Gwybodaeth am weithrediadau coedwig yn Wet Meadow
Trosolwg
Er mwyn gweld y dudalen hon yn Saesneg cliciwch yma
Mae gweithgareddau teneuo yn digwydd yn y coetir hwn er mwyn teneuo’r coed conwydd i helpu i adfer y goedwig yn Goetir Hynafol unwaith eto.
Bydd y gwaith yn cymryd tua 8 mis.
Pam rydyn ni'n teneuo coed?
Unwaith y bydd ardal o goed wedi aeddfedu ac wedi cyrraedd maint penodol, byddant yn dechrau cystadlu â'i gilydd am faetholion, dŵr a golau.
Mae teneuo’r coed yn helpu i leihau’r gystadleuaeth hon ac yn caniatáu inni gael gwared o goed afiach a’r rhai nad ydynt yn tyfu’n dda.
Dyma un o’r gweithgareddau mwyaf buddiol y gellir ei wneud ar gyfer coedwig sy’n tyfu ac mae’n rhan hanfodol o gylchred y goedwig.
Dysgwch fwy am sut rydym yn gofalu am ein coedwigoedd:
Cylch bywyd ein coedwigoedd a'n coetiroedd
Mynediad i'r goedwig
Er y bydd y rhan fwyaf o'r coetir yn dal i fod ar agor, bydd angen i ni gau ardaloedd lle mae'r gwaith teneuo yn digwydd, er mwyn sicrhau diogelwch ein contractwyr ac unrhyw rai sy’n ymweld â'r coetir.
Yn ystod y gwaith bydd y maes parcio cyhoeddus wedi cau. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleuster y gallai hyn ei achosi.
Er eich diogelwch eich hun, gofalwch eich bod yn ufuddhau i unrhyw arwyddion neu ddargyfeiriadau a allai fod yn weithredol.
Diolch am eich amynedd a'ch cydweithrediad tra bod y gwaith hwn yn cael ei wneud.
Dysgwch fwy am ymweld â'n coedwigoedd yn ddiogel yma
Map yn dangos yr ardal yr effeithiwyd arni
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Management
Diddordebau
- Forest Management
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook