Dwyrain Coed Gwent – teneuo
Overview
I weld y dudalen yn Saesneg, cliciwch yma.
Pa waith fydd yn digwydd?
Mae gweithrediadau teneuo coedwigoedd i fod i ddechrau cyn hir.
Mae'r coetir wedi'i ddynodi'n Blanhigfa ar Safle Coetir Hynafol (PAWS). Amcan y gweithrediad yw adfer y coetir yn ôl yn goetir hynafol.
Bydd teneuo'r coed conwydd o fewn y coetir yn creu lle a chynyddu lefelau golau i hyrwyddo aildyfiant naturiol yn yr isdyfiant.
Pam rydyn ni'n teneuo coed?
Unwaith y bydd ardal o goed wedi aeddfedu i faint penodol, maent yn dechrau cystadlu â'i gilydd am faethynnau, dŵr a golau.
Mae teneuo’r coed yn helpu i leihau’r gystadleuaeth hon ac yn ein galluogi i gael gwared ar goed afiach a’r rhai nad ydynt yn tyfu’n dda.
Dyma un o’r gweithgareddau mwyaf buddiol y gellir ei wneud ar gyfer coedwig sy’n tyfu ac mae’n rhan hanfodol o gylchred y goedwig.
Ceir rhagor o wybodaeth am sut rydym yn gofalu am ein coedwigoedd: Cylch bywyd ein coedwigoedd a'n coetiroedd
Map yn dangos yr ardal yr effeithiwyd arni
Areas
- Newport
Audiences
- Management
Interests
- Forest Management
Share
Share on Twitter Share on Facebook