Gwaith gwella Mescoed Mawr
Overview
Bydd gwaith ymchwilio er mwyn gwneud gwelliannau i ddiogelwch, mynediad i'r cyhoedd a choedwigaeth yng nghoedwig Mescoed Mawr, ger Casnewydd, yn digwydd am oddeutu wythnos o ddydd Llun 02 Mawrth 2026.
Bydd mynediad i’r cyhoedd yn cael ei gyfyngu dros dro ar rai llwybrau a ffyrdd coedwig yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd contractwyr Dŵr Cymru Welsh Water yn gwneud y gwaith ar biblinellau dŵr.
Bydd yr holl weithgareddau yn cael eu cynnal gyda pharch at yr amgylchedd, gan sicrhau bod bywyd gwyllt, cynefinoedd, a gwytnwch y goedwig yn y tymor hir yn parhau i fod yn ganolog i bob penderfyniad.
Beth sy'n digwydd?
Bydd y prosiect yn cynnwys cloddio tyllaul prawf i leoli bibellau Dŵr Cymru.
Pam mae hyn yn bwysig?
Ar ôl ei gwblhau, bydd y gwaith hwn:
- yn galluogi mynediad yn y dyfodol ar gyfer gweithrediadau coedwig
- yn gwella mynediad ar gyfer gweithrediadau coedwigaeth a gwasanaethau brys
- yn cefnogi iechyd a gwydnwch y goedwig yn y tymor hir trwy alluogi cwympo coed llarwydd sydd â chlefyd coed llarwydd
- yn gwella diogelwch i gerddwyr, beicwyr, a defnyddwyr eraill y goedwig.
A fydd unrhyw darfu?
Dylai pobl sy'n ymweld â'r goedwig fod yn ymwybodol o’r canlynol:
- efallai y bydd cyfyngiadau mynediad dros dro ar waith ar rai o lwybrau a ffyrdd y goedwig
- bydd arwyddion yn cael eu harddangos yn glir, a bydd llwybrau amgen yn cael eu darparu pan fo angen
- gall sŵn a symudiad cerbydau fod yn amlwg yn ystod oriau gwaith.
Gallwch gysylltu â ni drwy:
- e-bostio ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
- neu ffonio 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm).
Areas
- Newport
Audiences
- Forest Management
Interests
- Forest Management
- National Access Forum
Share
Share on Twitter Share on Facebook