Pant y Warren - gweithrediadau coedwig

Yn cau 5 Rhag 2026

Wedi agor 5 Rhag 2025

Trosolwg

Cliciwch i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg / Click to read this page in English

Pa waith fydd yn digwydd?

Dros yr wythnosau nesaf, disgwylir i weithrediadau coedwig ddechrau yng nghoedwig Pant y Warren ger Devauden, Sir Fynwy, er mwyn teneuo'r coed conwydd, a bydd yn cymryd tua chwe mis i'w gwblhau.

Mae'r gwaith yn rhan o ymdrech ehangach i adfer a gwella iechyd y coetir yn dilyn yr aflonyddwch a achoswyd gan yr achosion o glefyd llarwydd. Bydd y teneuo yn:

  • agor y canopi i annog adfywiad naturiol.
  • gwella sefydlogrwydd a gwytnwch y cnydau coed sy'n weddill.
  • cefnogi adfer coetir hynafol.

Cau Mynediad a Llwybrau Troed
Bydd Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar gau yn swyddogol yn ystod y cyfnod gweithredu. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud pob ymdrech i gadw cymaint o lwybrau troed ar agor â phosibl. Bydd y cau dros dro ac wedi'i gyfyngu i barthau gwaith gweithredol, gan ailagor wrth i weithrediadau fynd rhagddo.

Diogelwch
Yn ystod y gwaith, dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau diogelwch a byddwch yn ymwybodol o symudiadau loris pren ar ffyrdd y goedwig.

Dysgwch fwy am ymweld â’n coedwigoedd yn ddiogel

Map yn dangos yr ardal waith

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Pam rydyn ni'n teneuo coed?

Unwaith y bydd ardal o goed wedi aeddfedu i faint penodol, maent yn dechrau cystadlu â'i gilydd am faethynnau, dŵr a golau.

Mae teneuo’r coed yn helpu i leihau’r gystadleuaeth hon ac yn ein galluogi i gael gwared ar goed afiach a’r rhai nad ydynt yn tyfu’n dda. Mae hefyd yn annog adfywio naturiol rhywogaethau brodorol ac yn helpu i adfer ein coetiroedd hynafol.

Dyma un o’r gweithgareddau mwyaf buddiol y gellir ei wneud ar gyfer coedwig sy’n tyfu ac mae’n rhan hanfodol o gylchred y goedwig.

Dysgwch fwy am sut rydym yn gofalu am ein coedwigoedd: Cylch bywyd ein coedwigoedd a'n coetiroedd

Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin

Cysylltwch รข ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: 

SEForest.operations@naturalresources.wales

Ardaloedd

  • Devauden

Cynulleidfaoedd

  • Forest Management

Diddordebau

  • Forest Management