Crib Ddwyreiniol Cwmcarn - gweithrediadau coedwig
Trosolwg
Cliciwch i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg / Click to read this page in English
Pa waith fydd yn digwydd?
Mae gweithrediadau cwympo yn digwydd yn ardal Crib Ddwyreiniol Coedwig Cwmcarn i deneuo'r coed conwydd a bydd yn cymryd tua chwe mis i'w gwblhau.
Mae'r gwaith yn rhan o ymdrech ehangach i adfer a gwella iechyd y coetir yn dilyn yr aflonyddwch a achoswyd gan yr achosion o glefyd llarwydd. Bydd y teneuo yn:
- agor y canopi i annog adfywiad naturiol.
- gwella sefydlogrwydd a gwytnwch y cnydau coed sy'n weddill.
- cefnogi adfer coetir hynafol, yn enwedig yn ardaloedd de y safle.
Cau Mynediad a Llwybrau Troed
Bydd Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar gau yn swyddogol yn ystod y cyfnod gweithredu. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud pob ymdrech i gadw cymaint o lwybrau troed ar agor â phosibl. Bydd y cau dros dro ac wedi'i gyfyngu i barthau gwaith gweithredol, gan ailagor wrth i weithrediadau fynd rhagddo.
Diogelwch
Yn ystod y gwaith, dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau diogelwch a byddwch yn ymwybodol o symudiadau loris pren ar ffyrdd y goedwig.
Dysgwch fwy am ymweld â’n coedwigoedd yn ddiogel
Diweddariadau gwaith
Mae’r gwaith bellach wedi dechrau yn Ardal 4 (fel y dangosir ar y map) ac yn symud ymlaen i Ardal 3 unwaith y bydd gwaith yn Ardal 4 wedi’i gwblhau.
Map yn dangos yr ardal waith
Pam rydyn ni'n teneuo coed?
Unwaith y bydd ardal o goed wedi aeddfedu i faint penodol, maent yn dechrau cystadlu â'i gilydd am faethynnau, dŵr a golau.
Mae teneuo’r coed yn helpu i leihau’r gystadleuaeth hon ac yn ein galluogi i gael gwared ar goed afiach a’r rhai nad ydynt yn tyfu’n dda. Mae hefyd yn annog adfywio naturiol rhywogaethau brodorol ac yn helpu i adfer ein coetiroedd hynafol.
Dyma un o’r gweithgareddau mwyaf buddiol y gellir ei wneud ar gyfer coedwig sy’n tyfu ac mae’n rhan hanfodol o gylchred y goedwig.
Dysgwch fwy am sut rydym yn gofalu am ein coedwigoedd: Cylch bywyd ein coedwigoedd a'n coetiroedd
Cysylltwch รข ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
Ardaloedd
- Abercarn
- Two Locks
Cynulleidfaoedd
- Forest Management
Diddordebau
- Forest Management
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook