Gwybodaeth am Waith Coedwigaeth yng Nghoed Gwent
Trosolwg
Diweddariad 20/03/23
Rydym wedi rhoi’r gorau i’r gwaith teneuo coedwig a drefnwyd yn rhan ddwyreiniol y coetir am y tro oherwydd y posibilrwydd o adar yn nythu yn yr ardal.
Mae'r gwaith bellach wedi'i amserlennu i ddechrau ddiwedd Gorffennaf - dechrau Awst unwaith y bydd yr adar wedi magu plu a gadael eu nythod.
Dysgwch fwy am sut rydym yn diogelu adar gwyllt yn ystod gwaith yn y goedwig
Mae gwaith teneuo coedwig ar fin dechrau yn rhan ddwyreiniol coetiroedd Coed Gwent, er mwyn helpu i adfer y goedwig yn Goetir Hynafol.
Mae’r coetir wedi’i ddynodi fel Planhigfa ar Safle Coetir Hynafol.
Pa fath o waith fydd yn digwydd?
- Bydd ardaloedd o goed ifanc o fewn y coetir na chawsant eu teneuo o’r blaen, yn cael eu teneuo am y tro cyntaf, a bydd hyn yn hwyluso mynediad at goed ifanc ac ar yr un pryd yn hyrwyddo sefydlogrwydd o fewn y llannerch.
- Bydd ardaloedd o’r coetir lle mae gwaith teneuo eisoes wedi bod yn digwydd yn cael eu teneuo ymhellach i greu bylchau yng nghanopi’r coed. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod mwy o olau yn cyrraedd llawr y goedwig ac yn cynyddu amrywiaeth y llystyfiant ar y llawr ac yn hyrwyddo aildyfiant naturiol.
- Yn y coetir, bydd coed sydd wedi’u heintio â Phytophthora ramorum (sy’n fwy adnabyddus fel clefyd llarwydd) hefyd yn cael eu tynnu oddi yno, i’n helpu i fynd i’r afael â’i ledaeniad a’i rwystro rhag lledaenu ymhellach.
Map yn dangos yr ardal yr effeithir arni yng Nghoed Gwent
Unwaith y bydd ardal o goed wedi aeddfedu a thyfu i faint arbennig, bydd y coed yn dechrau cystadlu â’i gilydd am faethynnau, dŵr a golau.
Mae teneuo’r coed yn helpu i leihau’r gystadleuaeth hon ac yn caniatáu inni gael gwared o goed afiach a rhai nad ydynt yn tyfu’n dda.
Dyma un o’r gweithgareddau mwyaf buddiol ar gyfer coedwig sy’n tyfu ac mae’n rhan hanfodol o gylchred y goedwig.
Dysgwch fwy am y ffordd yr ydym yn gofalu am ein coedwigoedd.
Cylch bywyd ein Coedwigoedd a’n Coetiroedd
Mynediad i’r coetir
Mae'n debygol y bydd yn rhaid inni gau llwybrau mynediad cyhoeddus i rai rhannau o’r coetir tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo. Mae safleoedd cynaeafu byw yn hynod o beryglus, ac mae hyn yn angenrheidiol er mwyn diogelu ein staff, ein contractwyr a’r rhai sy’n ymweld â’n coetiroedd.
Gofalwch ufuddhau i arwyddion cau a dargyfeirio sy’n weithredol.
Pam bod eich safbwyntiau o bwys
Ardaloedd
- Newport
Cynulleidfaoedd
- Management
Diddordebau
- Forest Management
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook