Gwybodaeth am weithrediadau coedwigaeth yng nghoetiroedd West End a Llanbradach, Caerffili

Yn cau 10 Mai 2025

Wedi'i agor 10 Mai 2024

Trosolwg

Gweld y dudalen hon yn Saesneg 

West End (sgroliwch i lawr am wybodaeth am Lanbradach)

Mae gwaith cwympo coed yn cael ei wneud yn y coetir hwn i gael gwared ar goed llarwydd sydd wedi'u heintio â Phytophthora ramorum.

Ym mis Chwefror, dechreuodd ein contractwyr weithio yn yr ardal ogleddol (a nodir ar y map isod) ac maen nhw’n gweithio eu ffordd tua'r de.

Mae oedi wedi bod yn y gwaith ar hyn o bryd oherwydd adar yn nythu a bydd yn ailddechrau ar ddiwedd y tymor bridio.

Mynediad cyhoeddus

Bydd Llwybrau Troed a Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn West End yn parhau ar agor i'r cyhoedd, ond er mwyn sicrhau eich diogelwch eich hun a diogelwch ein contractwyr, gofalwch eich bod yn ufuddhau i unrhyw wyriadau neu arwyddion sy’n weithredol.

Map yn dangos ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn West End

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Sylwch fod y lliwiau ar y map yn dynodi'r ardaloedd o'r llannerch lle bydd y gwaith yn digwydd o fewn y coetir

Ailblannu

Unwaith y bydd yr holl goed llarwydd heintiedig wedi'u symud oddi yno, rydym yn bwriadu ailblannu coed yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt. Bydd hyn yn cynnwys cymysgedd amrywiol o rywogaethau i helpu i sicrhau bod ein coetiroedd yn gallu gwrthsefyll plâu a chlefydau yn well yn y dyfodol.

Map yn dangos cynlluniau i ailstocio yng nghoetiroedd West End

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Llanbradach

Erbyn hyn mae’r gwaith cwympo coed llarwydd a heintiwyd â Phytophthora ramorum yn y coetir hwn wedi cael ei gwblhau.

Cofiwch fod rhywfaint o bren yn dal ar y safle. Gall pentyrrau pren fod yn beryglus, felly er eich diogelwch eich hun peidiwch â dringo arnynt.

Unwaith y bydd y pren wedi cael ei gludo o’r coetir, gall ein swyddogion gynnal archwiliad a gofalu bod yr holl lwybrau cerdded yn agored.

Ailblannu

Unwaith y bydd yr holl goed llarwydd heintiedig wedi'u symud oddi yno, rydym yn bwriadu ailblannu coed yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt. Bydd hyn yn cynnwys cymysgedd amrywiol o rywogaethau i helpu i sicrhau bod ein coetiroedd yn gallu gwrthsefyll plâu a chlefydau yn well yn y dyfodol.

Map yn dangos cynlluniau i ailstocio yng nghoetiroedd Llanbradach

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Give us your views

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â ni.  SEForest.operations@naturalresources.wales

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Forest Management