Gwybodaeth am weithrediadau coedwig yng Nghoed Cilonydd

Closed 9 Nov 2023

Opened 8 Nov 2022

Overview

Diweddariad 20/03/23

Ar hyn o bryd, mae ein gwaith cwympo arfaethedig i gael gwared ar goed Llarwydd sydd wedi'u heintio â Phytophthora ramorum o goetir Coed Cilonydd yn dal wedi’i ohirio.

Er ein bod yn falch o allu dweud bod yr heriau economaidd blaenorol a wynebwyd gennym o fewn y farchnad bren bellach wedi setlo, rydym bellach wedi cyrraedd tymor bridio adar (Mawrth – Awst) ac ni allwn weithio ar y safle, oherwydd y risg o aflonyddu ar adar sy’n nythu.

Mae'r gwaith i fod i ddechrau ym mis Awst unwaith y bydd yr adar wedi magu plu a gadael eu nythod.

Dysgwch fwy am sut rydym yn diogelu adar gwyllt yn ystod gwaith yn y goedwig

Mae angen inni gynnal gwaith cwympo coed yng nghoetir Coed Cilonydd ger Abercarn, i gael gwared o goed llarwydd sydd wedi’u heintio â Phytophthora ramorum (sy’n fwy adnabyddus fel clefyd llarwydd).

Ar y funud, mae’r gwaith cwympo wedi cael ei ohirio, o ganlyniad i heriau economaidd y farchnad bren.

Hoffem eich sicrhau ein bod yn parhau i gysylltu’n agos â'n contractwyr a'n prynwyr, ac yn gweithio'n galed i ddatrys y materion hyn. Bydd y gwaith yn dechrau cyn gynted ag sydd bosibl.

Byddwn yn rhannu diweddariadau drwy dudalen y prosiect a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y De ddwyrain @CyfNatDD

Map yn dangos yr ardal yr effeithir arni yng Nghoed Cilonydd

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Beth yw clefyd llarwydd?

Clefyd ffyngaidd yw clefyd llarwydd neu Phytophthora ramorum, sy’n gallu achosi difrod sylweddol i amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill a’u lladd. Mae’r clefyd yn lledaenu wrth i sborau gael eu gwasgaru yn yr awyr o goeden i goeden. Nid oes unrhyw fygythiad i iechyd pobl nac anifeiliaid. 

Er na allwn atal lledaeniad clefyd llarwydd, gallwn gymryd camau i’w arafu.

Dysgu mwy am ein dulliau o fynd i’r afael â chlefyd llarwydd a chlefyd coed ynn  

Ailblannu

Unwaith y bydd yr holl goed llarwydd heintiedig wedi cael eu tynnu o’r ardaloedd hyn, rydym yn bwriadu ailblannu coed yno. Bydd hyn yn cynnwys cymysgedd amrywiol o rywogaethau a fydd yn helpu i sicrhau bod ein coetiroedd yn gallu gwrthsefyll plâu ac afiechydon yn well yn y dyfodol.

 

Please adhere to clo

Mynediad i’r coetir

Mae’n debygol y bydd yn rhaid inni gau llwybrau mynediad cyhoeddus i rai rhannau o’r coetir tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo. Mae safleoedd cynaeafu byw yn hynod o beryglus, ac mae hyn yn angenrheidiol er mwyn diogelu ein staff, ein contractwyr a’r rhai sy’n ymweld â’n coetiroedd.

Gwyliwch ein fideo am gadw’n ddiogel yn ein coedwigoedd

Lorïau cludo pren

Bydd angen i lorïau cludo pren gael mynediad i’r coetiroedd yn rheolaidd i gael gwared o bren sydd wedi’i gynaeafu o’r safle rhwng 07:30 a 18:00.

Bydd y gwaith cludo yn parhau nes bydd yr holl bren sydd ar ôl wedi cael ei gludo o’r safle.

Elw a wneir o werthu’r pren

Mae’n dal yn bosibl defnyddio a phrosesu pren llarwydd sydd wedi’i heintio. Ar ôl ei brosesu gellir ei ddefnyddio ar gyfer nifer o gynhyrchion pren gan gynnwys deunyddiau adeiladu, paledi, ffensys a phelenni tanwydd.
 

Mae’r holl incwm o werthu pren yn mynd tuag at gostau gweithredu yr ydym eu talu wrth reoli ystâd goetir Llywodraeth Cymru. Mae ein costau yn fwy na’r refeniw a gynhyrchir drwy werthu pren felly rydym hefyd yn derbyn cymorth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn caniatáu inni barhau i ddarparu llawer o gyfleusterau am ddim drwy Gymru er budd cymunedau lleol ac ymwelwyr.

Areas

  • Abercarn

Audiences

  • Management

Interests

  • Forest Management