Gwaith cwympo coed llarwydd yn Nwyrain Mescoed Mawr

Ar gau 30 Medi 2023

Wedi'i agor 7 Medi 2022

Trosolwg

Pa waith sy’n mynd rhagddo?

Diweddariad 20/03/2023

Mae gwaith torri coed i gael gwared ar 14 ha o goed llarwydd sydd wedi’u heintio â Phytophora ramorum (a elwir yn fwy cyffredin yn glefyd llarwydd) yng nghoetiroedd Dwyrain Mescoed Mawr, ger Casnewydd, bellach wedi’i gwblhau.

Bydd ailblannu yn digwydd y gaeaf hwn fel rhan o raglen ailstocio 2023/2024.

Diweddariad 26/09/2022

Mae gwaith cwympo coed bellach wedi dechrau yn nwyrain coetiroedd Mescoed Mawr, ger Casnewydd, er mwyn tynnu coed llarwydd sydd wedi’u heintio â Phytophora ramorum (a elwir hefyd yn glefyd y llarwydd)

Bydd angen tynnu tua 14 hectar o goed llarwydd a bydd y gwaith yn cymryd tua 9 mis.

Beth yw clefyd y llarwydd?

Mae clefyd y llarwydd, neu Phytophthora ramorum, yn glefyd tebyg i ffwng sy’n gallu achosi difrod helaeth a marwolaeth i amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill. Mae clefyd y llarwydd yn ymledu o goeden i goeden drwy gyfrwng sborau yn yr awyr. Nid yw’n berygl i iechyd pobl nac anifeiliaid o gwbl. 

Er na allwn atal lledaeniad clefyd y llarwydd, fe allwn gymryd camau i’w arafu.

Dysgwch fwy am ein dull o fynd i’r afael â chlefyd y llarwydd a chlefyd coed ynn

Mynediad i’r goedwig yn ystod y gwaith

Mae’n debygol y bydd yn rhaid i ni atal mynediad i’r cyhoedd i rai rhannau o’r goedwig tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo, er mwyn caniatáu i’r gwaith gael ei wneud yn gyflym ac yn ddiogel.

Dydyn ni ddim yn hoffi atal mynediad i’n coedwigoedd, am fod llawer o bobl yn eu mwynhau, ond mae safleoedd cynaeafu byw yn hynod beryglus, ac mae hyn yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn diogelwch ein staff, ein contractwyr ac ymwelwyr â’r coetir.

Cadwch at yr holl arwyddion cau a dargyfeirio pan fyddant mewn lle. Fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i sicrhau y terfir cyn lleied â phosib ar y gymuned leol.

Dysgwch fwy am ymweld â’n coedwigoedd yn ddiogel yma

Ailblannu

Er ei bod yn anffodus pan fo’n rhaid i ni gwympo coed sydd wedi’u heintio â chlefyd y llarwydd, y mae’n cynnig cyfle i ni ailddylunio’r coetiroedd a’u gwneud yn fwy cydnerth at y dyfodol.

Rydyn ni’n ymfalchïo mewn sicrhau bod ein coedwigoedd yn cael eu cwympo mewn ffordd gyfrifol, er mwyn bodloni holl ofynion Safonau Coedwigaeth y DU.

Bydd ein tîm coedwigaeth yn monitro’r safle’n ofalus am arwyddion o adfywiad naturiol yn y pum mlynedd cyntaf wedi cwympo’r coed. Os na fydd adfywio naturiol yn bosib, byddwn yn ailblannu â chymysgedd o rywogaethau, gyda newid yn y patrymau plannu a fydd yn helpu’r coetir i wrthsefyll bygythiad plâu ac afiechydon a newid hinsawdd yn well.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Ardaloedd

  • Newport

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Forest Management