Gwybodaeth am weithrediadau coedwigaeth yng nghoetiroedd St. James

Ar gau 14 Gorff 2023

Wedi'i agor 20 Gorff 2021

Trosolwg

Diweddariad St James. 15/12/2023

Rydym yn falch o ddweud bod gwaith i symud y coed llarwydd heintiedig yn ardal ogleddol y coetir bellach wedi'i gwblhau (wedi'i nodi fel ardal tri a phedwar ar y map isod).

Mae ein contractwyr bellach wedi dechrau gweithio ar gael gwared ar y coed llarwydd heintiedig yn ardal dau yn y coetir.

Rydym yn amcangyfrif y bydd hyn yn cymryd tua phythefnos i'w gwblhau.

Diweddariad diogelwch pwysig

Yn ystod y cyfnod hwn, er mwyn caniatáu i'r gwaith gael ei wneud mor gyflym ac effeithlon â phosibl ac er mwyn sicrhau diogelwch ein contractwyr ac unrhyw ymwelwyr â'r coetir, bydd angen i ni gau'r trac o'r gronfa ddŵr i ffordd y goedwig am gyfnod.

Bydd yr hawl tramwy cyhoeddus o'r trac sy'n rhedeg o dan y llinellau pŵer i ffordd y goedwig yn parhau ar agor ac rydym yn annog cerddwyr i ddefnyddio'r llwybr hwn tra bo'r gwaith yn digwydd.

Unwaith y bydd y gwaith yn ardal dau wedi'i gwblhau, bydd y contractwyr yn symud i'r llethr a nodir yn ardal un ar y map.

Oherwydd y gwaith winsio a chwympo â llaw, bydd angen cau'r ardal hon yn llwyr yn ystod y gweithrediadau, gan fod symud coed â winsh yn cymryd mwy o amser i'w gwblhau. Rydym yn amcangyfrif y gallai'r gwaith hwn gymryd tua thri mis.

Mae safleoedd cynaeafu byw yn beryglus iawn. Er eich diogelwch eich hun a diogelwch ein contractwyr, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd sylw o unrhyw arwyddion rhybuddio a gwahardd yn y coetiroedd.

Byddwch yn ymwybodol y bydd gwaith adfer ar draciau a llwybrau troed yn cael eu cwblhau ar ôl y gweithrediadau cwympo.

Diolch am eich amynedd a'ch cydweithrediad tra bod y gwaith hwn yn cael ei wneud.

Dysgwch fwy am ymweld â'n coedwigoedd yn ddiogel yma

Diweddariad 30 Tachwedd 2023

Bydd gwaith cwympo coed i gael gwared ar goed llarwydd heintiedig o'r coetir hwn yn dechrau ym mis Rhagfyr.

Er y byddwn yn ceisio cadw cymaint o'r coetir ar agor â phosib, bydd angen i ni gau rhannau lle mae'r gweithrediadau'n digwydd, er mwyn caniatáu i'r gwaith gael ei wneud yn gyflym ac yn ddiogel.

Er nad ydym yn hoffi cau mynediad i’n coedwigoedd, sy’n rhoi mwynhad i lawer, mae safleoedd cynaeafu byw yn hynod beryglus, ac mae hyn yn angenrheidiol i ddiogelu ein staff, ein contractwyr, ac ymwelwyr â’r coetir.

Cofiwch ufuddhau i’r holl hysbysiadau cau a dargyfeirio a welwch. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i darfu cyn lleied â phosib ar y gymuned leol.

Dysgwch fwy am ymweld â'n coedwigoedd yn ddiogel yma

Map yn dangos gweithrediadau St James yn y dyfodol

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Diweddariad 20/03/23

Mae’r gwaith cynaeafu a drefnwyd i gael gwared ar tua 18.9 hectar o goed llarwydd sydd wedi’u heintio â Phytophthora ramorum (a elwir yn fwy cyffredin yn glefyd llarwydd) wedi’i oedi oherwydd y posibilrwydd o adar yn nythu yn yr ardal.

Mae'r gwaith bellach wedi'i amserlennu i ddechrau ddiwedd Gorffennaf - dechrau Awst unwaith y bydd yr adar wedi magu plu a gadael eu nythod.

Dysgwch fwy am sut rydym yn diogelu adar gwyllt yn ystod gwaith yn y goedwig

Diweddariad ar St James – 30/10/2022

Mae’r safle cwympo i’r de bellach yn weithredol. Cymerwch sylw o unrhyw arwyddion gweithredol wrth gerdded yn y goedwig.

Diweddariad ar y gwaith 07/09/2022

Bydd gwaith coedwigaeth i dynnu tua 18.9 hectar o goed llarwydd sydd wedi’u heintio â Phytophthora ramorum (sy’n fwy adnabyddus fel clefyd y llarwydd) yn digwydd yng nghoetir St James yr hydref hwn.

Bydd y gwaith yn cymryd tua 9 mis.

Ar ôl i’r gwaith cwympo coed gael ei gwblhau, caiff y safle ei ailstocio yn bennaf â choed llydanddail brodorol.

Beth yw clefyd y llarwydd?

Mae clefyd y llarwydd, neu Phytophthora ramorum, yn glefyd tebyg i ffwng sy’n gallu achosi difrod helaeth a marwolaeth i amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill. Mae clefyd y llarwydd yn ymledu o goeden i goeden drwy sborau yn yr awyr. Nid yw’n berygl i iechyd pobl nac anifeiliaid o gwbl.

Er na allwn atal lledaeniad clefyd y llarwydd, fe allwn gymryd camau i’w arafu.

Dysgwch fwy am ein dull o fynd i’r afael â chlefyd y llarwydd a chlefyd coed ynn

 Mynediad i’r goedwig yn ystod y gwaith

Bydd yn rhaid i ni atal mynediad i’r cyhoedd i’r llwybrau troed tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo, er mwyn caniatáu i’r gwaith gael ei wneud yn gyflym ac yn ddiogel.

Dydyn ni ddim yn hoffi atal mynediad i’n coedwigoedd, am fod llawer o bobl yn eu mwynhau, ond mae safleoedd cynaeafu byw yn hynod beryglus, ac mae hyn yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn diogelwch ein staff, ein contractwyr ac ymwelwyr â’r coetir.

Cadwch at yr holl arwyddion cau a dargyfeirio pan fyddant mewn lle. Fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i sicrhau y terfir cyn lleied â phosib ar y gymuned leol.

Dysgwch fwy am ymweld â’n coedwigoedd yn ddiogel yma

Adar yn nythu

Cyn i unrhyw waith ddechrau, rydym yn gweithio'n agos gyda syrfëwr adar i arolygu'r safle'n drylwyr ar gyfer unrhyw adar sy'n nythu. Bydd parth gwaharddiad yn cael ei roi o gwmpas unrhyw nythod a ddarganfyddir a bydd y timau'n gweithio o amgylch yr ardal nes bod yr adar wedi gorffen magu a gadael y nyth.

Ailblannu

Ar ôl i'r coed llarwydd heintiedig gael eu symud, byddwn yn ailblannu â choed llydanddail brodorol yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt

Cludo pren

Bydd angen i gerbydau cludo fynd i'r coetiroedd yn rheolaidd i gael gwared ar bren wedi'i gynaeafu o'r safle. Ar gyfer safleoedd sy'n agos at gymunedau, bydd uchafswm o wyth llwyth lori y dydd. Mewn ardaloedd adeiledig bydd cyfyngiad pellach ar y gweithgaredd hwn i adegau y tu allan i oriau cynnar y bore ac oriau brig yr hwyr

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Wrth i ni baratoi i gyflawni'r gwaith hanfodol hwn, rydyn ni am sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r gwaith sydd wedi'i gynllunio, yn deall pam ei fod yn digwydd a sut y gallai effeithio arnyn nhw.

Mwy o wybodaeth  

Byddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd ar y dudalen hon am y gwaith wrth i'r gweithrediadau fynd rhagddynt.

Darllenwch ein cwestiynau cyffredin am ein Gweithrediadau Coedwig

Beth sy'n digwydd nesaf

 

 

Ardaloedd

  • Crosskeys

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Forest Management