Ymgynghoriad ar gais i amrywio trwydded yng Nghyfleuster Trosglwyddo Gwastraff Pwynt Naw Milltir

Ar gau 25 Ebr 2022

Wedi'i agor 28 Maw 2022

Trosolwg

Rydym wedi derbyn cais i amrywio trwydded (Cais PAN – 016095) gan Drumcastle Limited i amrywio’r drwydded amgylcheddol bresennol ar gyfer y cyfleuster trosglwyddo gwastraff yn Ystad Ddiwydiannol Pwynt Naw Milltir, Cwmfelin-fach, Caerffili.

Trosglwyddwyd y drwydded amgylcheddol bresennol o Hazrem Environmental i'r gweithredwyr newydd Drumcastle Limited ym mis Ionawr 2022 yn dilyn y gwiriadau angenrheidiol.  

Mae'r amrywiad i'r drwydded yn cynnig rhoi’r gorau i losgi nwy naturiol a ddefnyddir ar gyfer sychu gwastraff.

Mae hefyd yn cynnig defnyddio hidlydd carbon actifedig, a fyddai'n helpu i leddfu’r arogleuon posib o'r safle.

Beth ydym ni’n ymgynghori yn ei gylch?

Cyn gwneud penderfyniad, rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, er mwyn rhoi cyfle i bobl weld y cais i amrywio’r drwydded a lleisio unrhyw bryderon allai fod ganddynt mewn perthynas â'r newidiadau arfaethedig.

Dim ond os ydym yn credu fod gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau'r drwydded y byddwn yn caniatáu amrywio trwydded. Bydd unrhyw amrywiad a ganiateir gennym yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd pobl a'r amgylchedd.

Noder, dim ond materion sydd o fewn ein cylch gwaith cyfreithiol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 y gallwn eu hystyried.

Yn unol â’r gyfraith, rhaid i ni ganiatáu trwydded (neu newid i drwydded) os gall yr ymgeisydd ddangos y bydd yr holl ofynion cyfreithiol yn cael eu bodloni a bod y Gweithredwr yn gallu dangos y gall gyflawni'r gweithgaredd heb risg sylweddol i'r amgylchedd neu iechyd pobl.

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein tudalen we ar Gyfranogiad y Cyhoedd.

Pa wybodaeth sydd ar gael? 

Gallwch weld y cais drafft yn rhad ac am ddim, ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein

Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gallai fod tâl.

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am bedair wythnos o 28 Mawrth tan 25 Ebrill

Ardaloedd

  • Crosskeys
  • Llanbradach
  • Ynysddu

Cynulleidfaoedd

Diddordebau

  • Permits