweithio’n ddiflino i glirio ardaloedd a ddifrodwyd gan stormydd, gan ganiatáu i lwybrau poblogaidd fel Awyrlin a Llafn yng Nglyncorrwg ailagor. Fodd bynnag, mae rhai rhannau ar gau o hyd er diogelwch oherwydd difrifoldeb y coed a chwythwyd i lawr yn y gwynt a'r risgiau y mae'r rhain yn eu cyflwyno.

Llwybrau sydd newydd ei haliddylunio

Diolch i gefnogaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot a chyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae rhannau o’r rhwydwaith o lwybrau wedi’u hailddylunio a’u gwella. Mae’r pecyn cyllid hwn yn dod i £173,000, gyda £160,000 o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a’r gweddill gan CNC.  

Mae’r cronfeydd hanfodol hyn wedi galluogi gwaith ailddylunio ac uwchraddio hanfodol ar lwybrau Blino’n Siwps, Igam Ogam, Cam 4 a Beiciwr Newydd (glas) i wella’r profiad i feicwyr a helpu i ddenu mwy o dwristiaeth i’r ardal.  

Yn ogystal, mae gwaith adfer allweddol ar lwybrau wedi’i wneud yn bosibl gan Gronfa Coedwig Genedlaethol Llywodraeth Cymru, gan gefnogi ymdrechion i adfer mynediad i’r dirwedd werthfawr hon gan gynnwys adfer y rhan o lwybr Goodwood sy’n llwybr pren, a gwella’r llwybrau cerdded o Ganolfan Ymwelwyr Cwm Afan a Maes Parcio Rhyslyn. 

Darllenwch y diweddariad llawn ar adran newyddion ein gwefan.

Llwybrau hamdden

Nodwch y dudalen hon ac edrychwch yn ôl yma yn rheolaidd am ddiweddariadau ar ba lwybrau sydd ar agor, ar gau neu wedi'u dargyfeirio.

Llwybr beicio mynydd Agored / ar gau
Rheilffordd Agored
Rookie Green Agored
Rookie Blue Agored
Blue Scar Agored
Penhydd Agored
Y Wal Agor gyda dargyfeiriad
W2 Upper Link Agor gyda dargffeiriadau
White's Level Agor gyda dargffeiriadau
Skyline Agor gyda dargffeiriadau
Blade  Agor gyda dargffeiriadau
Afan Bike Park Agor gyda dargffeiriadau
Llwybrau Cerdded Agored / ar gau                
Llwybr Penrhys Agored
Llwybr Rhyslyn Agored
Llwybr yr Afon a’r Rheilffordd Agored
Llwybr Pen Cefnen Gyfylchi Agored
Llwybr Ffordd yr Hen Blwyf  Agored

 

Uchafbwyntiau’r ymateb brys

Yn syth wedi’r storm ac yn y cyfnod cyn y Nadolig, fe wnaethon ni flaenoriaethu tasgau rheoli coed hanfodol, gan gynnwys:

  • Clirio ffyrdd coedwig i sicrhau mynediad i drigolion.
  • Cefnogi ffermwyr i gael mynediad at eu tir a’u da byw i sicrhau lles anifeiliaid.
  • Galluogi mynediad i fastiau brys a chyfathrebu a chaniatáu i'r Grid Cenedlaethol adfer pŵer.
  • Sicrhau mynediad i ffermydd gwynt ar dir a reolir gan CNC.

Edrych i’r dyfodol

Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau wrth i'r gwaith fynd rhagddo a a rhagor o lwybrau ailagor.

Diolch i chi am eich amynedd a'ch cydweithrediad wrth i ni weithio i adfer ein coetiroedd.

Cyfarfod i randdeiliaid

Bydd y tîm rheoli tir lleol mewn cysylltiad yn fuan iawn i drefnu cyfarfod i randdeiliaid i roi diweddariad manylach.

Sut gallwch chi helpu

I roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau newydd, cysylltwch â’n llinell cymorth digwyddiadau ar 0300 065 3000 neu llenwch ein ffurflen rhoi gwybod am ddigwyddiad.

Rhowch nod tudalen yma a dewch nôl yn rheolaidd am ddiweddariadau.

Ardaloedd

  • Neath East
  • Neath North
  • Neath South
  • Port Talbot

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Forest Management