Gweithio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd yng Ngwent
Trosolwg
Hoffai Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent (BGC) ymgysylltu â phawb yng Ngwent sy’n gweithio i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau economaidd a gwella ein ffyniant i bobl a’r amgylchedd gyda’i gilydd. Mae Cynllun Llesiant Gwent yn nodi’r amcanion a’r camau y byddwn yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r materion pwysicaf i bobl Gwent. Mae’r arolwg hwn yn cefnogi ac yn llywio ein dealltwriaeth o sut y byddwn yn cyflawni’r cynllun ar gyfer y 5 mlynedd nesaf ar draws siroedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.
Rydym eisiau cydnabod, dathlu ac adeiladu ar y prosiectau llwyddiannus ledled Gwent. Trwy gwblhau’r arolwg hwn, byddwch yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r grwpiau cymunedol, sefydliadau, busnesau a chyrff cyhoeddus yng Ngwent sy’n ariannu, cynllunio neu gyflawni prosiectau sy’n:
- Cynyddu gweithgaredd economaidd
- Mynd i'r afael â diweithdra hirdymor a diweithdra ymhlith pobl ifanc
- Hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth addas a theg
- Cynnig llwybrau at gyflogaeth (e.e. gwella sgiliau gwyrdd, hyfforddiant, gwirfoddoli a phrentisiaethau)
- Mynd i'r afael â thlodi tanwydd a bwyd, gan gynnwys ansicrwydd a chostau byw
- Hyrwyddo economi llesiant, lle mae anghenion pobl a’r amgylchedd yn cael eu diwallu’n gyfartal
- Gwella twf economaidd sy'n gynaliadwy, yn wyrdd ac yn cael ei rannu'n deg
Wrth ddweud wrthym am eich prosiect, byddwch yn ein helpu i lunio a llywio cynllun cyflawni sy’n gwella cyfleoedd economaidd i bawb, gan hefyd sicrhau bod y rhai mwyaf anghenus yn cael y cymorth mwyaf. Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu ar wersi a ddysgwyd ac arfer da, datblygu syniadau ac arloesi, a hybu ffyrdd integredig a chydweithredol o weithio sy’n helpu i adeiladu Gwent decach a mwy gwydn.
Gallwch ddarganfod mwy am BGC Gwent yma: Hafan - Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent (gwentpsb.org). Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), fel sefydliad sy'n aelod o'r BGC, yn cynnal yr arolwg hwn ar ran y BGC.
Pam bod eich barn yn bwysig
Ychydig o wybodaeth ddefnyddiol cyn i chi ddechrau'r arolwg:
- Trwy gydol yr arolwg rydym yn holi am 'Brosiectau'. At ddiben yr holiadur hwn, dylid ystyried y term hwn yn gyfnewidiol gyda’r canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): rhaglenni, mentrau, ymgyrchoedd, strategaethau, cynlluniau a meysydd gwaith. Gall y rhain hefyd fod ar unrhyw gam yn eu datblygiad a chyflwyniad, o syniadau, cynllunio a chwmpasu i gyllido, gweithredu a chwblhau.
- Dylech fod wedi derbyn dogfen Word i gyd-fynd â'r ddolen hon fel y gallwch weld yr holl gwestiynau gyda'i gilydd. Os nad ydych wedi derbyn y ddogfen ac yn dymuno cael copi, cysylltwch ag andrew.parker@blaenau-gwent.gov.uk
- Mae angen ateb rhai cwestiynau cyn y gallwch symud ymlaen, ond mae eraill yn wirfoddol - rhannwch yr hyn y gallwch.
- Nid oes angen i chi gwblhau’r arolwg i gyd ar unwaith, gallwch arbed eich atebion a dychwelyd yn ddiweddarach i gwblhau’r arolwg.
- Os hoffech sôn am fwy nag un prosiect, cwblhewch arolwg ar wahân ar gyfer pob un.
- Dylai gymryd 15 munud i gwblhau'r arolwg hwn.
- Mae'r arolwg hwn yn fyw (10 Ionawr 2024) ac yn cau ar 7 Chwefror 2024
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch i chi am gymryd yr amser i ddweud wrthym am eich prosiect. Byddwn yn rhannu canlyniadau'r arolwg hwn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Gwent
Diddordebau
- Gwent
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook