I weld y dudalen yn Saesneg, cliciwch yma.
Pa waith sy'n digwydd?
Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, bydd gwaith cwympo coed yn dechrau digwydd yn New Mills, Tryleg, i gael gwared ar oddeutu pum hectar o goed llarwydd sydd wedi'u heintio â Phytophora ramorum (a elwir yn fwy cyffredin yn glefyd llarwydd).
Fel rhan o’r gweithrediadau, bydd ein contractwyr hefyd yn gwaredu nifer o goed hemlog y gorllewin o’r coetir, sy’n oresgynnol iawn, yn taflu cysgod trwm, ac yn ei gwneud yn anodd i blanhigion a choed eraill fyw oddi tanynt.
Bydd y gwaith yn cymryd tua chwe mis.
Mae’r coetir hwn wedi’i ddynodi’n Blanhigfa ar Safle Coetir Hynafol (PAWS) a bydd yn cael ei ailstocio â rhywogaethau pren caled brodorol, megis derw, oestrwydd a chriafol.
Ceir rhagor o wybodaeth am ein dull o fynd i'r afael â chlefyd llarwydd a chlefyd (Chalara) coed ynn
Ailblannu
Rydym yn ymfalchïo mewn gwneud yn siŵr bod ein coedwigoedd yn cael eu cwympo mewn modd cyfrifol a chynaliadwy, er mwyn bodloni holl ofynion Safonau Coedwigaeth y Deyrnas Unedig a Safon Ardystio’r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC) a’r Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC).
Mae Coed Fedw wedi'i ddynodi'n Blanhigfa ar Safle Coetir Hynafol (PAWS). Bydd ein tîm coedwigaeth yn ailstocio'r safle gyda'r nod o adfer y safle yn ôl i goetir hynafol. Byddant yn ailstocio'r safle gydag amrywiaeth o rywogaethau brodorol, gan arwain at goetir cryfach sy'n gallu gwrthsefyll bygythiadau o blâu a chlefydau a’r newid yn yr hinsawdd.
Map yn dangos yr ardal yr effeithiwyd arni
If you have any questions, please contact: SEForest.operations@naturalresources.wales
Share
Share on Twitter Share on Facebook