Adferiad yn sgil Storm Darragh: rhaglen gynaeafu ac ailblannu
Trosolwg
Ar 7 Rhagfyr 2024, achosodd gwyntoedd Storm Darragh ddifrod sylweddol i goed ar draws y De-orllewin, gan ddifrodi dros 650 hectar o goedwig.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bellach yn arwain rhaglen adferiad fesul cam i gynaeafu ac ailblannu ardaloedd yr effeithiwyd arnynt dros y tair i bum mlynedd nesaf.

Diweddariadau allweddol
- Mae 200 hectar o goed a ddifrodwyd gan y gwynt eisoes wedi’u cynnwys mewn gweithrediadau cynaeafu.
- Mae gwaith cynaeafu cam wrth gam wedi’i drefnu ar gyfer y 450 hectar sy’n weddill.
- Bydd adferiad yn cymryd tair i bum mlynedd, yn dibynnu ar y tywydd, cadwraeth, ac argaeledd contractwyr.
- Mae diogelwch, cadwraeth a chynaliadwyedd yn llywio pob penderfyniad.

Sesiynau galw heibio
Rydym yn cynnal dwy sesiwn galw heibio i’r cyhoedd ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno dysgu mwy am y gwaith adfer yn sgil y storm.
- Dydd Iau, 5 Mawrth, 1-5pm, yn Neuadd Pumsaint, SA19 8US - ynghylch cynlluniau ar gyfer Caio a Chwm Rhaeadr
- Dydd Gwener, 6 Mawrth, 1-5pm, yn Neuadd Brechfa, SA32 7RA, ynghylch cynlluniau ar gyfer Coedwig Brechfa
Os nad ydych yn gallu mynychu'r sesiynau galw heibio ond yr hoffech roi adborth neu ofyn cwestiwn, atebwch ein harolwg byr. Sgroliwch i lawr a chlicio 'rhannu eich barn'.
Beth sydd nesaf? Cynaeafu ac ailblannu

Rydym eisoes wedi dechrau cynaeafu ardaloedd coed a chwythwyd gan y gwynt. Gan nad oes gennym dimau cynaeafu mewnol, rydym yn gwerthu parseli o bren ar y farchnad agored ac yna’n goruchwylio’r gwaith gyda phrynwyr a chontractwyr.
Hyd yn hyn, mae 200 hectar wedi cael eu hychwanegu at ein rhaglen gynaeafu, ac rydym wedi mapio trefn y gwaith ar gyfer y 450 hectar sy’n weddill. Bydd pob parsel yn cael ei werthu a’i gynaeafu yn ei dro nes bod yr holl goed a chwythwyd gan y gwynt wedi clirio.
Bydd yr adferiad hwn yn cymryd tua thair i bum mlynedd, er y bydd cynnydd yn dibynnu ar heriau megis tywydd, mynediad, a gwiriadau cadwraeth.
Coedwig Caio a Cwm Rhaedar
Coedwig Caio

Oherwydd graddfa'r difrod yng Nghoedwig Caio, byddwn yn cynaeafu fesul adran i leihau’r effaith ar yr ardal leol. Yr adran gyntaf i'w chlirio fydd 58859 gan ddechrau yn 2026.
Coedwig Cwm Rhaeadr

Disgwylir i'r gwaith i glirio’r coed a chwythwyd drosodd yn 58157 ddechrau ym misoedd cyntaf 2026.
Coedwig Brechfa
Dwyrain Brechfa
Mae Storm Darragh wedi effeithio'n arbennig o wael ar Ddwyrain Brechfa gyda choed wedi’u chwythu drosodd dros ardal tua 300ha o faint. O ganlyniad, bydd y gwaith cynaeafu yn cael ei wneud yn raddol dros nifer o flynyddoedd.
Mae'r map yn dangos y llennyrch arfaethedig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf ac nid yw'n cynnwys yr holl goed a chwythwyd drosodd.
Yn 2026 rydym yn disgwyl i'r llennyrch canlynol gael eu cwympo: 57166, 57238, 58141, 57141, 57375 a 57234. Rydym yn rhagweld y bydd gwaith yn digwydd yn 57159, 57780, 57337 yn 2027.
Gorllewin Brechfa
Mae gwaith eisoes wedi dechrau i gynaeafu coed a gwympodd yn y gwynt yma yn 56548 a 56318. Yn 2026 rydym yn disgwyl i 56010 a 56151 gael eu cwblhau. Yna 56202 a 55625 yn 2027.

