Gwybodaeth am weithrediadau coedwigaeth yng nghoedwigoedd Wylie

Yn cau 10 Ebr 2025

Wedi'i agor 10 Mai 2024

Trosolwg

Gweld y dudalen hon yn Saesneg 

Rydym yn falch o ddweud bod contractwr newydd bellach wedi'i benodi ar gyfer gwaith cwympo coed yng nghoetir Wylie yn nyffryn Sirhywi, ac mae disgwyl i'r gwaith ddechrau yn fuan.

Tua diwedd mis Mai, bydd y pentyrrau pren sydd eisoes wedi'u cwympo wrth ochr y ffordd yn cael eu codi a'u cludo i felin bren.

Bydd gwaith cwympo coed i gael gwared ar y 38 hectar sy'n weddill o goed llarwydd sydd wedi’u heintio â Phytophthora ramorum (sy’n fwy adnabyddus fel clefyd y llarwydd) yn digwydd ym mis Awst, er mwyn osgoi tymor nythu adar.

Byddwch yn ymwybodol y bydd wagenni pren yn defnyddio ffordd y goedwig. Er eich diogelwch chi a'n contractwyr, ufuddhewch i unrhyw arwyddion a allai fod yn weithredol os gwelwch yn dda.

Sylwer bod y gwaith hwn yn barhad o'n gweithrediadau coedwigaeth blaenorol yn y coetir hwn ac mae ar wahân i’r cais cynllunio ar gyfer cynnig adfer Tomen Bedwas.

Hoffem ddiolch i'r gymuned ac i’r rhai sy’n ymweld â’r coetir am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod y gwaith hwn.

Mynediad cyhoeddus

Bydd llwybrau troed a Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn Wylie yn parhau ar agor i'r cyhoedd, ond er mwyn sicrhau eich diogelwch eich hunain a diogelwch ein contractwyr, gofalwch eich bod yn ufuddhau i unrhyw ddargyfeiriadau neu arwyddion sy’n weithredol.

Map yn dangos ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn Wylie

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Sylwch fod y lliwiau ar y map yn dynodi ardaloedd y llannerch lle bydd gwaith yn digwydd o fewn y coetir

Ailblannu

Unwaith y bydd yr holl larwydd heintiedig wedi'i symud oddi yno, rydym yn bwriadu ailblannu coed yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt. Bydd hyn yn cynnwys cymysgedd amrywiol o rywogaethau i helpu i sicrhau bod ein coetiroedd yn gallu gwrthsefyll plâu a chlefydau yn well yn y dyfodol.

Map yn dangos cynlluniau i ailstocio yng nghoetiroedd Wylie

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Give us your views

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â ni.  SEForest.operations@naturalresources.cymru

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Forest Management