Adroddiad arogl o safle tirlenwi Withyhedge, Sir Benfro

Yn cau 31 Mai 2024

Wedi'i agor 17 Ion 2024

Trosolwg

Ffurflen Adrodd am Arogl

Er mwyn gwneud adrodd am arogleuon o safle tirlenwi Withyhedge mor hawdd â phosibl, rydym wedi sefydlu'r ffurflen adrodd bwrpasol hon. Bydd pob adroddiad yn cael ei drin yn y modd arferol gan ein Canolfan Cyfathrebu Digwyddiadau. Os ydych wedi darparu manylion cyswllt, byddwch yn cael rhif cyfeirnod unigryw a gallwch ddewis derbyn diweddariadau e-bost ar yr ymchwiliad.

Materion arogl yn unig

Mae'r ffurflen hon ar gyfer adrodd materion arogleuon safle titlenwi Withyhedge yn unig. Dylid rhoi gwybod i CNC am unrhyw bryderon llygredd eraill sy'n ymwneud â safle tirlenwi Withyhedge y ffordd arferol (ffoniwch 0300 065 3000 neu adrodd ar-lein).

Data personol

Bydd unrhyw ddata personol a gyflwynir drwy'r ffurflen hon yn cael ei gadw'n ddiogel. Mae gennych yr opsiwn i aros yn ddienw, fodd bynnag, i dderbyn diweddariadau rheolaidd ynglŷn â safleoedd tirlenwi Withyhedge, rydym yn argymell eich bod yn darparu cyfeiriad e-bost.

Cyfarfod Cyhoeddus Rhithwir

Gwnaethom gynnal cyfarfod cyhoeddus rhithwir ar 31 Ionawr 2024 i egluro i aelodau'r gymuned sy’n cael eu heffeithio gan yr aroglau a’r llygredd yn union pa gamau yr ydym wedi'u cymryd hyd yn hyn, a'r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud nesaf.

Trosolwg Ymchwiliad Safle Tirlenwi Withyhedge

Hoffai Cyfoeth Naturiol Cymru ddiolch i'r rhai sy'n parhau i adrodd am ddigwyddiadau arogleuon o safle tirlenwi Withyhedge, Sir Benfro.

Hoffem eich sicrhau ein bod yn cymryd pob adroddiad o ddifrif ac yn canolbwyntio ein holl ymdrechion ar fynd i'r afael â'r materion a godwyd. Oherwydd y nifer digynsail o adroddiadau rydym yn eu derbyn, ni allwn ddarparu adborth unigol ar hyn o bryd.

Cell heb ei gapio, sy'n cynnwys gwastraff wedi'i dopio'n flaenorol, yw'r ffynhonnell fwyaf tebygol o allyriadau ac arogl nwy tirlenwi. Mae ffyrdd o gyflymu'r gwaith o osod cap a rheoli nwy yn cael eu harchwilio.

Mae'n hanfodol bod CNC yn cynnal y gwiriadau angenrheidiol i sicrhau nad yw penderfyniadau a wneir i ddatrys materion yn fwy prydlon nawr, yn creu risgiau eraill yn y dyfodol. Rydym yn aros am wybodaeth ychwanegol gan y gweithredwr i'n galluogi i wneud yr asesiadau hyn.

Diweddariadau ymchwiliad

Diweddariad Safle Tirlenwi Withyhedge 5 Ebrill 2024

Ar 13 Chwefror 2024 cyflwynodd CNC Hysbysiad Gorfodi Rheoliad 36 i RML, gweithredwr safle tirlenwi Withyhedge yn ei gwneud yn ofynnol iddo gwblhau nifer o gamau gweithredu mewn ymateb i achosion o ddiffyg cydymffurfio â thrwyddedau a nodwyd a oedd yn gysylltiedig ag allyriadau nwyon tirlenwi ac arogleuon oddi ar y safle.

Rydym wedi ymweld â safle tirlenwi Withyhedge ar sawl achlysur dros yr wythnosau diwethaf i wirio cynnydd mewn perthynas â’r camau a nodwyd yn yr Hysbysiad, ac i sicrhau nad yw’r gwaith wedi creu unrhyw broblemau eraill.

Erbyn diwedd y dydd ar 5 Ebrill 2024, mae'n ofynnol i'r gweithredwr fod wedi cwblhau gwaith paratoi, capio, a gosod seilwaith nwy ar fàs gwastraff heb ei gapio o'r blaen. Pwrpas y gwaith a nodir yn yr Hysbysiad yw cynnwys a chasglu nwy tirlenwi sy'n cael ei gynhyrchu yn yr ardal hon.

Ddydd Llun 8 Ebrill 2024 bydd CNC yn mynychu Safle Tirlenwi Withyhedge i asesu cydymffurfiaeth â’r camau sy’n ofynnol gan yr Hysbysiad, ac i archwilio pob rhan arall o'r safle. Byddwn yn ystyried y canfyddiadau yn fewnol, ac yn trafod gyda Chyngor Sir Penfro ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ein cyfarfod amlasiantaethol ar 10 Ebrill. Byddwn yn cyhoeddi diweddariad ar y camau nesaf yn ei dro.

Wrth i waith ar y safle fynd rhagddo, roeddem wedi rhagweld y byddai allyriadau yn lleihau ac felly byddai adroddiadau ar arogleuon hefyd yn lleihau.

Fodd bynnag, dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi derbyn nifer fawr o adroddiadau ac mae swyddogion CNC wedi cadarnhau arogleuon oddi ar y safle o’r safle tirlenwi yn achlysurol.

Yn dilyn nifer fawr o alwadau ddydd Mawrth 2 Ebrill, aeth swyddogion CNC i Withyhedge i gynnal asesiad arogleuon ar y safle ac yn y cymunedau cyfagos. Er bod nwy tirlenwi wedi’i ganfod mewn un lleoliad, arogleuon amaethyddol a ganfuwyd yn bennaf ar yr adeg honno. Fodd bynnag, o ystyried pryderon parhaus gan y gymuned, a’r posibilrwydd nad oedd ein hasesiad yn cyd-fynd â’r cyfnod lle’r oedd arogleuon ar eu cryfaf, byddwn yn cynnal asesiadau arogleuon pellach dros y dyddiau nesaf.

Bydd ein presenoldeb rheoleiddio yn parhau ar y safle i gyd-fynd â'n blaenoriaeth i sicrhau bod y safle'n cael ei weithredu a'i reoli yn unol â'r drwydded, yn enwedig mewn perthynas â rheoli allyriadau. Bydd unrhyw gamau gorfodi yn cael eu cymryd yn unol â'n Polisi Gorfodi a Sancsiynau.

Diweddariad Safle Tirlenwi Withyhedge 12 Mawrth 2024

Rydym wedi cael nifer fawr iawn o gwynion am arogleuon ers prynhawn ddoe.

Rydym yn gwneud ymholiadau i gadarnhau a oes esboniad am yr adroddiadau o arogl cryfach na'r arfer, ac un sydd wedi ymledu’n ehangach yn ystod y 36 awr ddiwethaf.

Roeddem wedi cofnodi gostyngiad cyson yn nifer yr adroddiadau am arogleuon yn ystod yr wythnosau diwethaf tan nawr.

Hysbysiad Gorfodi

Ar 13 Chwefror 2024 gwnaethom gyflwyno Hysbysiad Gorfodi i'r gweithredwr tirlenwi. Rydym yn dal o’r farn fod y gwaith sy'n ofynnol o dan yr Hysbysiad hwn yn cynrychioli'r ffordd fwyaf effeithiol o gael gwared ar ffynhonnell yr arogl.  

Roedd yr Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i RML gwblhau nifer o gamau gweithredu yn ymwneud â màs o wastraff heb ei gapio, a oedd wedi'i nodi fel y ffynhonnell fwyaf tebygol o allyriadau nwyon tirlenwi ac arogleuon. Mae'r Hysbysiad yn cynnwys nifer o gamau gweithredu, y mae angen i rai ohonynt ddigwydd mewn trefn benodol, a adlewyrchir gan derfynau amser cwblhau gwahanol.   