Heriau sy’n ein hwynebu

Mae clirio’r difrod o Storm Darragh yn waith enfawr, ac mae llawer o rwystrau ar hyd y ffordd:
- Graddfa’r dasg: gyda dros 650 hectar o goed a ddifrodwyd gan y gwynt, mae’n rhaid gwneud gwaith cynaeafu dros sawl blwyddyn.
- Diogelwch: ni allwn gynnal gweithrediadau cynaeafu ochr yn ochr ar yr un pryd oherwydd risgiau iechyd a diogelwch i staff a chontractwyr.
- Y farchnad bren: mae angen i ni osgoi rhyddhau gormod o bren i’w werthu ar unwaith, a allai orlifo’r farchnad.
- Mynediad gwael: nid oes gan rai ardaloedd sydd wedi’u difrodi fynedfeydd na ffyrdd addas. Rhaid adeiladu traciau newydd ac uwchraddio traciau presennol cyn y gellir dechrau cynaeafu’n ddiogel.
- Bywyd gwyllt a chadwraeth: rhaid gwirio pob safle am rywogaethau gwarchodedig, cynefinoedd, a nodweddion treftadaeth. Gall tymhorau bridio ohirio gwaith.
- Peryglon: rhaid arolygu pob safle am beryglon megis llinellau pŵer uwchben, ceblau tanddaearol, neu dir ansefydlog.
- Tywydd a thirwedd: mae tywydd gwlyb yn arafu cynnydd, ac mae llethrau serth yn anoddach ac yn fwy cymhleth i’w trin na thir gwastad.
- Stormydd yn y dyfodol: gallai mwy o dywydd garw arwain at fwy o goed yn cael eu difrodi gan y gwynt ar ben y rhai presennol ac ychwanegu at y llwyth gwaith.
- Cyfrifoldebau parhaus: wrth fynd i’r afael â choed a ddifrodwyd gan y gwynt, mae’n rhaid i ni reoli coedwigoedd nas effeithir arnynt a chyflawni ein dyletswyddau dyddiol.
- Adnoddau cyfyngedig: mae ein tîm yn fach, a dim ond cymaint o gontractwyr cymwys sydd ar gael i rannu’r gwaith rhwng tir cyhoeddus a phreifat.
Tîm CNC
Mae ein tîm Gweithrediadau Coedwig y De-orllewin yn fach ond yn ymroddedig. Dim ond wyth aelod o staff coedwigaeth a thri aelod o staff rheoli tir sy’n rheoli 10,900 hectar o goedwig ar draws Brechfa, Crychan, Caeo, Cwm Rhaeadr, a choetiroedd yn Sir Benfro, Ceredigion a Bannau Brycheiniog.
Yn y tîm Gweithrediadau Coedwig, mae cwmpas ein gwaith yn eang. Rydym yn cynllunio, datblygu a rheoli coedwigoedd a choetiroedd i’w cadw’n iach, yn gynaliadwy ac yn gynhyrchiol ar gyfer bywyd gwyllt, y diwydiant pren a defnydd cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys plannu coed, goruchwylio cynaeafu a gwerthu pren, a sicrhau bod pob safle yn gydymffurfio â’r gyfraith a safonau iechyd a diogelwch.
Ym maes rheoli tir, ein ffocws yw diogelwch y cyhoedd, hamdden, cadwraeth a threftadaeth. Rydym hefyd yn rheoli atebolrwydd cyfreithiol ac yn goruchwylio safleoedd dynodedig – gan gynnwys SoDdGAau a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol – sy’n cwmpasu xxx hectar.
Yr hyn a wnaethom

Yn yr wythnosau yn dilyn Storm Darragh, roedd ein hymateb cychwynnol yn cynnwys:
- Clirio llwybrau a oedd wedi cael eu rhwystro gan goed a chwythwyd gan y gwynt. Fe wnaethon ni weithio gyda chontractwyr cynaeafu a thyfwyr coed i glirio dros 35 cilometr o ffyrdd trwy’r coedwig, mynediad i eiddo, hawliau tramwy cyhoeddus, llwybrau, a choed peryglus ger ffyrdd cyhoeddus
- Gweithio gyda thirfeddianwyr cyfagos a chontractwyr llif gadwyn i gael gwared â choed o linellau ffens oedd wedi’u difrodi ac ailosod cilometrau o ffensys
- Arolygu a mapio ardaloedd coed a chwythwyd gan y gwynt. Unwaith yr oedd ffyrdd y goedwig ar agor, roedd modd i ni gael mynediad i’r coedwigoedd i asesu’r difrod a dechrau cynllunio gweithrediadau cynaeafu
Dolenni defnyddiol
Mae rhagor o wybodaeth am ein gwerthiannau pren ar gael yng Nghynllun Gwerthu a Marchnata Pren Cyfoeth Naturiol Cymru 2021–2026.
Ymweld â’n coedwigoedd mewn ffordd ddiogel
Pam bod eich barn yn bwysig
Os oes gennych unrhyw adborth neu gwestiynau ar ôl edrych ar y mapiau a'r wybodaeth am ein rhaglen adfer, cysylltwch â ni. Cwblhewch yr arolwg byr hwn a bydd aelod o'r tîm yn ymateb.
Digwyddiadau
-
Coedwig Caeo a Cwm Rhaedar - sesiwn galw heibio
O 5 Maw 2026 at 13:00 i 5 Maw 2026 at 17:00Location Neuadd Pumsaint, SA19 8USRydym yn cynnal dwy sesiwn galw heibio i’r cyhoedd ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno dysgu mwy am y gwaith adfer yn sgil y storm.
-
Coedwig Brechfa - sesiwn galw heibio
O 6 Maw 2026 at 13:00 i 6 Maw 2026 at 17:00Location Neuadd Brechfa, SA32 7RARydym yn cynnal dwy sesiwn galw heibio i’r cyhoedd ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno dysgu mwy am y gwaith adfer yn sgil y storm.
Ardaloedd
- Carmarthen Town North
- Carmarthen Town South
- Carmarthen Town West
Cynulleidfaoedd
- Forest Management
Diddordebau
- Rheoli Coedwig
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook