Diweddariad Coedwig: Coedwig Afan

Yn cau 21 Gorff 2025

Wedi agor 21 Ion 2025

Trosolwg

Mae ein hymdrechion i glirio coed sydd wedi disgyn a malurion coed yn mynd rhagddynt o hyd er mwyn asesu cwmpas llawn y difrod a achoswyd gan Storm Darragh.

Y sefyllfa bresennol

Mae’r difrod ar draws yr holl dir rydym yn ei reoli dros dde-orllewin Cymru yn helaeth, gyda’r gwyntoedd cryfion wedi effeithio’n sylweddol ar ardaloedd eang o goedwigaeth.

Diogelwch ein hymwelwyr a'n staff yw ein prif flaenoriaeth o hyd. Tra bo’r asesiadau a’r gweithrediadau adfer yn mynd rhagddynt, gofynnwn i chi osgoi ymweld â Choedwig Afan.

Mae risg uchel o hyd y gallai coed neu ganghennau ddisgyn, ac mae contractwyr yn gweithredu peiriannau trwm mewn llawer o ardaloedd, sy’n golygu bod peryglon pellach yn bosib. Mae hefyd yn bosib y byddwn yn cau ein meysydd parcio a chyfleusterau eraill i ymwelwyr ar fyr rybudd tra byddwn yn gwneud ein gwaith adfer.

Uchafbwyntiau’r ymateb brys

Yn syth wedi’r storm ac yn y cyfnod cyn y Nadolig, fe wnaethon ni flaenoriaethu tasgau rheoli coed hanfodol, gan gynnwys:

  • Clirio ffyrdd coedwig i sicrhau mynediad i drigolion.
  • Cefnogi ffermwyr i gael mynediad at eu tir a’u da byw i sicrhau lles anifeiliaid.
  • Galluogi mynediad i fastiau brys a chyfathrebu a chaniatáu i'r Grid Cenedlaethol adfer pŵer.
  • Sicrhau mynediad i ffermydd gwynt ar dir a reolir gan CNC.

Gwaith sy’n mynd rhagddo

Rydyn ni’n gwneud cynnydd o ran clirio ffyrdd coedwig er mwyn adfer mynediad i ardaloedd allweddol. Yn ôl yr asesiadau cynnar, mae difrod sylweddol i safleoedd hamdden, llwybrau a meysydd parcio.

  • Safleoedd hamdden: Mae’r difrod yn cael ei werthuso, ac mae cynlluniau gwaith yn cael eu datblygu i reoli coed sydd wedi disgyn, i amcangyfrif y costau, ac i bennu amserlenni.
  • Rhwydwaith y ffyrdd coedwig: Mae gwaith clirio yn mynd rhagddo, a disgwylir i rai ardaloedd ailagor yn fuan ar gyfer mynediad ar hyd rhwydwaith y ffyrdd coedwig.

Bydd llwybrau beicio mynydd a cherdded ar gau o hyd tan fydd yr holl ddifrod wedi'i glirio a’r gwiriadau diogelwch wedi'u cwblhau.

Llwybrau hamdden

Llwybrau beicio mynydd - ar agor:

  • Mae’r Llwybr Rookie Gwyrdd a Llwybr Rheilffordd ar agor.
  • Mae llwybr Y Graith Las wedi ailagor heb unrhyw ddargyfeiriadau.
  • Mae Pen-hydd wedi ailagor gyda dargyfeiriad (‘fel y bedd’ a ‘lan a lawr’ yn parhau i fod ar gau).

Rydym yn gobeithio ailagor mwy o lwybrau yn yr wythnosau nesaf, gan gynnwys:

  • Y Wal – gyda dargyfeiriadau o amgylch rhannau sydd wedi’u heffeithio’n ddifrifol (bydd adran y Fynwent yn parhau i fod ar gau oherwydd coed sydd wedi’u chwythu drosodd).

Llwybrau beicio mynydd - ar gau:

  • Awyrlin
  • Llafn
  • Lefel White

Ar gau oherwydd gwaith cynnal a chadw parhaus ar y llwybr ar yr adran ‘Jetlag’ ac oherwydd pryderon diogelwch iechyd i weithwyr ar y safle a'r risg y gallai creigiau ddisgyn o'r gwaith ar y llwybr islaw.

Cyn gynted ag y bydd y gwaith ar y safle wedi'i gwblhau, bydd y llwybrau hyn yn cael eu hailagor gyda dargyfeiriadau sylweddol o amgylch rhannau sydd wedi'u heffeithio'n ddifrifol.

Llwybrau cerdded

  • Mae Llwybr Hen Heol y Plwyf (Glas) ar agor ac yn gwbl hygyrch.
  • Mae’r Llwybr Afon a Rheilffordd (Oren) ar agor ac yn gwbl hygyrch.

Diweddariad ar safle Rhyslyn

Mae'r gwaith cwympo coed yn Rhyslyn bron â'i gwblhau, gyda gwaith cludo i ddechrau yn ystod yr wythnos nesaf. Bydd gwaith adfer arfaethedig i’r adran Igam Ogam, Llwybr Rookie Glas a Llwybr Glan yr Afon yn dilyn, gan baratoi ar gyfer ailagor y safle'n llawn yn y gwanwyn.

Edrych i’r dyfodol

Byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd wrth i'r gwaith fynd rhagddo a byddwn yn rhannu amserlenni ar gyfer ailagor cyn gynted â phosibl. Diolch i chi am eich amynedd a'ch cydweithrediad wrth i ni weithio i adfer ein coetiroedd.

Cyfarfod i randdeiliaid

Bydd y tîm rheoli tir lleol mewn cysylltiad yn fuan iawn i drefnu cyfarfod i randdeiliaid i roi diweddariad manylach.

Sut gallwch chi helpu

I roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau newydd, cysylltwch â’n llinell cymorth digwyddiadau ar 0300 065 3000 neu llenwch ein ffurflen rhoi gwybod am ddigwyddiad.

Rhowch nod tudalen yma a dewch nôl yn rheolaidd am ddiweddariadau.

Ardaloedd

  • Neath East
  • Neath North
  • Neath South
  • Port Talbot

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Forest Management