Ninewells – gweithrediadau teneuo
Overview
I weld y dudalen yn Saesneg, cliciwch yma.
Diweddariad 14/02/2024
Mae gwaith teneuo’r goedwig bellach wedi dechrau yn y coetir hwn.
Amcangyfrifwn y bydd y gwaith yn cymryd tua 3-4 wythnos i'w gwblhau, a bydd y pren yn cael ei anfon ar ôl y cyfnod hwn.
Diweddariad diogelwch pwysig
Er y bydd y rhan fwyaf o'r coetir yn dal i fod ar agor, bydd angen i ni gau ardaloedd lle mae'r gwaith teneuo yn cael ei wneud, er mwyn sicrhau diogelwch ein contractwyr ac unrhyw ymwelwyr â'r coetir.
Bydd ein contractwyr yn dechrau gweithio ym mhen dwyreiniol ardal 2 (a nodir ar y map isod) ac yn gweithio eu ffordd tua'r gorllewin.
Er eich diogelwch, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw at unrhyw arwyddion ddargyfeiriadau a allai fod ar waith.
Diolch am eich amynedd a'ch cydweithrediad tra bod y gwaith hwn yn cael ei wneud.
Dysgwch fwy am ymweld â'n coedwigoedd yn ddiogel yma
Pa waith fydd yn digwydd?
Mae gweithrediadau teneuo coedwigoedd i ddechrau cyn hir i deneuo'r coed conwydd o fewn y coetir er mwyn helpu i adfer y goedwig yn ôl i statws coetir hynafol.
Mae'r coetir wedi'i ddynodi'n Blanhigfa ar Safle Coetir Hynafol (PAWS).
- Bydd ardaloedd o goed ifanc o fewn y coetir nad ydynt wedi'u teneuo o'r blaen yn cael eu teneuo am y tro cyntaf, a fydd yn caniatáu mynediad gwell at gnydau wrth hybu sefydlogrwydd o fewn y lleiniau.
- Bydd ardaloedd yn y coetir lle mae teneuo eisoes wedi digwydd yn cael eu teneuo ymhellach i greu bylchau yn y canopi coed. Bydd hyn yn helpu i gynyddu golau at lawr y goedwig a chynyddu amrywiaeth o fewn y llystyfiant daear a hyrwyddo aildyfiant naturiol o fewn yr isdyfiant.
Pam rydyn ni'n teneuo coed?
Unwaith y bydd ardal o goed wedi aeddfedu i faint penodol, maent yn dechrau cystadlu â'i gilydd am faethynnau, dŵr a golau.
Mae teneuo’r coed yn helpu i leihau’r gystadleuaeth hon ac yn ein galluogi i gael gwared ar goed afiach a’r rhai nad ydynt yn tyfu’n dda.
Dyma un o’r gweithgareddau mwyaf buddiol y gellir ei wneud ar gyfer coedwig sy’n tyfu ac mae’n rhan hanfodol o gylchred y goedwig.
Dysgwch fwy am sut rydym yn gofalu am ein coedwigoedd: Cylch bywyd ein coedwigoedd a'n coetiroedd
Map yn dangos yr ardal yr effeithiwyd arni
Areas
- Trelech
Audiences
- Management
Interests
- Forest Management
Share
Share on Twitter Share on Facebook