Gwaith gwella Mescoed Mawr

Overview

Bydd gwaith ymchwilio er mwyn gwneud gwelliannau i ddiogelwch, mynediad i'r cyhoedd a choedwigaeth yng nghoedwig Mescoed Mawr, ger Casnewydd, yn digwydd am oddeutu wythnos o ddydd Llun 02 Mawrth 2026.

Bydd mynediad i’r cyhoedd yn cael ei gyfyngu dros dro ar rai llwybrau a ffyrdd coedwig yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd contractwyr Dŵr Cymru Welsh Water yn gwneud y gwaith ar biblinellau dŵr.

Bydd yr holl weithgareddau yn cael eu cynnal gyda pharch at yr amgylchedd, gan sicrhau bod bywyd gwyllt, cynefinoedd, a gwytnwch y goedwig yn y tymor hir yn parhau i fod yn ganolog i bob penderfyniad.

 Beth sy'n digwydd?

Bydd y prosiect yn cynnwys cloddio tyllaul prawf i leoli bibellau Dŵr Cymru.

Pam mae hyn yn bwysig?

Ar ôl ei gwblhau, bydd y gwaith hwn:

  • yn galluogi mynediad yn y dyfodol ar gyfer gweithrediadau coedwig
  • yn gwella mynediad ar gyfer gweithrediadau coedwigaeth a gwasanaethau brys
  • yn cefnogi iechyd a gwydnwch y goedwig yn y tymor hir trwy alluogi cwympo coed llarwydd sydd â chlefyd coed llarwydd
  • yn gwella diogelwch i gerddwyr, beicwyr, a defnyddwyr eraill y goedwig.

A fydd unrhyw darfu?

Dylai pobl sy'n ymweld â'r goedwig fod yn ymwybodol o’r canlynol:

  • efallai y bydd cyfyngiadau mynediad dros dro ar waith ar rai o lwybrau a ffyrdd y goedwig
  • bydd arwyddion yn cael eu harddangos yn glir, a bydd llwybrau amgen yn cael eu darparu pan fo angen
  • gall sŵn a symudiad cerbydau fod yn amlwg yn ystod oriau gwaith.

 

 

 

Gallwch gysylltu â ni drwy:

Closes 9 Mar 2026

Opened 22 Feb 2026

Areas

  • Newport

Audiences

  • Forest Management

Interests

  • Forest Management
  • National Access Forum