Diweddariad 12/04/2022
Mae gwaith teneuo bellach wedi’i gwblhau yng nghoetiroedd St James ger Tredegar, i helpu i agor y cnwd a rhoi gwell mynediad ar gyfer gwaith rheoli yn y coetir yn y dyfodol, yn ogystal â hybu sefydlogrwydd y coed presennol a chynyddu lefelau’r golau i wella bioamrywiaeth.
Mae gwaith i adeiladu ffordd newydd er mwyn gwella’r mynediad at ardal ddeheuol y coetir hefyd wedi cael ei orffen, ble mae angen gwneud gwaith cwympo coed er mwyn tynnu coed sydd wedi’u heintio gan Phytophtora ramorum (sy’n fwy adnabyddus fel clefyd y llarwydd).
Disgwylir y bydd y gwaith hwn yn cychwyn ym mis Gorffennaf 2022 a bydd yn cymryd tua 9 mis.
Ar ôl i’r gwaith cwympo coed gael ei gwblhau, caiff y safle ei ailstocio yn bennaf â choed llydanddail brodorol.
Map yn dangos gweithrediadau St James yn y dyfodol
Mynediad i'r coetir
Mae'n debygol y bydd yn rhaid i ni atal mynediad cyhoeddus i rai rhannau o'r coetir tra bydd y gwaith yn digwydd. Mae safleoedd cynaeafu byw yn hynod beryglus, ac mae hyn yn angenrheidiol i amddiffyn diogelwch ein staff, ein contractwyr ac ymwelwyr â'r coetir.
Ufuddhewch i arwyddion cau a dargyfeirio pan fyddant ar waith.
Adar yn nythu
Cyn i unrhyw waith ddechrau, rydym yn gweithio'n agos gyda syrfëwr adar i arolygu'r safle'n drylwyr ar gyfer unrhyw adar sy'n nythu. Bydd parth gwaharddiad yn cael ei roi o gwmpas unrhyw nythod a ddarganfyddir a bydd y timau'n gweithio o amgylch yr ardal nes bod yr adar wedi gorffen magu a gadael y nyth.
Clefyd y llarwydd
Mae clefyd y llarwydd, neu Phytophthora ramorum, yn glefyd tebyg i ffwng a all achosi difrod helaeth a marwolaeth i ystod eang o goed a phlanhigion eraill. Mae clefyd y llarwydd yn lledaenu trwy sborau yn yr awyr sy'n mynd o goeden i goeden. Nid yw'n fygythiad i iechyd pobl nac anifeiliaid.
Er na allwn atal clefyd y llarwydd rhag lledaenu, gallwn weithredu i'w arafu.
Yn 2013, nododd arolygon fod clefyd y llarwydd yn lledaenu'n gyflym ar draws coedwigoedd yng Nghymru, gan sbarduno strategaeth ledled y wlad i gael gwared ar goed heintus i'w atal rhag lledaenu ymhellach.
Mae'r afiechyd wedi heintio oddeutu 6.7 miliwn o goed llarwydd ledled Cymru gyfan ac wedi cael effaith ddramatig ar ein coedwigaeth.
Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni dynnu coed llarwydd heintiedig o dan yr Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol - Symud (SPHNm) a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru.
Ailblannu
Ar ôl i'r coed llarwydd heintiedig gael eu symud, byddwn yn ailblannu â choed llydanddail brodorol yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt
Cludo pren
Bydd angen i gerbydau cludo fynd i'r coetiroedd yn rheolaidd i gael gwared ar bren wedi'i gynaeafu o'r safle. Ar gyfer safleoedd sy'n agos at gymunedau, bydd uchafswm o wyth llwyth lori y dydd. Mewn ardaloedd adeiledig bydd cyfyngiad pellach ar y gweithgaredd hwn i adegau y tu allan i oriau cynnar y bore ac oriau brig yr hwyr
Wrth i ni baratoi i gyflawni'r gwaith hanfodol hwn, rydyn ni am sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r gwaith sydd wedi'i gynllunio, yn deall pam ei fod yn digwydd a sut y gallai effeithio arnyn nhw.
Mwy o wybodaeth
Byddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd ar y dudalen hon am y gwaith wrth i'r gweithrediadau fynd rhagddynt.
Darllenwch ein cwestiynau cyffredin am ein Gweithrediadau Coedwig
Os hoffech gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr i gael diweddariadau rheolaidd am y gwaith, e-bostiwch SEForest.operations@naturalresources.wales
Share
Share on Twitter Share on Facebook