Gwybodaeth am weithrediadau cwympo coed ym Mharc Cas-gwent

Yn cau 28 Tach 2024

Wedi'i agor 28 Hyd 2024

Trosolwg

Cliciwch yma i weld y dudalen Saesneg

Mae disgwyl i weithrediadau cwympo coed ddechrau cyn bo hir ym Mharc Cas-gwent, er mwyn cael gwared ar oddeutu 1 ha o goed llarwydd sydd wedi'u heintio â Phytophthora ramorum, (sef clefyd y llarwydd.)

Unwaith y bydd y gweithrediadau yn cychwyn, bydd y gwaith yn cymryd tua mis i'w gwblhau.

Beth yw clefyd y llarwydd?

Mae clefyd y llarwydd, neu Phytophthora ramorum, yn glefyd tebyg i ffwng sy’n gallu achosi difrod helaeth a marwolaeth i amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill. Mae clefyd y llarwydd yn ymledu o goeden i goeden drwy gyfrwng sborau yn yr awyr. Nid yw’n berygl i iechyd pobl nac anifeiliaid o gwbl. 

Er na allwn atal lledaeniad clefyd y llarwydd, fe allwn gymryd camau i’w arafu.

Dysgwch fwy am ein dull o fynd i’r afael â chlefyd y llarwydd a chlefyd coed ynn

Mynediad i’r goedwig yn ystod y gwaith

Mae’n debygol y bydd yn rhaid i ni atal mynediad i’r cyhoedd i rai rhannau o’r goedwig tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo, er mwyn caniatáu i’r gwaith gael ei wneud yn gyflym ac yn ddiogel.

Dydyn ni ddim yn hoffi atal mynediad i’n coedwigoedd, am fod llawer o bobl yn eu mwynhau, ond mae safleoedd cynaeafu byw yn hynod beryglus, ac mae hyn yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn diogelwch ein staff, ein contractwyr ac ymwelwyr â’r coetir.

Cadwch at yr holl arwyddion cau a dargyfeirio pan fyddant mewn lle. Fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i sicrhau y terfir cyn lleied â phosib ar y gymuned leol.

Dysgwch fwy am ymweld â’n coedwigoedd yn ddiogel yma

 

Ailblannu

Er ei bod yn anffodus pan fo’n rhaid i ni gwympo coed sydd wedi’u heintio â chlefyd y llarwydd, y mae’n cynnig cyfle i ni ailddylunio’r coetiroedd a’u gwneud yn fwy cydnerth at y dyfodol.

Rydyn ni’n ymfalchïo mewn sicrhau bod ein coedwigoedd yn cael eu cwympo mewn ffordd gyfrifol, er mwyn bodloni holl ofynion Safonau Coedwigaeth y DU.

Bydd ein tîm coedwigaeth yn monitro’r safle’n ofalus am arwyddion o adfywiad naturiol yn y pum mlynedd cyntaf wedi cwympo’r coed. Os na fydd adfywio naturiol yn bosib, byddwn yn ailblannu â chymysgedd o rywogaethau, gyda newid yn y patrymau plannu a fydd yn helpu’r coetir i wrthsefyll bygythiad plâu ac afiechydon a newid hinsawdd yn well.

Map yn dangos yr ardal yr effeithiwyd arni ym Mharc Cas-gwent

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Give us your views

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â SEForest.operations@naturalresources.wales

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Forest Management