Cam gweithredu cyntaf wedi'i gwblhau

Cwblhawyd y cam gweithredu cyntaf, a oedd yn ymwneud â gwaith paratoi cyn capio, yr wythnos diwethaf, cyn y dyddiad cau, sef 15 Mawrth 2024. Mae hyn hefyd wedi galluogi'r gwaith capio i fynd rhagddo yn gynt na'r disgwyl. Yn ogystal, mae'r holl ffynhonnau nwy yn eu lle ac yn barod i'w cysylltu â'r seilwaith casglu nwy tirlenwi unwaith y bydd y gwaith capio wedi'i gwblhau.

Arolwg nwy

Datgelodd arolwg nwy a gynhaliwyd gan CNC yn ystod arolygiad cydymffurfio yr wythnos diwethaf ar 7 Mawrth 2024 lefelau llawer is o fethan o gymharu ag arolwg tebyg ar 19 Rhagfyr 2023 ar draws llawer o’r ardal sy’n destun yr Hysbysiad. Fodd bynnag, mae ardaloedd o wastraff sydd heb eu capio eto ac mae gan y rhain y potensial i ryddhau nwy.

Gwaith peirianyddol

Mae CNC yn gobeithio y bydd yr holl waith peirianneg ar yr ardal nad oedd wedi’i chapio o’r blaen wedi’i gwblhau cyn y dyddiad cau, sef 5 Ebrill 2024. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gofid, dicter a rhwystredigaeth a achoswyd gan effaith arogleuon ar gymunedau lleol yn ystod y dyddiau diwethaf. Rydym yn cynnal trafodaethau dyddiol gyda’r gweithredwr tirlenwi ynghylch natur frys y sefyllfa a byddwn yn mynychu’r safle eto yr wythnos hon.

Ansawdd aer

Ddydd Gwener 8 Mawrth 2024, ymunodd CNC â chyfarfod Cell Ansawdd Aer aml-asiantaeth ynghylch monitro oddi ar y safle. Disgwylir canlyniadau o'r set gyntaf o diwbiau tryledu a osodwyd yn y cymunedau o amgylch y safle tirlenwi yn gynnar yr wythnos nesaf. Bydd pob awdurdod gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru yn derbyn y data.

Ffurflen adrodd bwrpasol

Parhewch i roi gwybod am arogleuon trwy ein ffurflen adrodd bwrpasol neu ffoniwch 0300 065 3000.

CAPSIWN LLUN: Swyddog rheoleiddio CNC yn arolygu uniondeb yr ardal gap a'r system rheoli nwy

Diweddariad Safle Tirlenwi Withyhedge 16 Chwefror 2024

Yn gyntaf, hoffem ymddiheuro am yr amser a gymerodd i ddarparu'r diweddariad hwn ar Safle Tirlenwi Withyhedge a'n camau rheoleiddio. Mae'r sefyllfa wedi bod yn un ddeinamig, ac rydym wedi bod eisiau sicrhau bod ein diweddariadau yn cyd-fynd â digwyddiadau allweddol sy'n gysylltiedig â datrys problemau’r arogleuon sy'n gysylltiedig â'r safle tirlenwi.

Rai wythnosau yn ôl, cyflwynodd gweithredwr safle Tirlenwi Withyhedge (Resources Management Ltd, “RML”) gynnig i CNC ar gyfer gosod y peirianwaith angenrheidiol ar y safle i atal, rheoli a chasglu nwy tirlenwi ar ardal o wastraff heb ei chapio. Datblygwyd y cynnig i leihau arogleuon cyn gynted ag oedd yn bosibl, mewn ymateb i geisiadau i flaenoriaethu hyn gan sefydliadau eraill a chynrychiolwyr cyhoeddus. Fodd bynnag, byddai hyn wedi golygu na fyddai'r safle'n cydymffurfio â'i drwydded. 

Buom wrthi’n adolygu’r cynnig yn drylwyr, gyda’r un awydd i leihau allyriadau ac arogleuon ffo yn y cymunedau cyfagos cyn gynted ag oedd yn bosibl. Roedd y cynnig yn cynnwys llawer o elfennau anhysbys a phroblemau posibl ar gyfer y dyfodol, ac ar ôl pwyso a mesur, roeddem o'r farn bod y risgiau tymor canolig a hwy yn bwysicach na’r manteision tymor byr o leihau aroglau yn gyflymach.

Rydym yn cydnabod y bydd hon yn neges anodd i'r rhai y mae’r arogl yn cael effaith andwyol arnynt. Rydym hefyd yn deall y gallai trydydd partïon fod wedi gwneud ymrwymiadau i’r gymuned, gan roi dyddiadau diwedd mis Chwefror/dechrau mis Mawrth. Roedd y rhain yn seiliedig ar gynnig RML a amlinellwyd yn benodol gan CNC, a oedd yn dal i gael ei adolygu ar y pryd.

Rydym wedi bod yn ofalus rhag darparu amserlenni o ran gweld gostyngiad yn yr arogleuon sy’n dod o’r safle oherwydd y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â’r penderfyniadau y bu’n rhaid inni eu gwneud.

Yr wythnos hon rydym wedi cyflwyno Hysbysiad Gorfodi i RML yn amlinellu'n glir y camau sy’n ofynnol iddynt eu cyflawni i sicrhau eu bod yn cydymffurfio unwaith eto ac yn cwblhau'r gwaith peirianneg ar y safle tirlenwi i atal a chasglu nwy tirlenwi. Yn seiliedig ar ein dealltwriaeth bresennol o brif ffynhonnell yr arogleuon, dylai’r mater gael ei ddatrys erbyn terfyn amser yr hysbysiad, sef 5 Ebrill 2024.

Fodd bynnag, mae gwaith ar y safle yn mynd rhagddo bob dydd, ac rydym yn rhagweld gostyngiadau amlwg mewn allyriadau nwyon tirlenwi ac arogleuon dros yr wythnosau nesaf. Nid yw’r gwaith a wnaed gan RML o dan eu cynnig wedi oedi na chymhlethu’r gofynion a osodwyd arnynt gan CNC.

Mae'r hysbysiad a gyflwynir yr wythnos hon yn gysylltiedig ag ymchwiliadau parhaus i achosion o ddiffyg cydymffurfio â thrwyddedau ac felly ni allwn sicrhau bod hwn ar gael i'r cyhoedd ar hyn o bryd.

Fel rhan o'r gwaith sy'n ofynnol gan yr hysbysiad, mae gwastraff o ben yr ardal sydd i'w chapio yn cael ei adleoli i Gell 8, sef rhan weithredol bresennol y safle tirlenwi. Rydym yn ymwybodol bod y gweithgaredd hwn i’w weld yn amlwg iawn o'r cymunedau cyfagos ac rydym wedi derbyn adroddiadau o 'fwg gwyn' wrth i’r gwaith hwn aflonyddu ar y gwastraff. Ymwelodd swyddogion CNC â’r safle yr wythnos diwethaf ac arolygwyd y rhan hon o'r safle tirlenwi. Credwn mai anwedd dŵr yw’r allyriadau sydd i’w gweld, a achosir wrth i’r gwastraff sylfaenol ddechrau dadfeilio a chynhyrchu gwres fel rhan o’r broses.

Roedd ein harolygiad yr wythnos diwethaf hefyd yn canolbwyntio ar Gell 8, yn dilyn adroddiadau diweddar mai arogl gwastraff oedd hwn, yn hytrach nag arogl nwy tirlenwi. Ni chanfuwyd arogleuon gwastraff a oedd yn deillio’n benodol o Gell 8. I gyfeiriad y gwynt o'r ardal i'w chapio nodwyd arogl gwastraff gwan ar y safle tirlenwi, ac mewn un lleoliad oddi ar y safle. Canfuwyd arogl cryf nwy tirlenwi oddi ar y safle hefyd. Byddwn yn parhau i fonitro'r ddau fath o arogl yn y cymunedau cyfagos.

Rydym yn deall y gallai pobl deimlo fod y camau gweithredu yn gyfyngedig mewn ymateb i achosion o arogleuon a adroddwyd i ni. Mae pob adroddiad, pa un ai yw'n cael ei wneud dros y ffôn, ar y ffurflen adrodd ar-lein generig, neu'r ffurflen adrodd benodol ar gyfer Safle Tirlenwi Withyhedge, yn cael eu cofnodi ar ein System Gofnodi Digwyddiadau Cymru (WIRS). Mae gan bob adroddiad gyfeirnod unigryw a chaiff ei anfon ymlaen at y tîm rheoleiddio.

Ar adeg pan ydym yn disgwyl gweld gwaith ar y safle tirlenwi yn dechrau arwain at leihad mewn allyriadau nwyon tirlenwi ffo ac arogleuon, bydd yr adroddiadau hyn yn arbennig o bwysig.  Byddant yn ein helpu i asesu effeithiolrwydd y gweithgaredd ar y safle, a hefyd i asesu a oes ffynonellau arogleuon eraill. Felly, gofynnwn i chi barhau i roi gwybod inni am achosion o arogleuon o'r safle tirlenwi trwy ddefnyddio'r ffurflen bwrpasol ar y dudalen hon.

Diweddariad Ymchwiliad Safle Tirlenwi Withyhedge 16 Ionawr 2024

Hoffai Cyfoeth Naturiol Cymru ddiolch i'r rhai sy'n parhau i adrodd am ddigwyddiadau arogleuon o safle tirlenwi Withyhedge, Sir Benfro.

Hoffem eich sicrhau ein bod yn cymryd pob adroddiad o ddifrif ac yn canolbwyntio ein holl ymdrechion ar fynd i'r afael â'r materion a godwyd. Oherwydd y nifer o adroddiadau rydym yn eu derbyn, ni allwn ddarparu adborth unigol ar hyn o bryd.

Rydym yn derbyn rhai adroddiadau o'r tu hwnt i'r cymunedau cyfagos, ac rydym yn ceisio eu gwirio i gadarnhau maint yr effaith.

Yn ogystal, mae llawer o alwadau bellach yn manylu ar bryderon iechyd. Er ein bod yn cymryd adroddiadau o'r fath o ddifrif, nid Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r awdurdod cymwys i asesu'r effaith ar iechyd pobl.

Os ydych chi'n poeni am effeithiau ar eich iechyd, dylech chi:

  • Ofyn am gyngor gan weithiwr meddygol proffesiynol e.e. meddyg teulu; neu
  • Gysylltu â Galw Iechyd Cymru ar 111 neu ar https://111.wales.nhs.uk/

Yn unol â'n gweithdrefnau digwyddiadau, rydym wedi hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru o'r adroddiadau hyn.

Rydym yn parhau i dybio mai’r ffynhonnell fwyaf tebygol o allyriadau ac arogl nwy tirlenwi yw’r gell sydd heb ei chapio sy'n cynnwys gwastraff a dipiwyd yn flaenorol.

Mae ffyrdd o gyflymu'r gwaith gosod cap a rheoli nwy yn cael eu harchwilio. Mae'n hanfodol bod CNC yn cynnal y gwiriadau angenrheidiol i sicrhau nad yw penderfyniadau a wneir i ddatrys materion yn fwy prydlon nawr, yn creu risgiau eraill yn y dyfodol. Rydym yn aros am wybodaeth ychwanegol gan y gweithredwr i'n galluogi i wneud yr asesiadau hyn.

Byddwn yn cysylltu ag arweinwyr cymunedol yr wythnos hon i gadarnhau dyddiad ar gyfer cyfarfod rhithiol. Bydd y cyfarfod yn rhoi cyfle i CNC roi'r wybodaeth ddiweddaraf fanylach am y gwaith sy'n cael ei wneud i ymchwilio a datrys y materion arogl a llygredd. Bydd hyn yn cynnwys sesiwn cwestiwn ac ateb.

Cadwch lygad ar ein gwefan am ddiweddariadau ac adrodd am arogl drwy ddefnyddio y ffurflen ar-lein hon Adroddiad arogl o safle tirlenwi Withyhedge, neu'n rhif 24 awr - 0300 065 3000. Sicrhewch fod yr adroddiad yn cynnwys disgrifiad o'r arogl, yr amser y sylwir arno a'r hyd y mae'n cael ei brofi.

Diweddariad Ymchwiliad Safle Tirlenwi Withyhedge 5 Ionawr 2024

Rydym yn dal i dderbyn nifer o adroddiadau am arogleuon yn ymwneud â Safle Tirlenwi Llwynhelyg, Sir Benfro, ac rydym yn deall y rhwystredigaeth a’r anfodlonrwydd y mae hyn yn ei achosi o fewn cymunedau lleol.

Cyn y Nadolig, fe wnaethom ni gyflwyno Hysbysiad Gorfodi i weithredwr y safle tirlenwi, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt orchuddio’r holl wastraff agored cyn gwyliau’r Nadolig i leihau arogleuon. Yn anffodus, er i’r safle gwblhau’r cam gweithredu hwn, ychydig iawn o effaith a gafodd hyn ar leihau arogleuon oddi ar y safle.

Ail agorodd y safle tirlenwi ar 2 Ionawr ac mae'n bosib bod trigolion wedi gweld cerbydau'n cyrraedd ers y dyddiad hwn. Ni fydd unrhyw wastraff pellach yn cael ei waredu yn y gell lle'r oedd tipio yn digwydd cyn y Nadolig. Mae adroddiad dilysu adeiladu wedi cael ei gytuno ar gyfer cell newydd, a bydd gwastraff bellach yn cael ei waredu yn y lleoliad hwn.

Yn ystod ein harchwiliad safle ar 19 Rhagfyr 2023, cynhaliwyd arolwg nwy tirlenwi cychwynnol yn y gell a ddefnyddiwyd i waredu gwastraff yn 2023. Mae’r canlyniadau’n dangos bod lefelau amrywiol o nwy yn cael ei ryddhau o’r gwastraff wrth iddo ddechrau dadelfennu. Rydym o’r farn mai dyma ffynhonnell fwyaf tebygol yr arogleuon oddi ar y safle.

Mae angen capio’r gell a gosod seilwaith casglu ac echdynnu nwy tirlenwi er mwyn rheoli’r nwy hwn. Mae hyn yn broses safonol ym maes tirlenwi, a dyma’r ffordd orau o ddatrys y problemau arogl parhaus.

Mae'r gweithredwr wedi cyflwyno cynllun i CNC yn amlinellu'r camau i gapio'r hen gell. Rydym yn adolygu'r ddogfen hon ar hyn o bryd. Mae'r cynllun yn nodi amserlen o 2 - 3 mis i gwblhau'r seilwaith capio a chasglu nwy tirlenwi; byddwn yn ceisio cyflymu’r broses lle bynnag y bo modd. Ni fydd y cynllun yn lleihau arogleuon a allai ymestyn y tu hwnt i’r safle ar unwaith neu yn y tymor byr. Bydd y broses hefyd yn golygu ailbroffilio'r gell cyn capio a gallai hyn gynhyrchu arogl ychwanegol.

Rydym wedi cynyddu ein presenoldeb rheoleiddio ar y safle a bydd ein goruchwyliaeth lefel uwch yn parhau hyd y gellir rhagweld. Rydym yn ymchwilio i nifer o achosion posibl o beidio â chydymffurfio â thrwyddedau a, lle bo hynny'n briodol, byddwn yn cymryd camau gorfodi pellach.

Rydym yn cydnabod yn llawn lefel yr anfodlonrwydd yn y cymunedau o amgylch safleoedd tirlenwi Llwynhelyg. Rydym hefyd yn cydnabod bod ein hadborth i’r rhai sydd wedi adrodd digwyddiadau wedi bod yn gyfyngedig o ganlyniad i nifer y galwadau a dderbyniwyd, a’n bod yn blaenoriaethu gwaith rheoleiddio ar y safle.

Gobeithiwn fod y diweddariad yn ddefnyddiol, ond rydym yn gwerthfawrogi y gallai fod llawer o gwestiynau am y safle a’n gwaith rheoleiddio. Felly, rydym yn bwriadu cynnal cyfarfod rhithwir ar-lein yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf i fynd i'r afael â'r ymholiadau hyn. Bydd rhagor o wybodaeth am hyn yn dilyn.

Rydym yn ddiolchgar i'r rhai sy'n codi'r mater hwn i ni ac yn annog unrhyw un sydd wedi'i effeithio gan arogl, neu sydd â phryderon am lygredd o safle tirlenwi Llwynhelyg, i gysylltu â CNC drwy ffonio ein rhif 24 awr - 0300 065 3000, neu adrodd ar-lein yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad (naturalresources.wales). Sicrhewch fod yr adroddiad yn cynnwys disgrifiad o’r arogl, amser o’r dydd y sylwyd ar yr arogl, ac am ba hyd.

Diweddariad Ymchwiliad Safle Tirlenwi Withyhedge 22.12.23

Rydym yn cydnabod ac yn deall y pryder mawr sydd ymhlith y gymuned leol o amgylch safle tirlenwi Withyhedge.

Nid ydym yn tanbrisio'r effaith y mae'r adroddiadau parhaus o arogleuon o'r safle yn ei chael ar drigolion ac ymwelwyr yr ardal ac rydym yn cymryd y mater hwn o ddifrif.

Rydym hefyd yn ymwybodol o'r gorlif ymddangosiadol o bwll cyfyngu a’r llygredd posibl a achosir i Nant Rudbaxton. Mae'r mater hwn yn destun ymchwiliad

Mae ein swyddogion yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y gweithredwyr tirlenwi yn gweithredu ar unwaith cyn gwyliau'r Nadolig er mwyn cyfyngu ar yr effeithiau o'r safle dros gyfnod yr ŵyl.

Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r gymuned wrth i'n gweithgareddau rheoleiddio fynd rhagddynt.

Ymateb i adroddiadau

Rydym wedi derbyn niferoedd cynyddol o adroddiadau o arogl o safle tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro gan y cymunedau cyfagos ers mis Hydref:

Mae arogl a briodolir i safle tirlenwi Withyhedge wedi ei gadarnhau gan staff CNC ar bedwar achlysur. Rydym hefyd wedi canfod arogleuon eraill yn yr ardal sy’n dod o ffynonellau amaethyddol ac yn cydnabod bod ffynonellau aroglau eraill yn bresennol. Byddwn yn parhau â'n hasesiadau arogleuon, ac fe’n cefnogir gan Gyngor Sir Penfro yn y gweithgaredd hwn.

Ymweliadau Safle

Fel rhan o’n gwaith i reoleiddio'r safle a sicrhau cydymffurfiaeth â'i drwydded, mae’n swyddogion rheoleiddio yn cynnal adolygiadau o ddata, adroddiadau a gwybodaeth arall a ddarperir gan y gweithredwr. Rydym hefyd yn cynnal ymweliadau safle i weld yn uniongyrchol sut mae'r safle'n cael ei weithredu.

Mae’n swyddogion rheoleiddio wedi mynychu'r safle tirlenwi ar dri achlysur ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2023, er mwyn archwilio agweddau ar weithrediad a rheolaeth y safle a allai fod yn cyfrannu at arogleuon oddi ar y safle. Yn ystod yr ymweliadau, nodwyd fod allyriadau anawdurdodedig. Credwn mai dŵr wyneb heb ei drin oedd hyn ond rydym wedi'i samplu ac rydym yn aros am y canlyniadau. Rhoddwyd cyngor a chyfarwyddyd i weithredwr y safle yn dilyn ein hymweliadau. Rydym wedi pwysleisio bod angen cwblhau rhai camau y cytunwyd arnynt gyda'r gweithredwr trwy gyflwyno hysbysiad gorfodi. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac yn cynyddu ein hymateb os bydd angen.

Mae swyddogion CNC hefyd yn ymchwilio i lygredd posib o'r safle sy'n gysylltiedig â digwyddiad penodol a gafodd ei ffilmio a'i bostio ar-lein. Yn anffodus, roedd oedi cyn adrodd hyn i CNC. Arolygwyd ardal y safle dan sylw ar 19 Rhagfyr 2023 ac mae ein ymholiadau'n parhau

Trwydded Amgylcheddol

Mae safle tirlenwi Withyhedge yn gweithredu o dan Drwydded Amgylcheddol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwyr gydymffurfio â set o reolau ac amodau.  Er mwyn cydymffurfio â'u trwydded, mae’n rhaid i weithredwyr allu esbonio ac egluro pa fesurau y maent yn eu defnyddio i amddiffyn pobl a'r amgylchedd. Os aiff rhywbeth o'i le, mae angen i ni wybod beth mae'r gweithredwr yn mynd i'w wneud am y peth.

Mae trwydded safle tirlenwi Withyhedge yn nodi pa fathau o wastraff y gellir eu gwaredu yno, a faint y gellir ei dderbyn, ond nid yw'n cynnwys cyfyngiadau ar darddiad y Gwastraff. Nid yw maint y gwastraff y caniateir i'r safle ei dderbyn wedi newid ers 2011.

Rhowch wybod amdano

Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi adrodd am faterion sy'n ymwneud â'r safle i ni hyd yma, ac yn hyderus ein bod yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Rydym yn annog unrhyw un sydd wedi'i effeithio gan arogl, neu sydd â phryderon am lygredd o safle tirlenwi Withyhedge, i gysylltu â CNC ac adrodd drwy ein rhif 24 awr - 0300 065 3000, neu adrodd ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhowch wybod am ddigwyddiad a sicrhau eich bod yn darparu disgrifiad o'r math o arogl rydych yn ei brofi.

Datganiad CNC ar arogleuon o Safle Tirlenwi Withyhedge, Sir Benfro 14.12.23

Rydym yn ymwybodol o’r pryderon yn y gymuned leol ynglŷn â gweithgareddau yn Safle Tirlenwi Withyhedge ac effaith yr arogl a adroddir ar drigolion. Rydym yn cymryd y mater hwn o ddifrif.

Rydym wedi derbyn nifer o adroddiadau am arogl o Safle Tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro gan gymunedau cyfagos. Mae'r gweithgaredd tirlenwi yn cael ei reoleiddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o dan Drwydded Amgylcheddol.

Mae staff CNC wedi cadarnhau’r arogl o Safle Tirlenwi Withyhedge ac rydym yn parhau i ymweld â nifer o leoliadau i ymchwilio ymhellach i’r arogl. Rydym wedi canfod arogleuon eraill yn yr ardal ac yn deall bod ffynonellau arogl eraill yn bresennol. 

Bu ein swyddogion rheoleiddio’n ymweld â’r safle tirlenwi ar 2 Tachwedd 2023 a 7 Rhagfyr 2023 i archwilio agweddau ar weithrediad a rheolaeth y safle a allai fod yn cyfrannu at arogl oddi ar y safle.

Darparwyd cyngor a chyfarwyddyd i weithredwr y safle ac rydym mewn trafodaethau parhaus ynghylch lliniaru a rheoli arogl.

Bwriedir cynnal ymweliad pellach â Safle Withyhedge yr wythnos nesaf.

Yn ogystal ag ymweliadau safle, mae ein gwaith i sicrhau cydymffurfiaeth mewn safleoedd a ganiateir yn cael ei wneud mewn ffyrdd amrywiol y tu ôl i'r llenni, gan gynnwys adolygu data, adroddiadau a gwybodaeth arall o bell.

Byddem yn annog unrhyw un sy'n cael eu heffeithio gan aroglau o Safle Tirlenwi Withyhedge i gysylltu â ni drwy ffonio ein llinell gymorth 24 awr - 0300 065 3000, gan sicrhau eich bod yn disgrifio’r math o arogl yr ydych yn ei arogli.

Ardaloedd

  • Haverfordwest: Castle
  • Haverfordwest: Garth
  • Haverfordwest: Portfield
  • Haverfordwest: Prendergast
  • Haverfordwest: Priory

Cynulleidfaoedd

  • Citizens

Diddordebau

  • Permits