Coetir Beacon Hill – gwaith cwympo coed
Trosolwg
Er mwyn gweld y dudalen yn Gymraeg cliciwch yma
Diweddariad (21/11/24)
Yn dilyn adroddiadau am afliwiad y pwll yn Beacon Hill (cyfeirnod grid SO 5174 0505) mae ein swyddogion wedi bod allan ar y safle i gymryd samplau dŵr fel rhagofal.
Mae'r canlyniadau'n dangos lefelau uwch o Alw Biocemegol am Ocsigen (BOD).
Fel rhagofal, efallai y byddwch am gadw cŵn a da byw allan o’r dŵr hyd nes y ceir diweddariad.
Mae gwaith cynaeafu coed yn cynhyrchu malurion (canghennau, nodwyddau a thocion), a all am gyfnod byr yn ystod ac ar ôl y gweithrediadau arwain at lefelau uwch o BOD.
Mae’n bosib fod y gwartheg sy'n pori yma i reoli’r safle ar gyfer cadwraeth hefyd yn cyfrannu at y lefelau uwch, gan fod ganddynt fynediad i'r pwll.
Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac yn darparu diweddariad pellach maes o law.
Diweddariad (12/11/24)
Yn ddiweddar, mae ein tîm coedwigaeth wedi derbyn Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol pellach ar y coed llarwydd o fewn Cnwd o Ffynidwydd Douglas ger maes parcio'r gogledd (gweler manylion ar y map)
Yn ogystal â’r gwaith llwyrgwympo sy’n digwydd ar hyn o bryd yn y goedwig bydd yr ardal hon yn cael ei theneuo.
Mae safleoedd cynaeafu byw yn beryglus - er mwyn sicrhau eich diogelwch chi a diogelwch ein contractwyr, dilynwch bob arwydd pan fyddwch yn yr ardal.
Diweddariad (01/10/24)
Pa fath o waith sy'n digwydd?
Mae gwaith cwympo coed bellach wedi dechrau yng nghoetir Beacon Hill, ger Narth, er mwyn cael gwared o 16 hectar o goed llarwydd sydd wedi’u heintio â Phytophora ramorum (neu glefyd y llarwydd).
Bydd y gwaith yn cymryd tua 9 mis.
Beth yw clefyd y llarwydd?
Mae clefyd y llarwydd, neu Phytophthora ramorum, yn glefyd tebyg i ffwng sy'n gallu achosi difrod helaeth a lladd amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill. Mae clefyd y llarwydd yn lledaenu wrth i sborau hedfan yn yr awyr o goeden i goeden. Nid yw'n fygythiad i iechyd pobl nac anifeiliaid.
Er na allwn atal lledaeniad clefyd y llarwydd, gallwn gymryd camau i'w arafu.
Dysgwch fwy am ein dull o fynd i'r afael â chlefyd llarwydd a chlefyd coed ynn
Adar sy’n nythu
Cyn i unrhyw waith ddechrau, rydym yn gweithio'n agos ag arolygwr adar i gynnal arolwg trylwyr o'r safle am unrhyw adar sy'n nythu. Bydd ardal waharddedig yn cael ei rhoi o gwmpas unrhyw nythod a ddarganfyddir a bydd y timau'n gweithio o amgylch yr ardal nes bod yr adar wedi gorffen magu a gadael y nyth.
Mynediad i'r goedwig yn ystod gweithrediadau
Byddwn yn ymdrechu i gadw cymaint o'r coetir ar agor ag sydd bosibl wrth weithio ar y safleoedd. Ond efallai y bydd angen cau rhannau o'r coetir am resymau diogelwch o bryd i'w gilydd. Er eich diogelwch eich hun: Os gwelwch yn dda ufuddhewch i arwyddion pan fyddwch yn y coetir.
Er ein bod yn ymdrechu i gadw cymaint ag sydd bosibl o'r coetir ar agor, efallai y bydd angen inni gau rhai ardaloedd tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, er mwyn caniatáu i'r gwaith gael ei wneud yn gyflym ac yn ddiogel.
Er nad ydym yn hoffi cau mynediad i’n coedwigoedd, sy’n rhoi mwynhad i lawer, mae safleoedd cynaeafu byw yn hynod o beryglus, ac mae hyn yn angenrheidiol i ddiogelu ein staff, ein contractwyr, ac ymwelwyr â’r coetir.
Cofiwch ufuddhau i’r holl hysbysiadau cau a dargyfeirio a fyddwch yn eu gweld. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amharu cyn lleied ag sydd bosibl ar y gymuned leol.
Dysgwch fwy am ymweld â'n coedwigoedd yn ddiogel yma
Ailblannu
Unwaith y bydd y llarwydd heintiedig wedi cael ei symud, byddwn yn ailblannu gyda choed llydanddail brodorol yn yr ardaloedd dan sylw.
Cludo pren
Bydd angen i gerbydau cludo gael mynediad rheolaidd i'r coetiroedd er mwyn symud pren sydd wedi'i gynaeafu o'r safle. Ar gyfer safleoedd sy'n agos at gymunedau, bydd hyd at wyth llond lori y dydd. Mewn ardaloedd adeiledig bydd cyfyngiad pellach hefyd ar y gweithgaredd hwn i amser y tu allan i oriau brig y nos ac yn gynnar yn y bore.
Map yn dangos yr ardal yr effeithiwyd arni
Give us your views
If you have any questions, please contact: SEForest.operations@naturalresources.wales
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Management
Diddordebau
- Forest Management
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook