Gwaith coedwigaeth a rheoli tir sydd ar ddod yng nghoetiroedd Gogledd a De Gwy, Sir Fynwy
Trosolwg
Pa waith sy'n digwydd?
Gwaith Coedwig
Mae gwaith torri coed helaeth yn dechrau yn Nyffryn Gwy i gael gwared ar tua 133 hectar o goed llarwydd, o goetir Manor, Bryn Beacon, Whitestone a’r Fedw, sydd wedi'u heintio â Phytophthora ramorum.
Mae Phytophthora ramorum, sy'n cael ei adnabod yn fwy cyffredin fel clefyd llarwydd, yn glefyd tebyg i ffwng sy'n gallu achosi difrod helaeth a marwolaethau i amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill. Mae clefyd llarwydd yn lledaenu trwy sborau yn yr awyr o goeden i goeden. Nid yw'n fygythiad i iechyd pobl nac anifeiliaid.
Mae disgwyl i'r gwaith torri coed barhau am nifer o flynyddoedd.
Gallwch weld y mapiau o'r ardaloedd gweithredu arfaethedig isod. Sylwch y bydd y rhain yn cael eu diweddaru wrth i'r gwaith o gynllunio gweithrediadau fynd rhagddo ac efallai y byddan nhw’n newid.
Clefyd coed ynn
Bydd gwaith hefyd yn cael ei wneud i gael gwared ar nifer fawr o goed ynn o lawer o'n coetiroedd yn Nyffryn Gwy sydd wedi'u heintio â Chlefyd coed ynn.
Clefyd ffwngaidd arall yw Clefyd coed ynn sy'n fygythiad difrifol i'n poblogaeth coed ynn.
Gall coed sydd wedi’u heintio mynd yn frau, gan arwain at yr angen am reolaeth ofalus a’r posibilrwydd o gael gwared arnyn nhw er mwyn sicrhau diogelwch pobl sy’n ymweld â’n coetiroedd hardd.
Bydd rhywfaint o bren marw sy'n sefyll a phren marw sy’n gorwedd yn cael ei adael ar y safle i ddarparu cynefinoedd pwysig i fywyd gwyllt fel adar, ystlumod ac infertebratau saprosylig.
Gall pren o goed llarwydd ac ynn sydd wedi’i heintio cael ei brosesu o hyd a'i ddefnyddio ar gyfer nifer o gynhyrchion pren gan gynnwys deunyddiau adeiladu, paledi, ffensys a phelenni tanwydd coed.
Sylwch na fyddwn yn cael gwared ar goed ynn o’n coetiroedd yn gyfan gwbl a bydd llawer o goed ynn yn ein coedwigoedd yn aros ac yn cael eu monitro’n agos gan ein timau ar gyfer ymwrthedd i glefydau.
Ein hymagwedd at iechyd coed yng Nghymru
Mae newid hinsawdd yn cynyddu’r bygythiad o blâu a chlefydau yn ein coedwigoedd a’n coetiroedd, a all gael effaith ddinistriol ar ein cynefinoedd naturiol, yn ogystal â newid y dirwedd rydym ni’n ei hadnabod ac yn ei charu yn sylweddol.
Er na allwn atal plâu a chlefydau rhag effeithio ar ein coedwigoedd yn gyfan gwbl, gallwn gymryd camau i’w harafu.
Dysgwch fwy am ein dull o fynd i'r afael â chlefyd llarwydd a Chlefyd coed ynn
Mynediad i’r goedwig tra bod gwaith yn mynd rhagddo
Mae'n debygol y bydd yn rhaid i ni gau mynediad cyhoeddus i rai ardaloedd o’r goedwig tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, er mwyn caniatáu i'r gwaith gael ei wneud yn gyflym ac yn ddiogel.
Er nad ydym ni’n hoffi cau mynediad i’n coedwigoedd, sy’n cael eu mwynhau gan lawer, mae safleoedd cynaeafu byw yn hynod o beryglus, ac mae hyn yn angenrheidiol i warchod diogelwch ein staff, ein contractwyr, a phobl sy’n ymweld â’r coetir.
Cofiwch gadw at yr holl hysbysiadau cau a dargyfeirio pan fyddan nhw yn eu lle. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned leol.
Ceir rhagor o wybodaeth am ymweld â’n coedwigoedd yn ddiogel yma
Ailblannu
Er ei bod yn anffodus pan fydd yn rhaid inni dorri coed sydd wedi’u heintio â chlefyd llarwydd, mae’n rhoi’r cyfle inni ailgynllunio’r coetiroedd a’u gwneud yn fwy gwydn ar gyfer y dyfodol.
Rydym ni’n ymfalchïo mewn gwneud yn siŵr bod ein coedwigoedd yn cael eu cwympo’n gyfrifol, er mwyn bodloni holl ofynion Safonau Coedwigaeth y DU.
Bydd ein tîm coedwigaeth yn cadw llygad barcud ar y safle am arwyddion o aildyfiant naturiol o fewn y pum mlynedd gyntaf o dorri coed. Lle nad yw cynhyrchu naturiol yn bosibl, byddwn yn ailblannu gyda chymysgedd o rywogaethau, gyda newid mewn patrymau plannu a fydd yn helpu'r coetir i wrthsefyll bygythiad plâu a chlefydau a newid hinsawdd yn well.
Gwaith teneuo
Mae gwaith teneuo ar y gweill yn Nyffryn Gwy.
Mae teneuo’n rhan hanfodol o’n gwaith coedwigaeth, sy’n ein galluogi i gynnal iechyd a gwytnwch ein coetiroedd a sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n gynaliadwy.
Unwaith y bydd ardal o goed wedi aeddfedu i faint penodol, maen nhw’n dechrau cystadlu â'i gilydd am faetholion, dŵr a golau.
Mae teneuo’r coed yn helpu i leihau’r gystadleuaeth hon ac yn ein galluogi i gael gwared ar goed afiach a’r rhai nad ydynt yn tyfu’n dda. Mae teneuo hefyd yn hybu sefydlogrwydd o fewn y coed sy'n weddill, gan gynyddu eu hirhoedledd ac yn galluogi cadw canopïau coed.
Yn Nyffryn Gwy, mae teneuo'n cael ei ddefnyddio i reoli newid rhywogaethau dros amser i adfer Safleoedd Coetir Hynafol. Gwneir hyn drwy gynyddu lefelau golau ar lawr y goedwig er mwyn annog adfywiad coed llydanddail brodorol.
Cynllun Adnoddau Coedwigoedd
Rydym ni’n gwahodd pobl sy’n mwynhau defnyddio ein coetiroedd ar draws de Dyffryn Gwy i ddweud eu dweud ar ein rheolaeth hirdymor ar Goedwigaeth, sy’n ein helpu i benderfynu ar y ffordd orau o reoli pob coetir dros y 10 mlynedd nesaf.
Mae'r cynllun yn nodi amcanion a chynigion hirdymor ar gyfer rheoli'r coetiroedd a'r coed sydd ynddyn nhw yn y dyfodol.
Bydd yr ymgynghoriad ar gael cyn bo hir.
Cynllunio coedwigoedd
Mae cynllunio gwaith cwympo, teneuo ac ailstocio yng nghoetiroedd dyffryn Gwy yn broses hir. Mae cynlluniau'n cael eu cychwyn o fewn y Cynllun Adnoddau Coedwig, sydd wedyn yn cael ei dynnu i mewn i gynlluniau rhaglenni tactegol 5 mlynedd.
Defnyddir y rhaglenni tactegol hyn i ddatblygu cynlluniau gweithredol 2 flynedd. Mae'r amseroedd arweiniol hyn yn hanfodol i sicrhau bod yr holl wiriadau, ymgynghoriadau, arolygon a rheoliadau cywir yn cael eu cadw atynt. Dyma sampl o rywfaint o’r gwaith a wneir yn ystod y cyfnod cynllunio gweithredol:
• Arolygon ecolegol (cynefin, Ystlumod, Adar, moch daear, fflora a ffawna)
• Arolwg treftadaeth
• Gwiriadau peryglon a chyfyngiadau
• Arolwg amcangyfrif cyfaint a marcio ffiniau
• Cynllunio cyfleusterau
• Ymgynghori â rhanddeiliaid
• Gwerthusio llanerchi a chynnyrch yn torri allan.
• Dull Gweithio
• Cynllunio rheoli dŵr
• Sgrinio AEA
• Asesiadau Rheoleiddio Cynefin
Mynd i'r afael â rhywogaethau ymledol yn Nyffryn Gwy
Yr haf hwn, mae ein timau rheoli tir yn gofyn am eich help i fynd i’r afael â Jac y Neidiwr yn ein coetiroedd ar draws de-ddwyrain Cymru.
Mae Jac y Neidiwr yn rhywogaeth ymledol a all feddiannu ardal o goetir yn gyflym, gan gysgodi planhigion brodorol sy'n fwy dymunol ar gyfer infertebratau sy’n bryfed peillio fel gwenyn a gloÿnnod byw.
Os gwelwch un o’r arwyddion isod yn ein coetiroedd rydym ni’n gofyn i chi ein helpu i fynd i’r afael â’r lledaeniad trwy:
• Dynnu - Tynnwch y planhigyn allan o'r ddaear (gan gynnwys y gwreiddiau). Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo menig!
• Torri - Torrwch y planhigyn i fyny trwy dorri'r coesyn mewn sawl man
• Gwasgu - Gorffennwch trwy osod y planhigyn ar y ddaear a'i wasgu â'ch esgidiau. Yna gadewch y planhigyn i bydru'n naturiol ar ochr y llwybr
Os yw’r codennau hadau yn edrych fel y rhai a ddangosir yn y ddelwedd isod, mae’n bwysig nad ydych yn tynnu’r planhigyn oherwydd bydd hyn yn achosi i’r codennau hadau fyrstio a gwasgaru dros ardal eang.
Ceir mwy o wybodaeth yma Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhywogaethau Estron Goresgynnol mewn Coetiroedd
Coedlannau yn Nyffryn Gwy
Rydym ni’n cynnal rhaglen o waith adfer i reoli coedlannau yn Nyffryn Gwy i adfer a chreu cynefinoedd gwerthfawr sy’n gysylltiedig â rheoli coedlannau ac i ddarparu diwrnodau addysg a chyfranogiad cymunedol.
Mae coedlannau yn ffordd hynafol o ofalu am goed sy'n golygu eu torri i lawr i lefel y ddaear, fel y gallan nhw wedyn egino ac aildyfu gyda llawer o goesynnau. Rydym ni’n defnyddio’r rhain ar gyfer cynhyrchion coetir fel siarcol, polion gwrychoedd, polion ffa a ffagots - clystyrau o ddeunydd prennaidd wedi’u clymu’n dynn wrth ei gilydd - i sefydlogi glannau afonydd.
Rydym ni’n gweithio gyda Chwmni Buddiannau Cymunedol o’r enw ‘Wye Coppice’ sydd wedi cynnal arddangosiadau siarcol cymunedol a diwrnodau gwneud ffagots mewn partneriaeth ag AHNE Dyffryn Gwy.
Ymhlith y safleoedd rydym ni wedi’u coedlannau’n ddiweddar mae Troy Park, Wet Meadow a Choed y Ffermau.
Hamdden- Parc Naturiol Whitestone
Oherwydd rhesymau diogelwch, yn anffodus roedd angen i ni dynnu’r offer chwarae pren o’r maes chwarae ym maes parcio Whitestone ger Tyndyrn fis Tachwedd y llynedd, gan fod y fframiau pren wedi dechrau pydru.
Mae man chwarae mwy naturiol wrthi’n cael ei ddylunio a’i osod yn ei le, gan ddefnyddio nodweddion naturiol, a fyddai i’w cael mewn coetir neu leoliad cefn gwlad arall.
Rydym ni eisiau i’r ardal chwarae newydd ysbrydoli plant i ymgolli mewn chwarae ac ymgysylltu â byd natur, eu hannog i grwydro’r goedwig hardd a thu hwnt, cael anturiaethau a chael eu hamsugno mewn bydoedd dychmygol.
Gweler y dyluniadau ar gyfer yr ardal chwarae newydd isod
Mwy o wybodaeth
Byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar y dudalen hon am y gwaith wrth i'r gweithrediadau fynd rhagddynt.
Give us your views
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni: SEForest.operations@naturalresources.wales
Ardaloedd
- Ystrad Mynach
Cynulleidfaoedd
Diddordebau
- Forest Management
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook